HEN CYMERIADAU PLWYF TREFEURIG


Perthyn i bob ardal a phlwyf ei hanes a'i nodweddion, ac nid y lleiaf dibwys ohonynt yw'r amrywiol gymeriadau fegir ynddo, ac y mae i Drefeurig ei hanes, sydd yn ddiau yn werth ei roi ar gof a chadw, pe ond ar gyfrif Ilawer o'r cymeriadau fu yn trigo o'i fewn neu yn dwyn cysylltiad mwy neu lai â'r lle. Saif Trefeurig yn y rhan uchaf o Sir Aberteifi. Cychwyn y plwyf wrth yr afon ger Royal Oak, islaw Gogerddan, ac ymestyn hyd at Hengwm Annedd wrth droed Pumlumon. Cynnwys Penrhyn-coch, Salem, Penrhiw Newydd, Penybont Rhydybeddau, rhan o'r Darren, Cwmerfyn a Cwmsymlog.

Bu cyfnod pan fu y lleoedd hyn yn boblogaidd ar gyfrif y gweithfeydd plwm, pa rai a fu'n gweithio gyda llawer o lwydd y blynyddoedd a fu, ond yn segur bellach ers cyfnod maith. Roedd o leiaf chwech ohonynt o fewn y plwyf - Llechwedd-hen, Darren, Cwmsebon, Cwmsymlog, Cwmerfyn a'r Bwlch, ac efallai bod ychwaneg. Deuai llawer i weithio ynddynt o bell ac agos. Ni chofiaf ond am dri ohonynt yn gweithio, sef Cwm Sebon, Cwmsymlog a Chwmerfyn. Ychydig iawn, ryw hanner dwsin weithiau, yng Nghwmerfyn. Cofiaf yn dda pan yn codi'r bore, a gweld y miners fel y gelwid hwy yn croesi tua Chwmsymlog, ac eraill yn cyfeirio tua Chwm Sebon, a'r llwybrau ar y llechweddau a'r pantiau yn goch gan ôl eu traed. Byddai ambell rai yn dod mor bell a Phenllwyn a phellter cyffelyb, pedair a phum milltir o daith yno ac yn ôl, ar bob math o dywydd, glaw a hindda, teg a drycin, a'r gyflog yn fychan ddifrifol. Os iawn y cofiaf, rhyw £3 y mis oedd cyflog miner a dyma'r tâl uchaf yn y gwaith (ag eithrio'r swyddogion). Ni chawsai y rhai weithiai ar yr wyneb agos gymaint a hyn. Gweithiau'r miners dair stern, fel y gelwid, yn eu tro.

Stern y bore o chwech hyd ddau.
Stern y prynhawn o ddau hyd ddeg.
Stern y nos o ddeg hyd chwech y bore

Nodaf y manylion hyn, er rhoi ryw syniad i'r oes sy'n codi, y fath fywyd caled a llafurus fu raid i'w hynafiaid wrtho i ennilI eu bara beunyddol. Nid oedd y tai di-waith i'w gael y cyfnod hwnnw, na neb yn breuddwydio amdano. Pan fyddai gweithiwr yn afiach, cawsai gymorth allan o'r club (byddai'r gweithwyr fel rheol yn ymaelodi ynddo), ac yr oedd i'r club ei amodau cyfyng a phendant.
Gellir casglu oddi wrth y braslun byr yma mai gweithwyr mwyn oedd y rhan fwyaf o breswylwyr Trefeurig, ond nid i gyd serch hynny, ceid yno amaethwyr, siopwyr, a gwahanol grefftwyr gwlad.
Yn nyddiau blodeuog y gweithfeydd, byddai mynd da ar lawer cangen o fasnach. Gwnai'r siopwyr elw da, drwy werthu llawer o wythnos i wythnos. Mewn gwirionedd manteisiai pawb i raddau oddiar y gweithwyr a'r swyddogion. Mewn plwyf a chymaint o amrywiaeth ynddo, naturiol disgwyl cael o'i fewn lawer o wahanol gymeriadau, a hyn sydd wir am Drefeurig.
Clywais fy rhieni ac eraill yn sôn am bobl, na wyddwn ac na chofiwn i amdanynt, eto mae'n amlwg amdanynt eu bod yn hynod iawn, ac yn anhebyg i neb arall.

