Bro fy Mebyd


Mae bro fy mebyd i yn mynd am gylch reit eang, sef rhan o Benrhyn-coch, fyny i Benrhiw, Llwynprysg, Banc y Darren, Cwmerfyn, Cwmsymlog a Threfeurig. Dyna gylch yr ysgol yn Nhrefeurig. Y pentref ges fy magu yw lle o'r enw Salem Coedgruffydd, rhyw led cae go lew o Brogynin cartref Dafydd ap Gwilym. Yn y pentref mae capel reit fawr, siop, a dwy ffynnon sydd byth yn sychi. Gallaf eich sicrhau i mi yfed galwynau o ddŵr o rhain gan nad oedd dim sôn am bop yn yr adeg hono.

Mae y lle yma yn oer ofnadwy yn y gaeaf ond yn yr haf does dim lle pertach i gael, ar gôg yn canu bob dydd a thrwy y dydd am ryw ddau fis pryd hyny. Mae yna dair ffordd y gallech fynd i Salem sef drwy Garth yn Penrhyn-coch a fyny heibio Brogynin, neu fyny i Benrhiw a lawr i Salem, neu fyny yn syth i Salem ar ôl troi yn Brynhyfryd. Os byddau'r gwynt o ryw fan a hithau yn bwrw eira fe gaia'r lôn am wythnosau ond oedd hynny ddim yn digwydd yn amal.
Rwyf yn hynaf o saith o blant, chwe merch ac un bachgen, ond fe gollais un chwaer pan oedd hi yn ugain oed. Roedd y TB yn ddrwg iawn yn Sir Aberteifi yn y tri degau. Yw hi ddim yn fantais bob amser i fod yr hynaf gan fod tipyn o gyfrifoldeb ar yr hynaf i ddangos eisiampl.

Gwaith i ddynion y pentre pryd hynny oedd gwaith mwyn fel Bwlchglas, Camdwr a llefydd fel yna. Cerdded nôl a mlaen, a gweithio mewn lle afiach iawn ac am arian bach. Dŵr yn dod lawr are eu pen a gorfod bod yn y lle gwlyb yna am oriau. Roeddynt yn gweithio shifts, un shift yn dechrau am ddau o'r gloch yn y prydnawn a dod allan tua unarddeg y nos, a cherdded adre dros y bencydd. Roedd hi yn rhewi yn galed ar y top yn y gaeaf ac erbyn cyraedd Salem roedd y dillad wedi rhewi amdanynt, a gorfod sefyll o flaen tan mawr i ddadleth a dod allan ohonynt. Pe byddech yn mynd i'r mynwentydd gallech weld fod yna lawer yn eu beddau cyn eu bod yn ddeugain oed, pa rhyfedd?

Fe gaeodd y gweithiau mwyn ac aeth llawer o'r dynion i weithio i'r De yn y pyllau glo.Ond fel dwedodd William Jones wrthyf, ?rhyw le rhyfedd oedd tua'r South!? Clywais nhw yn dweud am un or pethau rhyfedd oedd cael bath mewn twba o flaen y tân, a dynes drws nesaf yn dod i fewn i fenthyg tipyn o siwgwr neu flawd. Daethant yn gyfarwydd a hynny am fod y gyflog yn reit dda ond roeddent yn gorfod gadael cartref a theuluoedd a dim ond dod adref am wythnos y Nadolig, wythnos Pasg a pythefnos ym mis Awst. Dyna i gyd oeddent adre drwy'r flwyddyn ar wahan pan fo streic. Doedd dim rhyfedd fod llawer o ohonom ni blant yr ardal yn cael ein penblwydd ar yr un pryd. Roedd dod adre o'r South yn dipyn o broblem, dim bysis na cheir dim ond dibenu ar y trên. Newid yn Gaerfyrddin a siwrnau araf oedd hi ar y trên o'r De. Roedd llawer ohonynt wedi bod yn gweithio yn y pwll drwy y nos, yna sefyll are eu traed yn y corridor wedyn falle, hyd nes cyraedd Aberystwyth. Yna cael trên o Aberystwyth i Bow Street neu Llandre. Cerdded wedyn , rhai yn mynd i Penrhyn a Trefeurig neu Talybont a llefydd arall. Roedd dim amcan pan yr oeddent i gyraedd, a ninnau yn dwr o blant yn disgwyl ac edrych ar y cloc, a rhoi tegell ar y tân. O'r diwedd yn cyraedd, yn gwyliau'r Pasg neu mis Awst, a rhai o'r plant ieuengaf ddim yn adnabod eu tadau. Y mamau a babis yn y shawl yn mynd i lawr i gwrdd a nhw. Nid oedddynt byth yn cario case dim ond basged wellt a strap am honno i rhoi ar eu cefnau. Hen dro diflas oedd eu gweld yn mynd yn ôl wedyn ar ôl bod adre. Yna llythyr a chyflog yn dod bob bore Llun. Roedd yn ddrwg pan ddoi streic, roedd yn braf cael y tadau adre wrth gwrs, ond doedd dim dimau yn dod i fewn. Dim dole na dim arall. Rwyn cofio nhad a llawer tad arall adre am bedwar mis efo streic, y mamau yn dod at eu gilydd a llefain ei fod yn galed ond nid wyf yn cofio i ni erioed yn gorfod mynd i'r ysgol heb frecwast na mynd yn droednoeth. Roeddwn yn rhy ifanc y pryd hynny i sylweddoli ond erbyn hyn a chofio nôl, credaf nad oedd oes y gwyrthiau wedi gorffen a does dim yn hela fi yn wyllt, na chlywed pobol heddiw yn dweud bod hi yn galed i fyw. Druan a nhw!

