Hanes Trefeurig



Hyd 1894 yr oedd Trefeurig yn barsel, neu dref ddegwm, yn un o lawer, ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, y plwyf mwyaf yng Nghymru. Yn 1894 trwy ddeddf llywodraeth leol fe grewyd plwyf sifil Trefeurig, a'i gyngor etholedig. Yr oedd plwyf Trefeurig yn un hirgul, yn ymestyn o Gogerddan hyd at Bumlumon. Hanerwyd ei hyd dan ad-drefniant llywodraeth leol yn 1987 a chreu uned fwy cryno, "Cymuned Trefeurig" bellach yn hytrach na "Plwyf Trefeurig", yn ymestyn o Gogerddan hyd at y Fuwch a'r Llo ar yr heol fynydd i Bonterwyd. Yn 1987 ychwanegwyd at Gymuned Trefeurig y rhan fwyaf o hen blwyf sifil Parsel Canol a darn o Dir-y-mynach. Mae Trefeurig yn cynnwys holl bentref Penrhyn-coch a'r pentrefi bychain Pen-bont Rhydybeddau, Cwmsymlog, Cwmerfyn, Salem, Llwyn-prysg, Cefn-llwyd, Bancydarren ac ychydig o Gapel Dewi.

LLIFOGYDD 9 Mehefin 2012

Dathlu 150 Ysgol Penrhyn-coch, RHAI LLUNIAU: Arddangosfa, Seremoni, Cyngerdd a Thractors
HANES YSGOL PENRHYN-COCH: DROS 500 o luniau, a 639 o ddarnau o'r Tincer
Hanes Ysgol Penrhyn-coch
Dafydd ap Gwilym
Rhyfel Byd Cyntaf
Ail Ryfel Byd
Crefydd ac Addysg
Diwydiant
Cysylltiad Brenhinol
Cymeriadau'r Gorffennol
Hen Gymeriadau Trefeurig, J. P. Evans, Y Siop, Bont-goch
Agoriad Pont Gogerddan 16.6.2000
Atgofion W Elfed Davies, Salem (1919-2002)Rhif 1
Bro fy Mebyd: Rhif 2

YSGOL TREFEURIG c. 1955/56


YSGOL TREFEURIG 1955/56?


Rhes gefn: Islwyn Hughes, Trawsnant; Mrs Carona Roberts, athrawes; Mavis Jones, Bwlchydderwen; Pat Williams, Y Darren; Eirian Griffiths, Lluest Fach; Delyth Jones, Bronhaulwen; Mair Morgan, Llety Caws; Eirlys Jones, Bwlchydderwen; Kathleen Furlong, Llwyn Prysg; Miss Evans, Llawr y Glyn; Gillian Davies, Maesmeurig; Eifion Lewis, Cwmerfyn Farm; Terry Prescott, Penbont; ?; Miss Leah Morgan, Penbont


Rhes flaen:David Prescott, Penbont; Margaret Jones, Bwlchydderwen; Catherine Sorrenson, Pant-y-Ffynnon; ?; Edward Furlong, Llwyn Prysg; Betty Prescott, Penbont; Dai Mason, Cwmisaf; Alun Hughes, Trawsnant; Aldwyth Hughes, Y Gelli; Elwyn Jones, Cemlyn; Merfyn Hughes, Trawsnant


Diolch i Dai Mason am y llun; ac i Delyth Ralphs am yr enwau


Bois y Pentre


bois


Rhes gefn - Ceinion Jones, Gwynfor Thomas, Dai Evans, Cefnllwyd, Alwyn Davies, Llwyngronw

Rhes ganol - Henry Davies, John Griffiths, Ffosygrafel, Richie Jenkins, Cwmbwa, Llew Evans, Ken Williams, Brondderw, Brian Evans, Bwthyn

Rhes flaen - Henry Thomas, Brian Davies, Griff Griffiths, Ffosygrafel, Nigel Davies, Eric Thomas, Dai James, y gyrrwr bws

DIOLCH i Brian Davies am anfon y llun

Salem 1932


CLICIWCH fan hyn i weld llun mwy o faint
Elfed Davies yw'r 5ed o'r dde. Pwy yw'r lleill?

Cwmerfyn



Horeb



Salem



Diolch i Brian Davies am y lluniau.

Yn 1941 penderfynnwyd cyhoeddi papur neu llyfr i'w rannu'n rhad i bob Cymro a Chymraes a aeth oddi cartref oherwydd y Rhyfel. Y Dddolen - Cofion Cymru. Cyhoeddwyd ail lyfr yn erbyn Gwyl Dewi yn 1944, trydydd yn yr Haf ac yna un ychwanegol at Wyl Dewi yn 1945; ac un pellach erbyn haf 1945. Yna yn 1946 cyhoeddwyd yr olaf.

Dyma lun o'r “Book Plate” oedd ar tudalen ddechrau'r llyfr olaf i ddathlu yr anrheg i bob derbynnydd. Mae'n eglur fod hwn wedi ei rhoi i'm nhad Elfed Davies yn y capel neu y festri yn Horeb. [Brian Davies]
Cofion Cymru



Rwyf hefyd yn cynnwys copi o dudalen cynnwys y llyfr: [Brian Davies]
Tudalen flaen



Angharad Fychan yn arwain Taith Gerdded Llynnoedd Trefeurig dan nawdd Cymdeithas Edward Llwyd a Chymdeithas Enwau leoedd Cymru. O flaen y Fuwch a'r Llo 2015

AF