Un ohonynt oedd Siami Penygeuallt:
Cynefin iawn ydyw'r lle i mi, bûm wrtho lawer tro. Yn ôl yr hanes am Siami, gallwn gasglu nad oedd yn llawn un owns ar bymtheg, fel dwedyd ar lafar gwlad am rywun heb fod yn ei lawn synnwyr. Fe fu yn enwog fel potsier. Adroddir hanesyn amdano yn cael el alw o flaen Syr Pryse Gogerddan am saethu ysgyfarnog.
Syr Pryse yn gofyn, "Pam oet ti'n saethu y sgwarnog fach?"
Siami, "Ai chi greodd y sgwarnog fach?"
Syr Pryse, "Nage." O wel", meddai Siami, "Os nad chi greodd y sgwarnog fach, cystal siawns i Siami a Syr Pryse."

Henry Cwmisa:
Un arall, dipyn yn hynod. Hoffai ymweld a chyfeillion yn aml ac ymhyfrydu i aros gyda hwynt nes iddynt flino ar ei gwmni.

Silfanus a Jesse:
Dau garictor arbennig yn byw o fewn Cwmsymlog.

Dafydd Jones y Gof:
Mewn plwyf a chymaint a weithfeydd ynddo naturiol yw casglu fod gwaith ar raddfa helaeth i ofiaid. Yng Nghwmerfyn y trigai Dafydd Jones. Heblaw bod yn ddiwyd gyda'i alwedigaeth feunyddiol, yr oedd yn un o sylfaenwyr yr achos crefydd ym Methlehem, a bu'n ffyddlon a theyrngar iddo hyd y diwedd. Ŵyr iddo ydyw Idwal Jones, BA, awdur Dramâu a Cherddi Digrif.

John Edwards, Bwlch-y-styllen:
Bugail, ac yn cadw llawer iawn o ddefaid ym Mwlchy-styllen. Hoffus a charedig iawn oedd ef, ag iddo air da gan ei gydnabod. Magodd deulu mawr er gwaethaf anawsterau bywyd.
Ruth, ei briod: Yn ei chofio hi yn bur dda. Addfwyn, a hynod am ei charedigrwydd. Ni chawsai neb fynd o'r tŷ heb gwpaned o de. Arferai farchogaeth ar y ferlen i'r siopau yng Nghwmsymlog, Talybont, a mannau eraill. Pan yn mynd i'r dref, arferai ddod ar gefn y gaseg i olwg Cwmsymlog, yna yn disgyn, a chlymu'r awen yn dynn wrth y cyfrwy a'r anifail yn mynd adref ar ei hunion, a byddai Ruth yn cerdded i Benybont i gael y brake.

Lewis Thomas, Siloa:
Yn hen ŵr, a'r corn wrth ei glust yn y set fawr yn Siloa y cofiaf am Lewis Thomas. Credaf ei fod yn swyddog yno. Ni chlywais ei lais o gwbl, ac anodd iawn ganddo yntau allu clywed oherwydd ei fyddardod. Bu farw cyn i mi gael cyfie i adnabod rhagor amdano. Yr oedd yntau yn gapten golchi yng Nghwmsebon. Ei fab oedd John Thomas, New Inn.

Harriet, Lletyspence:
Cymeriad nodedig iawn oedd hon. Garw a phlaen ei hymadrodd. Credaf na wybu am ragrith. Cymerai ddiddordeb mawr mewn anifeiliaid. Daliodd tra gallodd i fynd i Fwlchystyllen ddiwrnod cneifio, a diddorol iawn oedd gwrando arni, yn ei dull gwreiddiol, yn traethu am aml i gymeriad ac amgylchiad. Bu galw mawr am ei gwasanaeth gyda mamau pan yn geni plant, a hynny yn aml ganol nos fel canol dydd, a gwnai hynny heb dâl.

Lewis Pierce, Cwmsymlog:
Ei waith beunyddiol ef oedd capten golchi yng Nghwmsymlog. Gŵr tal, cryf, cyhyrog, yn llawn bywyd ac asbri. Yn un o golofnau'r achos ym Methlehem, Cwmerfyn, ac yn arwain y gân yno. Bu am flynyddoedd yn arweinydd côr y cylch, a chipiwyd amryw wobrwyon dan ei arweinyddiaeth. Ymgodymai a'r darnau anodd ac uchelgeisiol, megis 'Hallelujah' a 'Worthy is the Lamb'. Pan beidiodd y gwaith, bu raid iddo yntau fel eraill chwilio am foddion cynhaliaeth, a symudodd i Bontycymer. Yn fuan wedi sefydlu yno torrodd ei iechyd i lawr, ac yno y bu farw.

John Tibbott, Banc-y-Darren:
Mwnwr, yng ngwaith Cwmsebon am flynyddoedd, a gweithiwr diwyd a chaled gyda phob peth yr ymaflai ynddo. Gwasanaethai fel blaenor ym Madog, a bu yn hynod ffyddlon gyda'r achos gorau yn ei wahanol gysylltiadau, yn arbennig gyda'r Cyfarfodydd Daufisol. Torrodd ei iechyd i lawr yn gynnar fel llawer o'r miners a dioddef odd hir gystudd cyn ei alw adref.

