EICH CYNRYCHIOLWYR:


Cyng. Dai Mason
Cyng. Dai Mason

Elin Jones AC
Elin Jones AC

Ben Lake AS
Ben Lake AS


Aelod ar Gyngor Sir Ceredigion

Cyng Dai Mason, Cwmisaf, Cwmsymlog, ABERYSTWYTH, Ceredigion SY23 3EZ. 01970 828128 Llais Annibynnol / Independent Voice


Y Chwe Mis Cyntaf: Bedydd tân (14.11.12)


Mae 6 mis bellach wedi pasio ers i mi gael fy ethol yn gynghorydd dros blwy' Trefeurig, ac felly dyma gyfle bach i roi ryw syniad i chi o'm profiad fel cynghorydd mor belled.

Y cwestiwn cynta' mae'r rhan fwyaf yn holi i mi yw 'sut mae'n mynd Dai?'

Cwestiwn da mae'n anodd iawn i mi ei ateb a dweud y gwir oherwydd mae'r rol yma'n un mor newydd i mi. Dwi'n credu bellach fod pethe'n mynd ar y trywydd iawn, a minnau'n ymgyfarwyddo gyda'r swydd, gyda'r prosesau, ac wrth gwrs, gyda'r wleidyddiaeth sy' ynghlwm wrth bopeth.

Un o'r penderfyniadau cyntaf i mi orfod gwneud yn fuan iawn ar ol yr etholiad oedd i be gyfeiriad yr oeddwn i am roi fy hun o fewn y cyngor a hyn gan wybod yn iawn y buasai fy mhenderfyniad yn debygol o ddylanwadu'n gryf ar ba grwp fuasai'n arwain y cyngor. Bu'n gyfnod llawn cyffro, a bum wrthi'n ddiwyd yn gofyn i'r grwpiau gwahanol sut y bydden nhw'n medru bod o fudd i blwy Trefeurig. Yn y diwedd, penderfynais i ac aelod annibynnol arall, Dafydd Edwards, cynghorydd Llansantffraid i greu grwp 'Llais Annibynnol', grwp annibynnol heb faniffesto, ac wedyn penderfynu y buasai'r grwp yma'n ffurfio 'clymblaid' o fath efo Plaid Cymru a hyn wrth gwrs yn rhoi y mwyafrif angenrheidiol i'r Blaid i arwain y cyngor. Mae Dafydd a minnau'n hollol argyhoeddedig fod y penderfyniad wedi bod yn un cywir. Yn wir, wedi i ni benderfynu ymuno yn y glymblaid efo Plaid Cymru (penderfyniad a oedd eisoes wedi rhoi'r mwyafrif i'r Blaid i arwain y cyngor), mi wnaeth y grwp Annibynnol arall benderfynu ymuno hefyd. Rwy'n hynod falch fy mod wedi gwneud y penderfyniad yma pan y gwnaethom ni, a sicrhau'r arweinyddiaeth orau yn fy marn i o fewn y cyngor ar gyfer ein plwyf.

Wrth gwrs, golyga hyn hefyd fy mod i fel cynghorydd dros blwy' Trefeurig yn gynghorydd ar yr ochr sy'n arwain, yn hytrach na'n gynghorydd ar yr ochr sy'n gwrthwynebu.

Wedi i'r bennod yna yn ystod y pythefnos cynta' o'r cyngor gael ei sortio, daeth hi'n amser i gydio yn y gwaith, a buan iawn daeth her anhygoel i'n plwy' ni.

Feddyliais i erioed y buaswn yn gweld ein ardal o dan gymaint o ddwr. Ond do, mi ddaeth y dilyw, a nifer o'n ffyrdd a'r nentydd bach yn edrych fel afonydd nerthol.

Gwelwyd pontydd yn cael eu difrodi'n llwyr, glannau nentydd ac afonydd yn diflannu, a nifer o gartrefi yn cael eu gwlychu a'u difrodi'n llwyr. Mi gefais sawl cais am gymorth, a sawl galwad yn nodi problemau ac anghenion brys. Rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu ateb y gofynion yma, ac er efallai fod fy ffordd o ddelio gyda'r nifer o sefyllfaoedd braidd yn anghyffredin yn llygaid y cyngor, rwy'n credu fod y rhan fwyaf o'r sefyllfaoedd wedi eu sortio mor fuan ag oedd yn bosib ar y pryd.

Yn wir, feddyliais i byth y buaswn ymhen ychydig wythnosau o gael fy ethol yn delio gyda'r cynulliad, asiantaeth yr amgylchedd, ac hyd yn oed y fyddin.

Rwy'n dal i weithio'n agos gyda asiantaeth yr amgylchedd ar rai sgil effeithiau o'r llifogydd, ac wedi gallu trefnu pont newydd ym Mhenbontrhydybeddau, gwelliannau i lannau'r afon ym Mhenrhyncoch a Chwmdarren, ac hefyd wedi gallu helpu gwr a gwraig i gael llety dros dro wrth ymyl eu cartre a ddifrodwyd ym Mrogynin.

I mi, bu'n gyfnod o fedydd tân a dweud y lleia'.

O ran y gwaith 'arferol' gyda'r cyngor, mae gen i gyfrifoldebau eraill sy'n perthyn i rol cynghorydd. Mae'n ofynnol i mi eistedd ar nifer o bwyllgorau rhai ohonynt efo enwau sy'n hollol ddiystyr i mi megis 'pwyllgor trosolwg a chraffu cymunedau sy'n dysgu' neu mewn geiriau eraill, pwyllgor 'addysg i bawb'. Rwy' hefyd ar bwyllgor trwyddedau sy'n gyfrifol am drwyddedi tacsis, safleoedd gwersylla, clybiau, tafarnau ac ati, ac hefyd pwyllgor cymunedau ffyniannus.

