Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch 2017


EISTEDDFOD GADEIRIOL PENRHYN-COCH 22-23 EBRILL 2016



EISTEDDFOD GADEIRIOL PENRHYN-COCH 24/4 a 25/4 2015






LLONGYFARCHIADAU i ANWEN PIERCE am ennill y Gadair

anwen



TLWS YR IFANC: Llongyfarchiadau i Meleri Pryse, Aberystwyth

Meleri


Llywydd nos Wener - Ceri Williams (CROESO Nôl) a Marianne Powell

Ceri



YR EISTEDDFOD AR FACEBOOK

Llongyfarchiadau i Mairwen Jones ac Elsie Morgan am dderbyn tystysgrifau anrhydedd oddi wrth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol sir Gâr 2014 am eu gwasanaeth hir i Eisteddfod Penrhyn-coch

Mairwen ac Elsi


Gary Owen yn cyflwyno'r Tystysgrifau

Gary Owen 1


Gary Owen 2



Eisteddfod 2013

2012; Lluniau nos Sadwrn#Lluniau nos Wener#Y CANLYNIADAU I GYD#Rhaglen Eisteddfod 2012

CANLYNIADAU 2011
Lluniau: Y CORAU 2011
Lluniau: UNAWDWYR 2011
Lluniau: CADEIRIO, Beirniaid, Arweinyddion, Cyfeilydd, Llywyddion 2011
Beirniadaeth y Gadair, Telyneg, a'r Soned, gan Aled Gwyn 2011
Beirniadaeth Tlws yr Ifanc 2011

Lluniau 2010
Rhaglen Eisteddfod 2010

Lluniau 2009
Rhaglen Eisteddfod 2009

Cerdd y Gadair 2008: Rhyddid gan Rocet Arwel Jones
Lluniau 2008
Rhaglen Eisteddfod 2008

Cyflwyno Cadair Eisteddfod Penrhyn-coch 2013


Cyflwyno'r Gadair



Dr Huw Martin Thomas, Ger-y-llan, yn cyflwyno cadair hardd a rhodd o £50, er cof am ei rieni, Martin a Gwenda Thomas i Eirwen Hughes, Cadeirydd, a Mairwen Jones, Ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch.
Cadair 2013


Bydd y gadair yn wobr am gerdd heb fod dros 50 o linellau ar y testun 'Perthynas'. Dyddiad cau: 8 Ebrill 2013. Gwnaethpwyd y Gadair gan Gwmni MijMoj, Llanfairfechan.

EISTEDDFOD PENRHYN-COCH 2012

Diolch i Gareth Morris, Y Rhath, Caerdydd eleni am gyflwyno'r gadair er cof am ei dad a'i fam - Y Parchg a Mrs Arwyn P. Morris.

Cadair Eisteddfod Penrhyn-coch 2012



Yr Hanes 1964-88

Cyhoeddwyd yr erthygl isod a rhestr o enillwyr hyd 1987 yn Y Tincer 108 (Ebrill 1988) tt. 8-9.


Pan gynhelir Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch ymhen yr wythnos bydd achos i ddathlu gan mai dyma'r bumed eisteddfod ar hugain yn y gyfres bresennol. Er mai ym 1964 y cynhaliwyd y gyntaf yn y neuadd roedd traddodiad o gynnal eisteddfodau yn Horeb, Capel y Bedyddwyr, lle cynhaliwyd un ar ddydd Nadolig am flynyddoedd hyd 1919, ar ddydd Gŵyl San Steffan am rai blynyddoedd, ac yna o 1924 ymlaen cynhaliwyd hi ar nos Fercher ar ddechrau mis Rhagfyr hyd ddiwedd y tridegau. Mae'n ddiddorol edrych trwy'r rhaglenni a chymharu'r testunau â rhai heddiw. Nid oes fawr o newid yn y cystadlaethau cerddorol na'r adrodd ar wahân i'r ffaith fod darnau penodol wedi eu gosod yn y rhai cynharaf. Ceir yno hefyd adran 'Celfyddydwaith' lle gwobrwyir eitemau fel ffon gollen, coes rhaw, 'tea cosy' etc. Ceid traethodau ar bynciau sylweddol weithiau e.e. 'Taith genhadol gyntaf Paul', a'r 'Proffwyd Amos', ac yn 1921 'Hanes Eglwys y Bedyddwyr yn Penrhyn-coch a'i chymeriadau am yr hanner can mlynedd cyntaf'.