Isaac Owen, Banc-y-darren:
Cof plentyn sydd gennyf amdano ef. Arferai fynychu Capel Isaf, Cwmerfyn ar gefn y gaseg wen arferai gadw.

Evan Edwards, Cwmerfyn Farm:
Brawd i John Bwlch-y-styllen, ond yn dra gwahanoi ei ddull. Ffermwr, ac yn meddwl cryn dipyn o'i fferm a'i anifei!iaid. Gŵr pwyllog, yn meddwl cryn dipyn cyn cyflawni. Mynychai Aberystwyth fel rheol bob Llun fel llawer eraill, a chawsai'r gair mai ef fyddai'n 'windio'r' cloc mawr.

Tudor Pugh:
Preswyliai ef a'i chwaer Nel yng Nghefn-brith, ar y ffordd o Benybont i Gwmsymlog. Gweithio ar ffyrdd y plwyf fu ef am lawer blwyddyn. Gweithiwr cydwybodol a chyson. Gwnaethai gais am godiad yn ei gyflog un tro, a rhywun yn gofyn, "Faint y dydd ydych yn gael, Tudor?" "Dim ond 1/9 ngwas i." Roedd cylch ei waith yn ymestyn am filltiroedd i fyny'r mynyddoedd. "Tua ble ydych yn gweithio rwan?" "O, fyny yn yr Highlands yna."

Ann James, y Carrier:
Rhan bwysig ac anhepgor ynglŷn â'r gweithfeydd plwm, oedd y gorchwyl o gludo plwm i Bow Street neu Llandre, ac roedd amryw garriers yn ennill bywoliaeth wrth hyn, ac yn eu mysg Ann James a'i gŵr James, ac o'r ddau y wraig oedd fwyaf amlwg. Un o'r benywod mwyaf a chryfaf welais eriioed. Byddai yn dod efo'r wagen a phedwar ceffyl (gyda'i mab John) i nôl plwm o Gwmsebon, a galiai gario dau fag can pwys yr un, un ar bob Ilaw, o'r ystordy i'r wagen.

John Evans, y Gof:
Brodor o Gorwen oedd ef, arweiniodd Rhagluniaeth ef i Fanc-ydarren. Ymbriododd a sefydlodd yno. Gof wrth ei alwedigaeth, yn gryn dipyn o gerddor, a bu'n arwain côr am ryw ysbaid. Bu'n swyddog defnyddiol ym Madog hyd nes torrodd ei iechyd i lawr.

Y ddau grydd o Benrhiw Newydd:
Crefft enillfawr yn y dyddiau gynt oedd crefft crydd, yn enwedig pan oedd Ilawer o wisgo ar esgidiau o waith cryddion gwlad, ac yn hynod iawn digwyddai dau ohonynt fyw yn agos i'w gilydd yn y lle bach uchod, ar ben y bryn uwchben Salem, ac yn wynebu Ysgol Trefeurig. Enwau'r ddau oedd Morris Morris a Dafydd Hughes. Efallai mai y mwyaf poblogaidd oedd Dafydd Hughes, yn arbennig yn ein golwg ni blant yr ysgol. Byddai ef yn hoff lawn o blant, yn gartrefol lawn yn ein cwmni. Disgynnai i'n rhan yn fynych i fynd yno yn ystod yr awr ginio i fynd a sgidiau i'w tappo. A dyna lle byddai Dafydd wrth ei fodd yn ein holi, ac yn pwnio'r hoelion adref 'run pryd. Am Morris, roedd ef yn fwy tawedog a reserve, ac yn gwneud llai â phlant. Ystyrid ef yn grefftwr gwych. Ffyddlon iawn fu Morris gyda chrefydd yn Salem, a Dafydd yr un modd yn Horeb, Penrhyn-coch.

John Hughes, Llwynprysg:
Dyn bychan o gorff oedd ef, coch ei farf, a bywiog ei ysbryd. Gelwid ef gennym ni y plant yn John Hughes tywyll, oherwydd druan mai dall oedd, wedi colli ei olwg, pa sut nis gwn. Llithrig a huawdl ei barabl, ar ei draed ac ar ei liniau. Er yn dall medrai fynd ei hun drwy leoedd geirwon ac anhygyrch. Gwelwyd ef lawer tro yn mynd i Allt y Llwyn i hel cyll at wneud basgedi a chawelli mawn ac ysgyfell. Dywed traddodiad iddo golli ei gyllell yno, a'r tro dilynol iddo ei chael.

