LEWIS MORRIS



Yr oedd Lewis Morris yn un o ffigurau pwysicaf y ddeunawfed ganrif yng Nghymru, ac nid tasg hawdd yw rhoi darlun cyflawn ohono mewn erthygl fer. Wrh ysgrifennu amdano yn 1966, dyma oedd gan y diweddar ysgolhaig Hugh Bevan i ddweud amdano:

Yr oedd y bardd hwn ar yr un pryd yn ysgolhaig, yn wyddonydd ac yn dechnolegwr cynnar. Cynlluniodd offer mor wahanol â melin wynt a meicrosgob.Wrth ei alwedigaeth bu ar wahanol adegau yn wyliwr trethi, yn fesurydd tiroedd, yn wneuthurwr mapiau ac yn oruchwyliwr mwynfeydd. Yn ei oriau hamdden ymddiddorai mewn llysieueg, cregineg, peirianneg, cemeg a llawer gwyddor arall . . .Pan aeth i Landrindod er mwyn ei iechyd, aeth â'i feicrosgob ac offer pwrpasol eraill gydag ef i ddadansoddi'r dŵr er mwyn dewis y ffynnon fwyaf llesol.

Y mae nodiadau ymhlith ei bapurau ynglŷn â sut i fynd ati i lunio telyn ? yn wir, fe geir dywediad adnabyddus amdano sy'n honni 'y medrai wneud telyn a'i chanu, gwneud llong a'i hwylio, a gwneud cywydd a'i ganu gyda'r tannau'. Yn ei ddydd yn ddiamau, ef oedd y pennaf awdurdod ar yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth, a chydnabyddid hynny gan bawb yng Nghymru a oedd yn abl i farnu, a chan bawb y tu allan i Gymru hefyd, a oedd yn ymddiddori yn ei hiaith a'i hanes. Bu'n athro ac yn gefn i feirdd a llenorion ei gyfnod, megis Goronwy Owen ac Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) ymhlith eraill. Er gwaethaf yr helbulon a ddaeth i'w ran wedi iddo symud i Geredigion (gweler isod), parhaodd i gasglu'n ddyfal ddeunydd ar gyfer ei eiriadur mawr, Celtic Remains, na welodd olau dydd hyd ar ôl ei farw, a hynny'n rhannol yn unig.

Gŵr tywyll ydoedd o bryd a gwedd, ac yn dra chorffol a barnu yn ôl rhai o'r llysenwau a roddwyd arno gan ei frodyr a'i nai, John Owen, wrth ysgrifennu at ei gilydd ? 'Y Tew', 'Y Tew Mawr o Allt Fadog', 'Y Bras o Benbryn' a 'The Fat Man of Cardiganshire.' Y dystiolaeth sydd gennym yw nad oedd yn ŵr hoffus. Gŵr balch ydoedd, trahaus ar brydiau, caled a dideimlad. Un parod iawn i ddigio a llyncu mul. Tueddai i guddio pethau oddi wrth y rhai agosaf ato, ac yr oedd iddo'r gair o fod yn ariangar a chybyddlyd ? hynny cyn iddo ddod i Geredigion. Gŵr hunanol yn barod i fanteisio ar garedigrwydd eraill. Eto ceir cip arno yn un o'i lythyrau yn mwynhau ei hun yng nghanol ei blant ar ei aelwyd, ac ni ellir llai na chlosio ato pan sonia mewn llythyr at Edward Richard, Ystrad Meurig, am farwolaeth ei fab John, o'r frech wen pan oedd yn ddeg oed, 'Collais y dydd arall fy mebyn annwyl', meddai, 'dros yr hwn y rhoeswn fy hoedl'.

Gŵr o Fôn oedd Lewis Morris. Yno y ganed ef yn 1701, yn un o bedwar brawd ac un chwaer, ac yno y bu byw hyd ei ddeugeiniau cynnar. Dysgodd grefft y cowper gan ei dad, ac ymddiddorodd mewn syrfeiaeth. Cyflogwyd ef yn 1724 i wneud arolwg o stad Owen Meyrick, sgweier Bodorgan, ac ar sail y gamp honno, a dylanwad Meyrick, comisiynwyd ef gan y Morlys i wneud arolwg o arfordir Cymru o gyffiniau Penmaen-mawr hyd at Aberdaugleddau. Y dasg saith mlynedd hon a ddaeth ag ef gyntaf i Aberystwyth, ac yno denwyd ef gan y diwydiant mwyn plwm a oedd mewn bri yng ngogledd y sir yr adeg honno. Y canlyniad fu setlo yma, a dod yn fuan iawn yn ddirprwy stiward tiroedd y Goron (hynny yw, y Llywodraeth) yng Ngheredigion. Yn y swydd honno un o'i ddyletswyddau oedd sicrhau bod y tirfeddianwyr lleol yn talu rhan o'r elw a gaent am y mwyn plwm ar eu tiroedd, i'r Goron, ond cyndyn iawn oeddynt i wneud hynny. Amhoblogaidd iawn oedd Lewis yn eu plith, a'r canlyniad fu i ugain mlynedd olaf ei oes, a dreuliodd yn yr ardal hon, fod yn rhai cythryblus a gofidus iddo. Bu'n rhaid iddo dreulio cyfnodau maith yn Llundain yn ymladd achosion cyfreithiol, a dioddefodd ei iechyd o'r herwydd. Mynych y sonia yn ei lythyrau at ei frodyr am y peswch a'r 'fygydfa' a'i blinai'n barhaus, ac am y meddyginiaethau rhyfedd ac ofnadwy a lyncai i geisio eu lleddfu.