Roedd hen wraig yn gwneud gwaith nyrs pryd hynny pan fyddau y mamau yn cael babis ond yn y flwyddyn 1912 fe ddaeth District Nurse i'r ardal am y tro cyntaf, felly roeddent yn disgwyl i bawb i gefnogi hi. Nid wyf yn cofio faint oeddent yn talu ond cofiaf fod fy chwaer ieuengaf i wedi ei geni ar y 28 o Rhagfyr 1921 a finnau tua dwy oed ac yn deall peth am y fusnes ond dim cymaint a phlant heddi. Pam fydd pethau pwysig yn digwydd , rhaid iddynt ddigwydd wedi nos bob amser. Cofiaf gweld fy nhad yn cerdded efo lantern draw heibio Tynpynfarch a fyny Lôn Cwrt a lawr heibio Tynrhos i alw ar Nyrs Rees. Pe bydda peth fel, hynny yn digwydd heddi, dim ond phonio fydde eisiau neu neidio i gar a mynd, ond dim felly y pryd hynny. Ar ôl codi y nyrs, roedd y nhad yn codi Mr Goronwy Rees. Roedd hwnw druan yn siwr o fod yn ei dweud hi ond dod ar y trap a poni allan i fynd a Nyrs Rees i fyny i Salem. Fy nhad ar lantern yn cael mynd efo nhw yn y trap. Gallwch ddychmygu yn mynd clipeti cloc trwy Bow Street yn nghanol nos, heibio Gogerddan a fyny drwy Penrhyn. Y dynion yn siwr yn gorfod cerdded heibio Capel Horeb lle oedd y ffordd yn serth iawn. Fyny i Salem a phopeth yn iawn, lwc fod dim eira y noson honno. Wedi hyn roedd Nyrs Rees yn dod fyny i Salem bob dydd am ryw ddeg diwrnod ar ei beic. Hen un neis iawn oedd hi, nid yn unig yn gofalu am y fam ar babi ond roedd yn cadw llygad arnom ni hefyd. Wel mewn rhyw ddau ddiwrnod roedd wythnos wyliau fy nhad wedi dod i ben a roedd fy nhad yn mynd nôl i waith. Roedd yna saith ohonom yn disgwyl cael bwyd a modryb yn dod draw i edrych ar ein holau, a finnau yn gorfod tynnu fy llewisau yn olew hefyd. Amser called ond pawb yn hapus a roedd y gymdeithas yn un glos iawn a phawb yn helpu eu gilydd.

Roeddem yn cael hau rhyw ddwy res o datw yn y cae efo y farmwr yn Nhoedgruffydd. Nid oedd tâl am gael hau yn tatw ond disgwyl i'r menywod roi help efo'r cynheuaf ac yn amser y gwyliau finnau fel llawer eraill yn gofalu am y plant. Cof sydd gennyf fynd â'r ieuengaf i'r cae llafur a mam yn eistedd ar ysgub a rhoi llaeth y frest ac ar ôl iddi orffen i fi fynd ar babi am dro mewn rhyw hen bram a hwnnw yn mynd erbyn twmpath ar y ffordd ar babi ar dillad yn dod allan. Y cwbwl yn cael ei roi yn nôl yn daclus.