Tomos Morgan, Darren:
Tomos tywyll fyddai yntau ar lafar gwlad. Cafodd ei ddwyn i fyny yn y Llwyn (y pryd hwnnw yn caei ei gadw fel tafarn). Collodd ei olwg mewn canlyniad i ddamwain yn y gwaith mwyn. Yn wahanol i John Hughes roedd Tomos yn berson corfforol cryf iawn, a medrai gario pwysau anhygoel bron. Pwyllog a gofalus, adwaenai ei gydnabod ar unwaith wrth eu llais, a medrai adnabod llawer o bethau gyda'i ddwylo celfydd. Gwnaeth yntau lawer o fasgedi.

Morgan Morgan, Cwmerfyn:
Morgan Brynmawr cyn hynny, lie y bu yn fugail y lluest am rai blynyddoedd. Symudodd oddi yno i Gwmerfyn, ac yn gweithio yng ngwaith Cwmsymlog, hyd nes y peidiodd y gwaith. Gweithiai wedi hynny yma a thraw. Medrai adrodd llawer o hanesion a straeon am hwn a'r llall, yn ddiddorol yn ei ffordd ei hun. Gweithiwr da a medrus. Torrodd aml i gae gwair gyda'i bladur, a dangosai y cae fod awch da ar ei bladur. Roedd Eurfin Morgan, Abergwaun yn ŵyr iddo.

Daniel Hamer, Penrhyn-coch:
Clywais Daniel yn dweud unwaith mal brodor o Lansantffraid (tua godre'r sir) ydoedd. Daeth i weithio fel saer maen ar ystad Gogerddan a bu o dan Syr Pryse Pryse am gyfnod maith. Byddai yn gweithio yma ac acw fel doi'r galw, yn adeiladu, atgyweirio, neu dynnu i lawr. Gŵr tal, uchel ei lais, yn rhinwedd ei safle fel saer maen y stad ac yn dod i gysylltiad a llawer math o bobl. Cymerai ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth, ac yn Geidwadwr selog. Bu yn aelod ar y Bwrdd Ysgol, ac yn un o'r rhai olaf arno pan ddiddymwyd y Byrddau Ysgol. Cofiaf amdano un tro ar ddydd etholiad Seneddol y sir yn gweiddi ar uchaf ei lais, "Does neb ohonoch yn gwybod faint yw nerth Hamer." Un o'r rheini oedd yn gwneud hanes oedd ef. Adroddai am un tro digrif o'i eiddo. Mewn rhyw fan yn gweithio a gwraig y lle heb fod yn rhy garedig tuag ato. Pan yn codi mur, yn gafael yn y tebot oedd ar y bwrdd a'i gladdu yn y cerrig, ac yno y mae hyd y dydd hwn.

Jehoiacim Edwards, Clawdd Melyn:
Ni fyddai nemor neb yn ei adwaen wrth yr enw llawn. Joe Clawdd Melyn y gelwid ef yn bur gyffredinol. Enw ysgrythurol, ond ni chlywais yr enw bron, ond arno ef. Ffermwr diwyd a darbodus oedd Joe, byddai'n arferol o farchogaeth ar ferlen goch golau a chref, i Aberystwyth bob Llun fel rheol. Cadwai wartheg duon, ac yn magu bustych mawr a chryf, a'r rheini yn wyllt iawn pan ar y ffordd i'r ffair. Nid oeddynt yn arfer gweld llawer o bobl gan fod Clawdd Melyn mewn cwm neilltuedig oddi ar Salem. Cymerai Joe ddiddordeb mawr yn yr achos yn Salem ac yn un o'r diaconiaid yno.

Dafydd Lewis, Salem:
Mwnwr fu ef am flynyddoedd. Wedi hynny pwrcasodd geffyl a thrap a bu yn cario pobl i'r dref y rhan olaf o'i oes. Cymeriad hoffus, yn fawr ei ddiddordeb a'i ddylanwad gyda phlant, yn fyw ac eiddgar gydag achos dirwest a'r Ysgol Sul. Bu y 'Band of Hope' yn flodeuog iawn dan ei ofal yn Salem, byddai amryw o blant Cwmerfyn yn ei fynychu'n rheolaidd. Drwy ei farw, collodd eglwys Salem un o'r ffyddloniaid a'r mwyaf gwasanaethgar.

William Spurway:
Dyma yr ysgolfeistr cyntaf wyf yn ei gofio yn Ysgol y Bwrdd (bryd hwnnw) Trefeurig. Sais, os cofiaf yn iawn o Cornwall. Bu am flynyddoedd yn Nhrefeurig, yn fawr ei barch. Arferai Mrs Spurway ddysgu gwnïo i'r merched. Er yn Sais, llwyddodd i ddeall a dysgu gryn dipyn o Gymraeg, ac yn berchen ysbryd boneddigaidd iawn. Symudodd ef a'r teulu i Cornwall, ac yno y bu farw wedi rhai blynyddoedd hir o drigo yno.

