Dŵr Penrhyn-coch


Mae'n debyg y byddwn yn cofio 2012 fel blwyddyn y dŵr. Yn y gwanwyn gofidio am brinder dŵr tan ddaeth y glaw yn Ebrill, y llifogydd ym Mehefin a mwy o law y gweddill o'r flwyddyn a llif eto yn Rhagfyr. I'n poeni wedyn, cau'r ffordd drwy'r pentre i gario mwy o ddŵr eto.

Map o Benrhyn-coch


Beth yw hanes dŵr yn y pentref tybed? Y mae'r pentref wedi ei sefydlu ar benrhyn sych (cochi mewn haf sych?) rhwng dwy nant. Olion Oes yr Ia ydyw, isbridd o raean bras a scim o bridd claiog ar yr wyneb. Yn nechrau'r ddeunawfed ganrif tai pridd oedd yno gyda gardd yn cynnwys tŷ bach a thwlc mochyn ond dim dŵr. Cyfnod y bwced a phiser oedd hi a chario dŵr o'r ffynhonnau a'r tarddiadau ger y nentydd i gael dŵr yfed ac o'r nentydd eu hunan i gael dŵr golchi - ond dim ar y Sul. Yr oedd yno lawer o ffynhonnau a thoriadau bychan ger y Silo ond achos prinder dŵr yn gyffredin fe agorwyd ffos o nant Stewi ger Y Ddôl Fach hyd y pentref a gwneud cafan ger y sgwâr i dorri syched ceffylau o'r ardal a'r gweithfeydd mwyn oedd wedi dod i'w pedoli. Fe ai'r gorlif i mewn i nant Silo. Hefyd roedd rhaid cael dŵr i anifeiliaid y porthmyn oedd yn casglu yn y pentref. Mae'n bosib y bydde dŵr y nant agosaf, sef y Silo, yn cael ei llygru'n ddrwg gyda'r gweithiau mwyn lan y cwm ac felly ddim yn dderbyniol i'r pentrefwyr. Nid yw'r ffos yn amlwg ar fap 1904 ac mae'n bosibl bod dim galwad amdani ar ôl i'r gweithfeydd plwm redeg lawr tua 1880 a thrên i gludo anifeiliaid ar gael ers 1864. Hefyd y ffordd o'r gweithfeydd i Aberystwyth oedd ar draws Llechwedd Hen ac allan i Gefnllwyd. Ond nid oedd hyn yn ddiwedd y byd achos roedd dwy dafarn ar y sgwâr, y Farmers Arms (y Llythyrdy heddiw) a'r Three Horse Shoes ar draws y ffordd. Fe'u caewyd tua 1930 achos roedd gormod o feddwdod yn y pentref!
Tap Panteg


Tap Panteg

Y bennod nesa yn 1930 oedd i'r pwyllgor plwy gyfrannu pibellau ddŵr a thapie i gael dŵr yn agosach i'r pentrefwyr cyn belled a fyddai'r pentrefwyr eu hun yn barod i wneud y gwaith llafur. Cardis ar y pwyllgor? Roedd un system yn dod o darddiad o dan Cwmbwa a thap ger y bont ac eto ar ben y lôn. Roedd y system arall yn dod a dŵr o darddiad ger y nant fach ychydig yn is na Thyncwm a thapie tu ôl i'r ysgol, ar y sgwâr ac wedyn lawr y ffordd i Dawelfan a Phanteg. Ym Mythynnod Gloster rhoddwyd tap ger arhosfa'r bws heddiw a phibell ar draws y cae i darddiad yn yr allt. Yr oedd hwn yn tueddu i sychu yn yr haf ac wedyn roedd rhaid cario dŵr fel o'r blaen o Froncastellan. Y modd a ddefnyddiwyd oedd gosod pibell o'r tarddiad i mewn i seston gerrig a oedd yn storfa ac yna yn eu blaen. Yr wyf fi yn cofio pan oedd dŵr y sgwâr yn arafu yn y gwanwyn. Roedd rhaid mynd lan i lanhau'r ffilter a'r seston oedd wedi ei blocio gan fwyd brogaod. Felly y bu tan 1939 pan godwyd tŷ ffilter ym Mont-goch i drin dŵr o Graig-y-pistyll a phibell go lew i'r pentref. Gosodwyd tapiau newydd yn y pentref yn agos at yr hen dapiau ac ychwaneg yn y Garth, ond roedd y bwcedi yn dal i gerdded.
Islaw Ty'ncwm


Islaw Ty'ncwm

Daeth y droedigaeth ym 1948 pan godwyd y tai cyngor - ie, dŵr ymhob tŷ a'r carthion yn diflannu lawr y bibell! Y tai eraill wedyn yn dilyn y ffasiwn, dŵr i'r tŷ a septic-tanc yn yr ardd. Fel y sylweddolodd hen lanc cyn y rhyfel ar ôl bod yn Llundain am y tro cyntaf “pobl od wyddest ti, neud eu busnes yn y tŷ a bwyta tu fas”. Daeth y carthffos i'r pentre yn y saith degau a siawns i bawb ddilyn y ffasiwn. Y tŷ bach mwy nid oedd. Pan ychwanegwyd yr argae yng Nghraig-y-pistyll a thŷ ffilter newydd daeth pibell newydd drwy'r pentre ym 1954 ar ei ffordd i bentrefi eraill a hefyd cyflenwad i'r pentre ei hunan. Braich o'r bibell yma sydd yn awr yn tyllu ei ffordd lan y pentre gan achosi i lawer fodurwr golli ei dymer.
Ceredig Evans