Ym 1937 cafwyd 'Cystadleuaeth y gacen orau'. Roedd yn rhaid ei gwneud i rysêit arbennig a oedd ar gael oddi wrth yr ysgrifennydd am dair ceiniog. Nodir fod yn 'rhaid i bob cacen ddwyn nod recipe yr Eisteddfod hon'. Roedd gwobr o 7/6 am yr orau, gwobr hael o ystyried mai 10/6 a gâi enillydd yr her adroddiad a 5/0 y pedwarawd.

Yn dilyn adeiladu'r neuadd newydd ym Mhenrhyn-coch a'i hagor ym 1960 dechreuodd cyfnod newydd yn hanes yr ardal. Wedi llwyddiant y carnifal cyntaf, daeth awgrym gan Carey Stephens y dylid ailddechrau'r eisteddfod a ffurfiwyd pwyllgor i'r pwrpas. Mae'r ysgrifennydd (Mrs Nesta Edwards) a'r trysorydd (Mrs Vera Evans) yn parhau yn eu swyddi. Mr Abraham Jones, Glanstewi, tad Mrs Edwards, oedd y cadeirydd cyntaf, a daliodd y swydd hyd 1971 pan ddilynwyd ef gan y cadeirydd presennol, Mr I. Gwyn Williams.

Roedd yn dipyn o fenter dechrau Eisteddfod o'r newydd ynghanol y chwedegau gan fod nifer o eisteddfodau lleol fel Goginan a Thal-y-bont wedi dod i ben erbyn hynny. Aethpwyd ati i gasglu arian a chwpanau. Penderfynwyd ei chynnal ar y Sadwrn olaf ond un ym mis Ebrill (cynhelid Eisteddfod Y Borth ar y Sadwrn olaf o'r mis). (Ym 1965 fe'i cynhaliwyd ar Sadwrn y Pasg ond ni fu mor llwyddiannus gan fod Eisteddfod Llanilar ar Ddydd Gwener y Groglith.) Hysbysebwyd yn y Cambrian News a chafwyd benthyg hen restr bostio Eisteddfod Tal-y-bont gan ei chyn-ysgrifennydd, J. R. Jones, a ddewiswyd fel beirniad llên ac adrodd. Nid oedd na 'Helô Bobol', 'Stondin Sulwyn' na 'Post Prynhawn' ar gael ym 1964 i yrru hysbys!

Penderfynwyd y dylai fod yn Eisteddfod Gadeiriol a rhoddwyd model o gadair gan Mr a Mrs Evans, 'Bwthyn', wedi ei gwneud gan eu diweddar fab Brian. Fe'i henillwyd gan Miss June Kenny Aberystwyth (Mrs June Griffiths erbyn heddiw). Model o gadair a gafwyd yr ail flwyddyn hefyd, ac yn y drydedd eisteddfod cafwyd y gadair esmwyth gyntaf, yn rhoddedig gan swyddogion y pwyllgor. Yr enillydd oedd Vernon Jones, Bow Street.

Dewiswyd dwy ferch yn llywyddion: Miss Sally Jenkins yn y prynhawn, ac yn yr hwyr Miss Megan Richards, un o Gymry Llundain oedd â'i gwreiddiau yn yr ardal. Deuai ei thad o Nantybwla, Cwm Madog, a'i mam yn chwaer i dad Mr Alwyn Davies, Llwyngronw. I ddathlu pen blwydd yr Eisteddfod gwahoddwyd y ddwy yn ôl i lywyddu cyfarfodydd 1988.

Yn wir ymddengys mai steddfod y merched oedd un 1964! Merched yn ysgrifennydd a thrysorydd, merched yn llywyddion, merch yn ennill y gadair a merch yn feirniad Cerdd ?un arall â chysylltiad â'r ardal, sef Gwyneth Alban Jenkins, Y Rhyl, un o deulu Masons Blaendolau.