Mr Ifory:
Sais eto, ac ysgolfeistr am hir ym Mhenrhyn-coch, Ysgol yr Eglwys. Enillodd yntau air da yn gyffredinol. Yn gerddor deallus, gwasanaethai fel organydd yr Eglwys yno. Yn yr adeg yma prin iawn oedd chwaraewyr offerynnau cerdd, yn arbennig yn y wlad. Gelwid amdano weithiau Pi' Garn pan fu J.T. Rees, Mus Bac, yn dysgu côr y lle, ddaeth wedi hynny yn adnabyddus mewn Eisteddfodau, ac ynglŷn a Chaniadaeth y Cysegr.

Rhai o gapteniaid y gweithfeydd:
Oherwydd cynifer o weithfeydd o'i fewn, naturiol casglu fod yno amryw gapteniaid, ac nid rhaid dweud mai dyma'r dosbarth mwyaf enillgar. Er lleied cyflog y gweithiwr, caent hwy swm mawr lawn am eu gwasanaeth. Saeson a dieithriaid oeddynt bron i gyd. Cyfrif hyn i fesur mawr, am mal Saeson oedd y cwmniau a pherchnogion y gweithfeydd.

Capt W. Northey:
Yng ngwaith y Bwlch y bu ef am flynyddoedd, ac wedi hynny yn yr Esgair Hir. Llwyddodd i ddysgu Cymraeg yn weddol. Clywais am un wedi mynd ato un tro i ofyn am waith. Cymro uniaith oedd y dyn hwn. Gofynnodd Northey, "Lle ti byw?" "Yn B- ." "LIe ti tyfu?" (lle roedd wedi ei fagu neu ddwyn i fyny). Yn ddiweddarach symudodd Northey a'r teulu i Aberystwyth ac agorodd fusnes yno, ef a'r plant. Mab iddo oedd Robert Northey.

Capt William Jones, Darren:
Cymro ydoedd ef fodd bynnag, o'r gwadn hyd y corun, a Chymro a garai ei wlad, yn arbennig ei phethau gorau a chysegredig. Tra yn y Darren mynychai yr achos yn Siloa, Cwmerfyn lle bu yn ddiacon, ac ar ôl symud i fyw i Aberystwyth, daliodd ei gariad a'i ddiddordeb yn Siloa a Salem hyd y diwedd.

Tom Garland:
Yn ben swyddog yng ngwaith Cwmsymlog y bu ef. Gallai siarad Cymraeg yn weddol dda. Cymeriad cryf a da a'i barch dros egwyddorion iach a dyrchafol. Brawd iddo oedd William Garland, saer a fu hefyd yn Gapten am gyfnod, ond fel siopwr a masnachwr y bu yn adnabyddus iawn, ac yn swyddog yn y Tabernacl, Cwmsymlog.

John Mitchell:
Pennaeth eto, yng Nghwmsebon a Chamdwr wedi hynny. Ysgotyn. Cywir a gonest ei amcan. Ffynnai un arfer annheilwng iawn ymhlith mwynwyr y gwaith sef anrhegu'r swyddog i'r diben o dderbyn ryw ffafr yn ôl, ond yr oedd Capt. Mitchell uwchlaw hyn, gwrthodai yn bendant bob peth o'r fath. Symudodd yn ôl i'r Alban ac yno y gorffwys yr hyn sydd farwol ohono.
Bu amryw eraill o gapteniaid yn y cylch, rhai ohonynt heb fod a choff a da amdanynt. Aethont fel pe nas ganesid hwynt.
Priodol dweud am rai o'r swyddogion uchod iddynt fod yn ddefnyddiol a gwasanaethgar tu allan i'w cylch o alwedigaeth. Buont yn aelodau ar y Bwrdd Ysgol a'i diddordeb yng ngwahanol faterion Ileol.
Adroddid pethau digrif iawn weithiau am y mwynwyr. Adeg Etholiad y Bwrdd Ysgol ydoedd, ac un neu ddau o'r Capteniaid ar y maes, a bron nad oeddynt yn hawlio pleidlais y mwynwr weithiai danynt. Y ballot yn gymharol newydd. "Wel," meddai un ohonynt ar yr awr ginio, "dydi'r balot yma ddim ond sham, maent yn gwybod yr un modd i bwy mae dyn yn fotio". "Wel," meddai un arall, hwyrach yn fwy hynod na'r cyffredin, "Rwy'n ddigon siŵr na chaiff neb wybod pwy gaiff fy votes i." Pan yn cyfrif y pleidleisiau cafwyd un papur wedi ei blygu'n ofalus a chryno ond heb yr un X o'i fewn. Credai'r miners yn bur unol pwy oedd yr un na fotiodd.

