Salem Coedgruffydd

Salem Coedgruffydd

Eglwys Annibynnol Gymraeg


Beddargraffiadu Salem (2009), M A James

Mae'r adeilad ar werth ar hyn o bryd (2017)

Mae ymddiriedolwyr Eglwys Salem Coedgruffydd wedi penderfynu cau mynwent y capel. Mae'r ymddiriedolwyr yn gofyn i deuluoedd y rhai sydd wedi eu claddu yn y fynwent anfon eu manylion cyswllt atynt trwy law 10 Cae Mawr, Penrhyn-coch, Aberystwyth, SY23 3EJ (neu salem.coedgruffydd@gmail.com).

I gyrraedd y capel ewch trwy bentref Penrhyn-coch ar hyd ffordd Penbont-rhyd-y-beddau, a chymryd y ffordd gyntaf ar y chwith ar ôl mynd heibio Capel Horeb.

Hanes sefydlu Eglwys Salem Coedgruffydd
Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg pregethwyd mewn amryw o gartrefi yng ngogledd Ceredigion gan y Parchedig Thomas Phillips, Neuaddlwyd (1772-1842). O ganlyniad sefydlwyd eglwysi Soar, Llanbadarn Fawr, ar 19 Rhagfyr 1802, a Bethel, Tal-y-bont, yn 1804. Daeth Azariah Shadrach (1774-1844) yn weinidog yn 1805 ar y ddwy eglwys a bu yntau yn pregethu mewn cartrefi yn yr ardal, gan gynnwys fferm Coedgruffydd. Olynwyd ef yn Nhal-y-bont gan Moses Ellis yn 1823, ac yn fuan wedyn ffurfiwyd eglwys Salem. Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1824; fe'i hailadeiladwyd yn 1850 a helaethwyd ef yn 1864.

Ceir dau gofeb rhyfel yn y capel a gwelwyd 308 o gerrig beddau yn y fynwent yn y flwyddyn 1994. Coffawyd 540 o unigolion arnynt. Copiwyd y beddargraffiadau ac fe'u gwelir yn Beddargraffiadau a Mynegeion, Cyf. XI, Plwyf Llanbadarn Fawr (rhan ogleddol) gan E. L. & M. A. James, 1998.

Am ragor o hanes Salem Coedgruffydd, gweler erthygl David Jenkins yn Ceredigion, XII (1994), 35-56.