O'r pwyllgor presennol (yr aelodau eraill yw Mrs Eirlys Mason Hughes, Mrs Eirwen Hughes a Mrs Mairwen Jones) bu'r ysgrifennydd a'r trysorydd yn eu swyddi o'r cychwyn cyntaf ac yn ddiamau iddynt hwy y mae'r diolch am lwyddiant yr Ŵyl. Cafodd y ddwy yn eu tro gyfnodau o waeledd a mawr obeithiwn y bydd Mrs Evans yn ddigon da i gael bod yn rhan o eisteddfod 1988.

Mae gan y ddwy lu o atgofion am yr eisteddfodau a fu. Yn yr ail eisteddfod y beirniad cerdd oedd y diweddar Dr Leslie Wynne Evans, Caerdydd, un a chanddo gof anhygoel. Cofiai enwau tua phymtheg o gystadleuwyr heb ddarn o bapur. Aeth yr eisteddfod ymlaen tan ddau o'r gloch y bore a bu'n rhaid iddo aros dros nos, gan gychwyn ben bore trannoeth am Gastell-nedd lle roedd yn arwain cymanfa blant am 10.00 y bore.

Ym 1967 bu'n rhaid i'r beirniad adrodd, Geraint Lloyd Owen, fynd i Maesaleg, cartref y Dr a Mrs David Jenkins, i gynnal rhagbrawf gan fod cynifer ag 14 yn cystadlu ar yr her adroddiad.

Hunllef pob ysgrifennydd yw clywed na fydd y beirniad yn gallu dod, ac un flwyddyn derbyniwyd neges yn fuan cyn dechrau'r eisteddfod i ddweud na allai Aled Gwyn ddod oherwydd gwaeledd ei wraig. Er mawr ryddhad i'r swyddogion roedd fodd bynnag wedi trefnu fod ei frawd, T. James Jones, Caerfyrddin, yn dod yn ei le. Chwe blynedd yn ôl, y bardd buddugol T. Gwynn Jones, Caerfyrddin, a fethodd ddod; gyrrodd yntau ei fab Rhys i gael ei gadeirio yn ei le.

Gwelwyd cenhedlaeth o gystadleuwyr yn mynd a dod. Deuai Ifor Lloyd, Dai Jones a Dafydd Edwards i'r eisteddfodau cyntaf, a dilynwyd llwyddiant rhai eraill fel Delyth Hopkins, Huw Evans a Gwawr Owen drwy adran yr oedolion ac ymlaen i gipio prif wobrau'r Brifwyl.

Mae'r swyddogion yn uchel eu clod i'r gwragedd lleol sy'n gweithio mor brysur gydol y dydd gyda'r bwyd. Cofiant am y gwaith a gaed un flwyddyn i'w cadw'n dawel; deuai chwerthin afreolus i fyny o'r ystafell waelod a bu'n rhaid gweiddi arnynt i fod yn dawel sawl gwaith. Sylweddolwyd wedyn mai enillydd y gadair, Ifan Gruffydd Tregaron, oedd yno yn eu diddanu â'i straeon.

Gweithgarwch arall a ddaeth yn sgil y Steddfod oedd Côr Penrhyn-coch a ffurfiwyd pan ddaeth Mrs Eirwen Hughes, Pencwm, i fyw i'r ardal. Fe'i ffurfiwyd yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod a thra bu mewn bodolaeth fe'i gwelwyd ar lwyfan nifer o eisteddfodau'r ardal. Aeth nifer y corau a ddaw i'r Ŵyl i lawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma a thra deuai corau o Raeadr, Tregaron a Llan-non ar un adeg, erbyn hyn Côr Glannau Ystwyth, Pontrhydygroes yw'r gweddill ffyddlon. Yn sgil hyn , wrth gwrs, aeth y gynulleidfa i lawr gan fod tri neu bedwar côr yn chwyddo eu nifer.
Erbyn heddiw darfu nifer o'r eisteddfodau a oedd mewn bodolaeth pan ddechreuwyd Eisteddfod y Penrhyn (megis Y Borth a Thrisant). Ar drothwy'r bumed eisteddfod ar hugain dymunwn bob llwyddiant i'r Ŵyl i'r dyfodol ac i'r t?m gweithgar fu yn ei chynnal ar hyd y blynyddoedd.