William James, Bryn Meurig:
Dyma un eto fu'n llanw cylchoedd pwysig ac amrywiol. Efo oedd y treth-gasglydd a bu'n gofalu am y swydd hyd ei fedd. Yn ŵr o allu a diwylliant, yn aelod o'r Bwrdd Ysgol ac yn un o'r arweinwyr yn Horeb, Penrhyn-coch.

Andrew Williams, Cwm Darren:
Adwaenid yntau fel 'Capt. Andrew'. Awgryma'r teitl iddo yntau fod yn swyddog yn ei ddydd, ond yn cadw tŷ a thyddyn o'r enw Lefel-gopr y bu y rhan olaf o'i oes. Yr oedd ei wraig Lisa Williams yn nodedig ar gyfrif ei chymeriad cryf ac yn neilltuol o unplyg. Teimlai i'r byw dros yr hyn dybiai oedd yn gyfiawn gerbron Duw a dynion. Bu hi byw flynyddoedd ar ôl ei phriod, a gwyddai beth oedd cario llawer croes drom a chwerw.

John Edwards, Tyngwndwn:
Symudodd ef i Dyngwndwn o Riwarthen Uchaf ger Penllwyn. Cymeriad hollol ar ei ben ei hun. Yn meddu ar gryn allu, efallai yn fwy na'r cyffredin. Yn hyddysg yn y Saesneg ac yn teimlo cryn ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Cadwai ystalwyn, a byddai yn teithio dipyn o gwmpas gydag ef. Gyda chryn anhawster y medrai gerdded gan mor gloff ydoedd. Gydag ef yn Nhyngwndwn y gwelodd llawer ohonom ni blant yr ysgol y bwch gafr cyntaf, a da y cofiaf lawer amser difyr, byddem yn hoff iawn o'i 'brofocio' ond cawsom gyflawn dâl am hynny lawer tro gan 'Billy'. Dilynodd ni fwy nag unwaith mor bell ag Ysgol Trefeurig, a thrachefn wrth fynd adref byddai yn gwneud amdanom.

Tomos Richards y clociau:
Teithio'r wlad fyddai ef yn rhinwedd ei alwedigaeth fel glanhawr clociau. Bu yn byw yn Bronheulwen, gyferbyn a Thyngelli, efo a'i fam. Ei henw ydoedd Mari, a byddai Tomos yn mynd dan yr enw 'Tomos Mari'. Tenau a gweddol dal, gwallt du fel y fran, a dillad duon fel rheol wisgai bob amser, a'r un dillad o ran hynny fyddai amdano am yn hir iawn. Cymeriad hynod o aflêr ydoedd Tomos, yn perchen trwyn pur fawr. Wedi marw Mari, aeth i letya yn Aberystwyth, gan barhau i deithio'r wlad, ar draws ac ar hyd. Cawsai ddigonedd o waith, er hynny yn byw yn grintachlyd iawn, gymaint felly fel na fynnai sebon i olchi ei wyneb a'i ddillad; roedd trwch o faw blynyddoedd arnynt. Fodd bynnag, enillodd air da fel trwsiwr clociau.

Sam Pencreigiau:
Gwylio'r gwaith yng Nghwmsebon fu gorchwyl Sam am lawer blwyddyn (gwylio'r nos). Cawsem ei gwmni'n fynych iawn wrth fynd adref o'r ysgol. Coch, neu melyn ei wallt, golwg chwareus, a chellweirus arno bob amser. Wrth ei fodd yng nghwmni plant, byddai ganddo rywbeth digrif iawn i ddweud wrthym yn barhaus, yn ogystal ag wrth eraill. Yn son am drwyn mawr Tomos Mari, dywedai Sam ei fod yn gorfod cael cannwyll ar ei flaen bob nos i fynd fyny'r grisiau. Ni chofiaf ei enw Ilawn, os clywais hynny o gwbl, ond fel Sam yr adwaenid ef, yn byw gyda'i fam ym Mhencreigiau. Wedi iddo orffen yng Nghwmsebon, symudodd i Forgannwg fel llu eraill o'i flaen.