Digon o le i chwareyn yr haf a digon o flodau gwyllt yn tyfu. Chware priodas fach yn amal a hel mwyar duon neu llys bach ar hyd y banciau, bywyd yn ddifyr iawn. Digon o fwyd ac amal gwningen ar gael yn yr adeg hyny, gardd dda yn llawn llysiau , a lladd mochyn bob hydref. Rwyn cofio mynd i hela cerrig, tair ceiniog oeddem yn cael a te yn y cae.

Cymeriadau
Roedd rhai cymeriadau doniol iawn yn yr ardal. Cofiaf am hen wraig yn byw drws nesaf i ni. Lisa Williams oedd hi, pwten fach fer. Roedd wedi prynu papur i bapuro y gegin, doedd dim lounge neu dining room yn yr adeg hyny. Roedd y papur yn costio dwy geiniog y roll a Lisa wedi codi yn y bore yn gynar yn y gwanwyn i weithio yn y gegin, a rhoi un darn fyny tu ôl i'r drws. Yna mynd allan i alw ar mam a honno yn dweud ? Oh wedi dechrau papuro Lisa?? ?Ydw.? Medde hi ?ond nid wyf yn ei leicio? a mam yn dweud ? Oh bydd yn iawn ar ol gorffen .? ?Na? meddai hi ?af a fe ynol.? Yna eistedd ar y stôl a newid ei sgidiau a rhoi ei chot am dani a cherdded i Aberystwyth, rhyw chwech neu saith milltir o Salem. Fe fyddwn ni rwan wedi gwneud cwpaned o de cyn mynd yn y car, ond roedd dim siawns cael lift o unrhyw fath amser hynny.
Cofiaf hefyd Edward Hughes, tad Isaac Hughes Afallon Deg yn dod a menyn o Llawrcwm Fawr i siop Salem. Cerdded wrth gwrs, ar bwys ei ffon am ei fod yn gloff iawn. A ninnau yn cael rhybydd i ddod adre os gwele ni fe yn dod i'r siop, er mwyn sicrhau mynd draw i brynu'r menyn am fod menyn Llawrcwm yn neis iawn. Dwn i ddim pam na allau ef ddod ar menyn at y tai ond fel yna oedd y drefn wastad. Roedd yn dod a dau gi defaid efo ac ar ôl gwerthu y menyn roedd yn dod draw i dŷ Tom a Ann Edwards i gael te. Roeddynt yn ffrindiau mawr ond ni chai y cŵn fynd i fewn i'r tŷ am fod Ann yn particular iawn am y tŷ. Y cŵn wrth y drws ar gau a ninnau y plant yn mynd atynt a dechrau canu iddynt, ar hen gwn yn canu efo ni. Edwards yn y tŷ yn clywed y concert ac yn dweud ?Duw, Duw Ann os na cha i fynd i'r nefoedd mae y cŵn yn siwr o gael mynd ar ôl yr holl ganu yma.?

Ond i fynd nôl at Tom ac Ann, dau gymeriad annwyl, yn ddi blant ond buont yn ffein iawn wrtho ni pan yn blant. Ambell waith pan fyddai mam yn mynd oddi cartref, dim yn amal oedd hyny yn digwydd, roeddent yn ofalus iawn ohonom a Ann yn gofyn os gallau hi wneud rhywbeth i helpu. Ninnau yn gofyn am frechdanau am fod torth fawr wedi ei phobu yn y ffwrn wal. Roedd Ann môr lân ac yn polishio bob man. Roedd oilcloth ar y star a rods brass yn cadw yr oilcloth yn ei le. Peth peryglus yw polishio oilcloth a roedd y star gyferbyn a drws y tŷ. Rhyw fore yn yr haf roedd Tom yn dod i lawr yn nhraed ei sannau a collodd ei ddwy droed a chan fod y drws ar agor fe safodd ar y ffordd fawr. Roedd dim peryg am fod na ddim ceir yn yr ardal a dim ond beic neu defaid oedd wrth law.