Pan ddaeth Lewis Morris gyntaf i'r ardal hon yr oedd yn ŵr gweddw a chanddo ddwy ferch a adawyd yng ngofal ei deulu ym Môn. Tebyg iddo fyw am ychydig yng Nghwmsymlog, ond erbyn 1747 yr oedd wedi prynu rhan o fferm Allt Fadog, nid nepell o Gapel Madog. Uwchben drws Allt Fadog gwelir carreg i goffáu ei drigiant yno, a osodwyd rai blynyddoedd yn ôl gan Gymdeithas y Penrhyn. Bu'n byw yno gyda'i ail wraig, Anne, a oedd hanner ei oedran, sef unig ferch ac aeres stad fechan y Penbryn yng Ngoginan, lle aeth y ddau i fyw yn ddiweddarach. Ganed iddynt naw o blant, ac yn ychwanegol at y rheini daeth ei ddwy ferch o'r briodas gyntaf i fyw ato, yn ogystal â'i nai, John Owen, mab ei chwaer, Elin.

Y mae hanes ei flynyddoedd yn yr ardal hon yn un tra diddorol. Ar wahân i'r helynt a gafodd gan y sgwieriaid trachwantus lleol ? daliodd un ohonynt bistol llwythog wrth ei ben unwaith, a'i lusgo i'r carchar yn Aberteifi ? cafodd drafferth di-ben-draw hefyd gan ei ferch Pegi, o'i briodas gyntaf, a fynnodd garu a phriodi yn groes i'w ewyllys. Bu â'i fys mewn sawl antur yn y diwydiant mwyn plwm ei hun, a breuddwydiai'n gyson am y ffortiwn a fyddai'n sicr o ddod i'w ran rhyw ddydd. Ni ddaeth serch hynny, a bu farw'n gymharol dlawd yn 1765 a'i gladdu o flaen yr allor yn eglwys Llanbadarn Fawr lle gwelir maen yn y llawr yn nodi ei fedd ? maen a osodwyd yno gan ei or-ŵyr, y bardd Saesneg Fictoraidd, Syr Lewis Morris.

Darllen Pellach:

Hugh Bevan, 'Lewis Morris' yn Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif, gol. Dyfnallt Morgan (Llandybïe, 1966)

J. H. Davies (gol.), The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris, cyf. I a II (Aberystwyth, 1907, 1909)

Dafydd Ifans, 'Lewis Morris ac Arferion Priodi yng Ngheredigion', Ceredigion, 1977

Branwen Jarvis, 'Lewis Morris y ?Philomath? Ymarferol', yn Cof Cenedl X, gol Geraint H. Jenkins (Llandysul, 1995)

Alun R. Jones, Lewis Morris, Cyfres Dawn Dweud, (Caerdydd, 2004)

Bedwyr Lewis Jones, 'Lewis Morris', yn Gwŷr Môn, gol. Bedwyr Lewis Jones (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979)

Mari Elin Jones, ' ?Gwaith Prydydd Da'i Awenydd?: Cerddi Gwasael a Phenillion Telyn Lewis Morris', Canu Gwerin, 26 (2003)

Tegwyn Jones, Y Llew a'i Deulu (Tal-y-bont, 1982)

Tegwyn Jones, 'Lewis Morris: Cofnodwr Coelion', yn Gwerin Gwlad, golgn. E. Wyn James a Tecwyn Vaughan Jones (Llanrwst, 2008)

Hugh Owen (gol.), Additional Letters of the Morrises of Anglesey, cyf. I a II (Llundain, 1947, 1949)

Hugh Owen, The Life and Works of Lewis Morris (Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 1951)

Dafydd Wyn Wiliam, Cofiant Lewis Morris 1700/1?42 (Llangefni, 1997); Cofiant Lewis Morris 1742-65 (Llangefni, 2001)

T. H. Parry-Williams (gol.), Llawysgrif Richard Morris o Gerddi (Caerdydd, 1931)