Syr Pryse Pryse, Gogerddan:
Anghyflawn hen gymeriadau Trefeurig heb yr Yswain o Gogerddan, oblegid ffigwr amlwg iawn fu ef yn y cylch. Gellid dweud am blwy Trefeurig (yr adeg hynny) y rhan fwyaf ohono o lawer iawn yn eiddo Syr Pryse ag ystad Oogerddan. Swrth ei barabl a'i gerddediad, ac ar bwys ei ddwy ffon. Er yn Sais mewn iaith hanai o hen deulu Cymraeg a llwyddodd i ddeall Cymraeg a'i siarad hefyd yn weddol rwydd, ac nid cywilydd ganddo fynegi ei hun yn y Gymraeg, pa un bynnag ai fachgennyn neu henafgwr, dyn tlawd neu gyfoethog. Byddai ganddo ryw gyfarchiad parod a charedig bob amser. Meddai ar gryn fesur o gydymdeimlad ac agosrwydd tuag at ei denantiaid, a chariodd allan lawer iawn o welliannau ar ei ystad yn ei ddydd. Cawsai'r tenantiaid a'u rhenti o £20 i fyny ostyngiad o 3/- yn y £1 am flynyddoedd. Cafwyd ef ar y dechrau am amser penodol, ac ar derfyn yr adeg hwnnw, aeth dirprwyaeth o'r deillaid ato i ddeisyf el barhad. Wedi ystyriaeth fer, dywedodd, "Wel, mi ddof i un cwch a chi, os boddwch chi, mi foddaf inne." Bu yn hobby ganddo am ysbaid i farchog teirodur (tricycle) a diddorol oedd ei weld yn difyrru ei hun ar y gwastad rhwng y Plas a Bow Street. Bu ef a Lady Pryse yn noddwyr hael i Ysgol Penrhyn-coch (dan nawdd yr Eglwys gynt) ag i Eglwys y plwyf, a derbynial llawer o dlodion Penrhyn-coch a Bow Street yn dda oddi ar eu llaw bob Nadolig.

Isaac Williams, Penrhyn-coch:
Hen ŵr, ond bywiog ei ysbryd a hir ei farf. Gweithiai fel saer maen. Yn ddarllennwr eang, yn derbyn Y Faner gyda chysondeb. Gellid dweud am Y Faner mai dyma'r unig bapur wythnosol ddoi allan i'r wlad, ag eithrio rhai lleol (y Cambrian News a'r Observer) yn y dyddiau hynny. Clywais un o staff y llythyrdy yn Aberystwyth yn dweud gymaint o brynu oedd arni, byddai ½ tunnell ohoni yn dod bob wythnos drwy lythyrdy'r dref. Gellid dweud am Isaac Williams iddo yntau yfed yn helaeth o ysbryd ac egwyddor y 'Faner Fawr'. Yn Rhyddfrydwr i'r carn, ac yn un o golofnau yr achos yn Horeb. Mab iddo ydyw Morgan Williams, Arthog. Ysgolfeistr gynt, yn awr yn derbyn ei bensiwn, ond yn parhau yn dirf ac iraidd, ac yn dal I fod yn ddefnyddiol a gwasanaethgar yn y fro.

Dafydd Evans, Blaen Melindwr:
Saif Blaen Melindwr ymhen uchaf plwyf o'r enw Melindwr sy'n ymestyn o Benllwyn i fyny, ond yr oedd y tŷ lle trigai D.E. ynddo ym mhlwyf Trefeurig. Tŷ bychan isel, bron o'r golwg, roedd ei safle o dan y ffordd, ond cedwid y tŷ a'r cae perthynol iddo yn daclus iawn gan Dafydd ac Ann Evans. Un o golledion yr oes bresennol ydyw gweld tyddynod wedi eu llyncu gan ffermydd a lluestau, ond yn y lle bach dinod yma y magwyd teulu mawr, a fu'n llanw aml i gylch pwysig. Mwnwr ydoedd Dafydd ac wedyn yn Engine Driver y gwaith. Symudodd yn ddiweddarach i Gwmsymlog. Gweithiwr caled a di-arbed. Hoffus iawn gan bawb ac yn dwyn mawr sel yn y Tabernaci, Cwmsymlog.

William Edwards eto:
Roedd dau dŷ yn mynd dan yr un enw, a William drigai yn y Rail. Ei dŷ ef yn newydd ac yn fwy a gwell. Gweithio allan yng Nghwmsebon fu William neu 'Bib' feb y gelwid ef gan ei gyfoedion. Cymeriad dipyn yn hynod mewn mwy nag un ystyr.

John R. Jones, Salem:
Yn fwy adnabyddus fel John R. Efo gadd y gwaith o ofalu am y ffordd wedi marw Tudor Pugh. Cyn hynny, gweithiai feb mwnwr. Hen lanc fu ef ar hyd ei oes. Cymeriad doniol, yn siarad heb fod yn hyglyw, nac yn ddealladwy iawn, er yn siaradwr cyhoeddus lled huawdl. Meddai ar stôr helaeth o hanesion a storiau, a medrai eu hadrodd gyda blas. Bu ei chwaer,
Marged Jones Gwargerddi byw i weld hir ddyddiau, a bron hyd ddiwedd ei gyrfa cafodd iechyd da, fel ag i fod o wasanaeth mawr i'r achos crefydd yn Salem, lle bu John R. yn swyddog yno am hir. Yr oedd hithau yn maternity nurse o'r hen ffasiwn hefyd.