Rwy'n teithio i gyfarfodydd cyffredinol yn ogystal a chyfarfodydd pwyllgor ym mhencadlys y cyngor yn Aberaeron ryw ddwy / dair gwaith yr wythnos ar gyfartaledd, ac rwy wrth gwrs hefyd yn defnyddio'r amser yma i drafod materion lleol efo fy nghyd gynhorwyr sy'n eistedd ar bwyllgorau eraill, ac hefyd trafod materion lleol gyda'r swyddogion priodol a fuasai'n delio gyda'r materion yna. Mae'n waith diddorol, ac yn agoriad llygad o weld y prosesau sy'n cael eu defnyddio yn rhediad dydd i ddydd y cyngor.

Ond, y pwyllgor pwysicaf rwy'n mynychu yw pwyllgor cymuned plwyf Trefeurig. Mae'n gyfle i mi gael darganfod yn ffurfiol problemau ac anghenion ein plwyf ni o lygaid y ffynnon sef ein cynghorwyr plwy' yn Nhrefeurig.

Mae'r pwyllgor yma wrth gwrs yn cyfarfod yn achlysurol yn adeilad ysgol Trefeurig adeilad sydd a'i ddyfodol o dan fygythiad. Rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu sicrhau estyniad o 9 mis ar gyfer unrhyw ymgyrch i godi arian cyn bo'r ysgol yn cael ei roi ar werth gan y cyngor, felly nawr gyfeillion rhaid ystyried o ddifri beth yn union yw dyheadau y bobl lleol dros yr adeilad hyfryd yma. Os yw'r ewyllys yno yn y gymuned i'w defnyddio'n gyson, yna mae angen rhoi'r dyhead a'r ewyllys yma ar waith.

Rhywbeth arall sy' ar feddyliau nifer fawr yn yr ardal yw fferm wynt Nant y Moch. Er nad oes llais uniongyrchol gyda cyngor Ceredigion yn y cynllun, trefnwyd cyfarfod gan Ellen ap Gwynn fel bo' cynghorwyr yr ardaloedd cyfagos, sef Rhodri Davies (Melindwr), Ellen ap Gwynn (CeulanamaesMawr), a minnau yn cael y cyfle i gael gwybod mwy am y cynllun gan y swyddogion sy'n gyfrifol amdano. Mae'n bur debyg y gall ein cymunedau elwa o'r gronfa gymunedol a fydd yn cael ei sefydlu os aiff y cynllun yn ei blaen, ond wrth gwrs, mae'n ddyddiau cynnar eto a does dim sicrwydd hyd yn hyn os aiff y cynllun yn ei flaen neu peidio.

Ac i orffen, cwestiwn mawr arall gyda'r Gaea'n agosau yw busnes y gritio. Rwy' wedi bod mewn cysylltiad gyda'r pennaethiaid yn yr adran sy'n gyfrifol am yr halen, ac er na allai ddatgan unrhyw lwyddiant mawr sylweddol ar gyfer y gaea' yma, cafwyd addewidion gan swyddogion yr adran ar gyfer newidiadau a gwelliannau yn y drefen ar gyfer y gaea' nesa i ardal plwy'Trefeurig. Rwy'n siomedig iawn na allai addo mwy i chi am y gaea' yma, ond mae'r broses o greu newid mewn system sir-eang yn broses hir, a nifer fawr o ardaloedd eraill hefyd o fewn ein sir hefyd yn galw am fwy o'r graean. Cofiwch gysylltu a mi os oes gennych chi bryderon am hyn.

Yn ystod y misoedd cyntaf yma, rwy wedi cael fy mhlesio'n fawr gan barodrwydd fy ngyd-gynghorwyr, a nifer o swyddogion y cyngor i roi arweiniad a chymorth pan fo'i angen. Mae' eu parodrwydd i agor drysau a gwrando arna i fel cynghorydd yn galonogol iawn, a braf iawn yw nodi fod nifer o bethau yn digwydd er lles ein plwy'.

Mae'r 6 mis diwetha wedi hedfan am sawl rheswm, a nawr, a minnau efo bach mwy o brofiad fel cynghorydd, rwy' am ddiolch i chi am eich cefnogaeth a'ch amynedd. Mae'n bleser cael cynrychioli bro fy mebyd fel cynghorydd, ac yn bleser cael bod yn rhan o gyngor sy'n rhedeg yn hwylus dan arweiniad da.

Cofiwch fod croeso i chi gysylltu a mi os oes problem neu angen am gymorth arnoch gen i, neu gan y cyngor. Dyna pam dwi yma, a dyna paham yr etholwyd fi.

Pob hwyl
Dai



Aelod Cynulliad

Elin Jones, 32 Heol y Wig, Aberystwyth, SY23 2LN. 01970 624 516 Plaid Cymru / The Party of Wales

Gwefan Elin Jones

Aelod Seneddol

BEN LAKE, 32 Heol y Wig, Aberystwyth SY23 2LN. 01970 624 516 Plaid Cymru @BenMLake

Aelodau Cynulliad Rhanbarthol (Canol a Gorllewin)


Aelodau Seneddol Ewropeaidd

Cynrychiolydd Ceredigion 2004-2012 Dai Suter.


Cylchlythyr y Cyng Dai Suter, rhifyn 12
CYLCHLYTHYR TREFEURIG Rhifyn 1-11