Cae Chwarae Pen-bont Rhydybeddau


Mae stori'r Cae Chwarae yn dechrau tua deng mlynedd yn ôl pan ddaeth Ann Edwards, sy'n fam i dri o blant, i'r casgliad fod ar blant Pen-bont Rhydybeddau angen lle diogel i chwarae, gan fod y ffordd drwy'r pentref yn gul a pheryglus. Galwodd gyfarfod o holl drigolion y gymuned i weld a oedd modd gwireddu ei breuddwyd, ac yn y cyfarfod hwnnw penderfynwyd ethol pwyllgor a fyddai'n gyfrifol am sefydlu cae chwarae yn y pentref. Gyda chymorth y Comisiwn Elusennau, aethpwyd ati i lunio cyfansoddiad a chofrestrwyd y corff newydd yn elusen fel y gellid gwneud cais am grantiau i ariannu'r cynllun.

Er mwyn ennyn diddordeb pawb yn y gymuned yn y fenter, cynhaliwyd cystadleuaeth ar gyfer y plant lleol i gynllunio arwydd ar gyfer y cae chwarae. Mae'r cynllun buddugol i'w weld ar yr arwydd wrth y fynedfa. O gynnwys y plant yn y paratoadau, y gobaith oedd y byddent yn dod i ystyried y lle fel eu heiddo hwy ac na fyddent yn gwneud unrhyw ddifrod yno.

Y cam nesaf oedd mynd ati i gynllunio'r cae chwarae ei hun ac i gael amcangyfrifon o brisiau'r cyfarpar yr oedd ei angen. Bwriwyd ati ar unwaith gyda'r gwaith caled o godi arian. Cynhaliwyd llu o weithgareddau yn y pentref a chafwyd cefnogaeth wych gan y gymuned leol. Er hynny, profwyd ambell siom. Gwnaethpwyd dau gais aflwyddiannus i'r Lotri Genedlaethol, gan golli amser gwerthfawr. Drwy lwc, gwahoddwyd Ann Edwards i ymuno â phwyllgor Cronfa Eleri, cronfa a sefydlwyd gan y cwmni a gododd y melinau gwynt yn Bont-goch ac sy'n cyfrannu £10,000 y flwyddyn i gymdeithasau lleol. Nid oes amodau ynghlwm wrth yr arian hwn, cyhyd â bod y gymdeithas sy'n gwneud y cais yn cydymffurfio â meini prawf Cronfa Eleri a bod y pwyllgor o'r farn eu bod yn haeddu'r arian. Mae hyn yn fendith gan fod llawer iawn o gyrff ariannu yn mynnu bod arian cyfatebol ar gael cyn trosglwyddo unrhyw swm o arian, ac mae hyn yn gallu gwneud pethau'n anodd iawn i gymunedau bychain.

Wedi inni dderbyn arian gan Gronfa Eleri gallem ddefnyddio hwnnw fel arian cyfatebol wrth wneud cais i gyrff eraill. Llwyddwyd i gael grant gan Gyngor Sir Ceredigion yn ogystal â chan rai cyrff ariannu eraill. Yn araf deg llwyddwyd i godi digon o arian i gwblhau rhan gyntaf y cynllun, sef cae pêl-droed pump-bob-ochr, siglenni a ffrâm ddringo. Roeddem yn ffodus fod gennym ddau wirfoddolwr, Allan Langley a Meirion Edwards, a oedd yn fodlon gwneud y gwaith paratoadol o lefelu'r cae a gafwyd ar les gan y Cyngor Cymuned lleol. Bu'r ddau'n gweithio'n galed am oriau lawer yn paratoi'r cae cyn i'r cwmni ddod i osod y cyfarpar.

Yn ystod y blynyddoedd wedyn cwblhawyd ail a thrydedd ran y prosiect ac erbyn hyn mae gennym gae pêl-droed, trac beicio, ffrâm ddringo, llithren, siglenni a chylchdro. Llwyddwyd i godi oddeutu £32,000! Mae hyn yn anhygoel o ystyried maint y pentref, ac yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd pawb yn cydweithio â'i gilydd. Mae pawb yn helpu i gadw'r lle'n lân ac yn daclus a bob haf cynhelir diwrnod o hwyl i'r gymuned, pryd y cynhelir gemau, gêm bêl-droed gyfeillgar, adloniant, lluniaeth ac ocsiwn. Mae hwn yn ddigwyddiad poblogaidd iawn ac yn dangos bod pobl yn gwerthfawrogi ein gwaith. Rydym ni fel pwyllgor yn hynod ddiolchgar i bawb am eu holl waith caled ac yn gobeithio y bydd y gefnogaeth yn parhau. Diolch yn fawr.

Ann Edwards, Cadeirydd, Cae Chwarae Pen-bont Rhydybeddau