Tomos Evans y gof:
Bu yn byw ymlaen Cwmsymlog mewn tŷ bychan o'r enw Pwll-y-rhod (roedd un o olwynion y gwaith wrth ochr y tŷ). Crefftwr da oedd Tomos, enillodd enw wrth hynny. Byddai yn gwneud rhyw 'odd jobs' yn fynych i hwn a'r llall a'r un pris fyddai i bawb, a hynny fyddai grôt neu 4c, a dyna'r esboniad mae'n debyg ar y ffaith ei fod yn cael ei alw yn 'Tomos y go grôt'. Symudodd i Bengeulan ger yr Ysgol, a cherddodd am flynyddoedd i waith mwyn y Camdwr lle y bu yn gweithio ei grefft.

Ed. Edwards, Llwynbrisg:
Attendance officer' oedd E. Edwards pan oeddwn i a'm cyfoedion yn yr ysgol. Wedi bod yn gweithio dan y ddaear, ond pallodd ei nerth i raddau. Cofiaf yn dda fel y byddai yn dod i'r Ysgol ddwywaith yr wythnos, ac yn cael rhestr hir o'r plant fyddai'n colli, a'r rheini yn byw ymhob cyfeiriad, ond byddai Edward Edwards yn ffyddlon a chydwybodol iawn i'w orchwyl, er mai tâl bychan iawn gawsai, byddai i'w weld yn tramwy drwy'r cylch, dros arw bant a bryn, a rhaid oedd nodi'r achos o'r absen gyferbyn a phob enw, fel gallai gyflwyno'r adroddiad i'r Bwrdd Ysgol. Yn hen ŵr, a'i war wedi crymu, ac yn amlwg yn teimlo cryn lesgedd, er hynny yn siriol a hynaws ei ysbryd. Mawr yw braint pobol o'i oed heddiw yn derbyn eu pensiwn mor reolaidd a sicr, dim ond disgwyl amdano fel y gwylwyr am y bore.

Edward Lewis, Penrhiw:
Un o'r rhai mwyaf adnabyddus yn y plwyf ydoedd Edward Lewis a galw mynych am ei wasanaeth. Gwnaeth amryw gymwynasau fel meddyg anifeiliaid, ac yn barod iawn bob amser pan elwid arno. Cryf iawn dros ei argyhoeddiadau, ac yn eu mynegi yn ddifloesgni. Dygai fawr sel dros yr achos yn Salem lle bu yn ddiacon am flynyddoedd lawer.

Ni fyddai hyn o ysgrif yn deg heb grybwylliad byr am y gwahanol Weinidogion fu'n diwallu angen ysbrydol y plwyf:

Parch C. Blackwall:
Gofalu am yr EgLwys ym Mhenrhyn-coch (EgLwys Loegr) fu y parchedig hwn, a hynny am ysbaid hir nes i'w iechyd ballu, a bu farw wedi ychydig gystudd. Enillodd barch mawr oddiar pobL ei ofal, a hefyd gan bawb a'i hadwaenai. Meddai ar gorff a phersonoliaeth hardd, ac yn wir fonheddig ei ysbryd.

W. R. Jones:
Am gyfnod byr y bu ef yn Horeb, Penrhyn-coch. Symudodd i Ogledd Cymru, ac wedi hynny i'r De. Ei enw barddonol oedd 'Y Gwenith Gwyn. Gwelais gyfeiriad yn ddiweddar am ei farw. Dringodd i safle uchel gydag enwad y Bedyddwyr.

J. Henner Thomas:
Gweinidog yn Salem a Siloa y bu ef am nifer o flynyddoedd. Yn ystod ei weinidogaeth ef roedd Salem yn Eglwys luosog a chref, ond yn mynd i lawr yn gyflym. Bywiog iawn ei ysbryd, ac ymroddgar. Bu yn Ysgrifennydd y Bwrdd Ysgol am ysbaid, a chymerai lawer o ddiddordeb ym mhynciau'r dydd. Symudodd oddi ynoi Gwmaman, ac yno y bu farw.

Parch Pryce:
Gofalai ef am Eglwysi Jezreel a Chwmsymlog, a thaith faith a garw ddigon i'w theithio ydyw, ond cyflawnodd Mr Price hi am flynyddoedd ynghanol Ilawer o wendid a llesgedd

J. P. Evans
Y Siop
Bontgoch trwy law Carys Briddon, Tre'r-ddôl