Cofiaf am ddau arall yn ddigon diniwed yn byw yn Luest Fach y Mynydd, dipin nes fyny na Chwmsymlog o'r enw Dafydd a Mari Ann. Cofiaf am danynt yn dod i lawr i'r siop, a Dafydd bob amser wedi clymu ei het a chortyn. Un noswaith reddynt wedi dod lawr i Drefeurig a dim wedi dod a lantern, wedi meddwl mynd nôl cyn nos. Felly cawsant fenthyg torch newydd efo rhywun er mwyn mynd yn ôl. Ar ôl cyraedd adre dyna'r ddau yn dechreu chwythi bob yn ail, ond roeddynt yn methi diffodd y torch. Ar ôl amser hirach yn chwythi gyda'r feigin, roedd Dafydd yn credu fod y torch yn dechrau diffodd, ond y battery oedd yn mynd i lawr. Roeddynt am fynd i'r gwely ond yn ofn gadael y golau rhag ofn i'r tŷ fynd ar dân. Yn y diwedd rhoisant y torch mewn bwced o ddŵr a chysgu yn dawel
Yn Nhrefeurig oedd ein ysgol dyddiol. Nid oedd yn ffordd bell o gartre, lan tipyn o rhiw i Benrhiw a lawr y banc i ysgol Drefeurig. Roeddem ni a twr o blant o Llwynprysg a Penrhiw yn cwrdd ein gilydd yn gyntaf cyn disgyn i'r ysgol. Roedd y bryn yn noeth ac yn arw iawn pan fyddai'r gwynt yn chwythi a bwrw glaw. Allwn weld plant Banc y Darren yn dod i lawr yr ochr arall. Roedd tua chant yn yr ysgol pryd hynny gan fod teuluoedd mawr yn yr ardal. Cawsom athrawon da iawn a daeth Dan Jones yn ysgolfeistr, un o Bronant oedd ef, ond dim ond chwe mis fuais efo fe. Wnaeth ef lawer o les i'r ardal a daeth a thipyn o Gymraeg. Roeddem yn bwrw amser i fynd adre o'r ysgol yn breuddwydio, neu chwilio nythod, neu dilyn ieir fach yr haf yn y rhedyn a chyrraedd adre yn hwyr ac yn cael row fawr. Roeddem yn bwrw llawer o'm hamser allan yn yr haf, hela coed tân, torri rhedyn i roi dan y mochyn, hela cnau a pethau felly. Roedd bron pawb yn cadw mochyn yn y pentre a lladdwyd hwnw tua Glangaeaf. Ninnau y plant yn llefain am fod y mochyn wedi ei ladd. Rwyn meddwl yn amal fe hoffwn gael tamaid o'r bacwn oeddem yn gael y pryd hynny.

Roeddwn yn gyson iawn yn y capel a cawsom Ysgol Sul dda iawn. Roedd pregeth yn y bore, wedyn roedd y pregethwr yn mynd fyny i Gwmerfyn i wasanaeth y prynhawn
a cerdded yr holl ffordd. Wedyn roedd ysgol Sul yn y prynhawn a chwrdd gweddi gyda'r nos a digon o rai yn mynd i gynnal y cwrdd. Ryw unwaith y mis roeddwn yn cael cwrdd adrodd a chanu. Dysgu darnau adrodd, deuawdau a pedwarawd a cael hwyl iawn. Pan fydde pregeth yn y prynhawn roedd y mamau yn mynd a babis i'r capel mewn shawl ac os bydde'r babi yn dechreu llefain, yna mynd allan i'r porch a hela ef i gysgu a yna yn ôl i'r capel. Roedd pregethu hir i gael y pryd hynny.
Roedd brêc William Magor yn mynd i Aberystwyth bob dydd Llun. Dyna chi beth oedd turn out. Roedd y brêc fel hanner casgen yn cael ei thynnu gan un ceffyl a phawb ond yr hen yn gorfod mynd lawr i gerdded y rhiwiau hyd yn oed gwlaw neu chwythu. Roedd William Magor yn byw yn Penyberth ger Penrhyn-coch a dim ond ei frêc oedd yn mynd i Salem er bod chwaneg o frêcs yn yr ardal. Fe gerddais yn ôl o Aberystwyth lawer. Roedd son am fwbachod ar y ffordd a bod Ladi Wen wrth ymyl Gogerddan ond welais i ddim. Dim ond clywed ambell gwdihŵ yn y coed ac ambell lwynog yn galw ar ei gilydd. Y peth mwyaf oeredd oedd clywed dafad yn peswch yn y clawdd.

Wel, dyna yn fras ac anniben hanes bro fy mebyd i ac er fy mod wedi dod oddi yna rwyn hoff i fynd yn ôl yna, yn enwedig yn yr haf, neu yn y gaeaf. Fyny i Benrhiw a chael cip ar yr hen ysgol yn Nhrefeurig ac yna lawr drwy Salem, ond pobol ddierth sydd yn awr mewn llawer lle. Fedrai ddim cnocio drws a gweud ?sut ma hi??.
Fel yna mae hi, mae'r byd a'r oes wedi altro.