Chwarter canrif o'i rhifo ? yw ei hoed
Ym Mhenrhyn ei henfro,
Di-atal, parhaed eto
A'i mawr hwyl yn brifwyl bro.
D. Gwyn Evans


ENILLWYR Y GADAIR



1964 Miss June Kenny, Aberystwyth
1965 John Rees, Mallwyd
1966 Vernon Jones, Bow Street
1967 Carellio Morgan, Aberystwyth
1968 Brynmor Jones, Aberystwyth
1969 Alwyn Thomas, Llanbedr Pont Steffan
1970 Y Parchg S. Idris Evans, Henllan, Llandysul
1971 Rhys Jones, Penrhyn-coch
1972 D.S. Jones, Llanfarian
1973 Huw Ceiriog, Aber-ffrwd
1974 D.H. Culpitt, Cefneithin
1975 Ifor Davies, Aberystwyth
1976 Ifor Davies, Aberystwyth
1977 Y Parchg Gwyn Evans, Aberystwyth
1978 Y Parchg Gwyn Evans, Aberystwyth
1979 *Dim cofnod pwy enillodd*
1980 Islwyn Edwards, Cwm-ann
1981 Islwyn Edwards, Cwm-ann
1982 T. Gwynn Jones, Caerfyrddin
1983 Y Parchg Brinley Thomas, Pencader
1984 Alwyn Thomas, Talgarreg
1985 Ifan Gruffydd, Tregaron
1986 Huw Huws, Dolau
1987 Y Parchg Gwyn Evans, Aberystwyth
1988 Ifor Davies, Aberystwyth
1989 Y Parchg O.T. Evans, Aberystwyth
1990 David Jones, Tal-y-bont
1991 Mrs M.B. Morgan, Llanrhystud
1992 Alwyn Thomas, Talgarreg
1993 Brynmor Jones, Aberystwyth
1994 Alwyn Thomas, Talgarreg
1995 Anwen James, Llangeitho
1996 Graham Williams, Rhiwfawr
1997 Y Parchg Peter Thomas, Penrhyn-coch ac Aberystwyth
1998 Y Parchg Peter Thomas, Penrhyn-coch ac Aberystwyth
1999 Y Parchg Peter Thomas, Penrhyn-coch ac Aberystwyth
2000 Anwen James, Llangeitho
2001 Gohiriwyd oherwydd clwyf y traed a'r genau
2002 Mrs Dilys Baker, Llanrhystud
2003 Graham Williams, Rhiwfawr
2004 Richard Llwyd Jones, Bethel, Caernarfon
2005 Graham Williams, Rhiwfawr
2006 Beynon Phillips, Brechfa
2007 Anwen Mai Pierce, Bow Street
2008 Rocet Arwel Jones, Aberystwyth
2009 Osian Rowlands, Llandwrog, Caernarfon
2010 Anwen Mai Pierce, Bow Street
2011 Osian Rowlands, Llandwrog, Caernarfon
2012 John Meurig Edwards, Aberhonddu
2013 John Meurig Edwards, Aberhonddu
2014 Anwen James, Aberystwyth
2015 Anwen Mai Pierce, Bow Street
2016 Emyr Jones, Caerdydd

ENILLWYR TLWS YR IFANC



2004 Rhiannon Heledd Williams, Llanfrothen
2005 Cemlyn Davies, Penrhyn-coch
2006 Trystan Davies, Penrhyn-coch
2007 Carys Mair Davies, Llanbadarn Fawr
2008 Carys Mair Davies, Llanbadarn Fawr
2009 Eilir Pryse, Aberystwyth(Cerddorol)
2010 Megan Lewis, Llanfihangel-y-Creuddyn
2011 Eurion Jones Williams, Cwm-ann (Cerddorol)
2012 Awel Prys Evans, Llanfachreth, Dolgellau
2013 Eilir Pryse, Aberystwyth (Cerddorol)
2014 Bryn Griffiths, Aberaeron
2015 Meleri Pryse, Aberystwyth (Cerddorol)
2016 Gwen Down, Aberystwyth