GWEINIDOGION HOREB, PENRHYNCOCH a CHWMSYMLOG


Allan o Rhaglen Undeb Bedyddwyr Cymru yn Bethel, Aberystwyth, 710 Hydref, 1912
Yr Hanes gan Y Parchg Henry Evans
Y Parchg Henry Evans <br>18971918

Penrhyn-coch sydd un o'r mannau yr arferai yr aelodau eglwys gyntaf Gogledd Ceredigion gyfarfod i addoli.

Hyspyswyd eisoes y modd y cafodd cenadon y Bedyddwyr groesaw yn Gogerddan; a'r modd y trefnwyd bedyddio ger Bow Street, Meh. 1787. Buan yr amlhaodd bedyddiedigion, a gwelwyd bedydd yn amlach yn y Sir. Darfu i'r gwahanol aelodau ymdrechu cael mannau cyfarfod yn ymyl eu cartrefi. Parodd hyn i'r eglwys, dderbyniwyd i'r Gymanfa yn Maesyberllan yn 1789, feddu yn gynhar iawn amryw fannau cyfarfod ac yn eu plith Penrhyn-coch. Bu yr amrywiol fanau hyn tan yr un weinidogaeth hyd 1817, pan yr ymneillduodd Penrhyn-coch a Thalybont, i fyned ynghyd ar eu penau eu hunain.

Mewn tangnefedd a heddwch yr ymneillduwyd, fel y prawf y copi o'r llythyr gollyngdod gawsant oddiwrth Eglwys Aberystwyth, gafodd y brawd John Morgan ym mysg hen bapyrau perthynol i Eglwys Baker Street, ac a argraffwyd er ys lawer dydd yn y Greal.

Ar y cyntaf, cafodd pobl y Penryn gryn anhawsder i gael lle i adeiladu. Methasant gael lle yn y man a hoffent; ond adeilasant gapel ar dir a gawd gan ryw Ymneillduwr. Mae gwahanol farnau parthed yr amser yr adeiladwyd gyntaf. Dywed Joshua Thomas i gapel gael ei adeiladu tua phedair millitir i'r dwyrain o Aberystwyth, yn amser gweinidogaeth John Williams. (Ordeiniwyd Mr Williams Mawrth 18ed, 1789).

Dywed Spinther mai yn 1789 yr adeiladwyd. Y Parchg Henry Evans a ddywed fod carreg ym mur yr hen gapel yn dwyn y dyddiad 1788. Cyddiwyd honno yn adeg adenewyddiad yr hen gapel! Yng ngwyneb y pethau hyn coledda Mr Evans y syniad, ddarfod dechreu adeiladu yn 1788 a gorphen yn ystod gweinidogaeth Mr Williams yn 1789.

Wedi i Penrhyn-coch a Thalybont ymwahanu ag Aberystwyth, ac ymgorpholi yn eglwys are eu pennau eu hunain, rhoddasant 'alwad' i Mr John Davies, Llandysul. Efe a ddaeth ac a fu yn gweinidogaethu hyd 1821. A'r capel wedi ei helaethu, cynhaliwyd 'cyrddau agoriadol' ar ei sefydliad ef Rhagfyr 10ed, 1818. Pregethodd y Brodyr J. Herring, Aberteifi; D. Richards, Penyparc; T. Hughes o Sir Ddinbych; Timothy Thomas, Aberduar; a Joshua Watkins, Caerfyrddin. Heblaw yn ei eglwysi ei hun, pregethai Mr Davies yn fynych yn ardaloedd Goginan a Moriah.

Dywedir mai John Davies a Jesse Jones bregethodd gyntaf yng Ngoginan yn 1820, yn Ysgoldy Thomas James. Cedwid Ysgol Sul ym Mhantyrebolion, uwchlaw Cwmsymlog, gan aelodau Penrhyn-coch yn 1805. Bu Christmas Evans yn pregethu yno; a blaenorid yn yr Ysgol gan dadcu a mamgu y Parch Isaac Thomas, Caersalem Newydd, a Richard Thomas, Caergybi. Llafuriodd John Davies yn galed; a bu ei ymdrech yn llwyddiannus. Ymadawodd yn 1821, ac aeth i Fanceinion. Ac wedi llafurio yn Nhreffynnon, Llanerchymedd, Brynsiencyn, a Nefyn, bu farw Gorffennaf 13eg, 1847, yn 74 mlwydd oed. Claddwyd ef ym mynwent Bedyddwyr Nefyn.

Bu yr Eglwys heb weinidog am rai blynyddau. Gwasanaeth Morgan James fu o gymorth mawr yn y cyfnod hwnnw. Ond bu diffyg gweinidogaeth yn achlysur dirywiad.

Dechreuodd Simon James ei weinidogaeth yma Mawrth, 1826. Bu ei ddyfodiad yn achlysur diwygiad. Bedyddiodd 40 mewn 10 mis. Cartrefai yn nhy Richard Griffiths, y Felin, Talybont. Cartref annwyl a thyner gafodd yno. Gwasanaethai James o fewn chwech wythnos i'w farw. Hunodd yn 36 mlwydd oed. Claddwyd ef ym mynwent Horeb; a gwelir ei fedd wrth ddrws y Capel.

Simon James



Yn fuan wedi marw James, sefydlodd y Parch William Roberts. Drwy ei ymdrechion ef yr adeiladwyd capel yn Goginan, yn lle y ty ddifethwyd gan y storm. Pallodd ei iechyd. Gorfu arno ymryddhau o ofalu am ei eglwys. Dymunodd gael ei gladdu yn Horeb; ac felly y bu. Gorphwys yn yr un bedd a Simon James.

William Roberts



Sefydlwyd gweinidog newydd yn Mawrth, 1832, o'r enw David Roberts. Cynnydd amlwg fu yn amser Mr Roberts. Aeth Goginan ar ei phen ei hun. Adeiladwyd Ty Cyfarfod yn Nhalybont. Cyflawnodd wasanaeth gwerthfawr cyn iddo symud i Lanidloes yn 1835.

Daeth Morgan Lewis yma yn 1835. Ymgysylltodd Goginan a Phenrhyn-coch drachefn; ac aeth Talybont ar ei phen ei hun. Ymadawodd Morgan Lewis yn 1839, gan fyned i Salem, Llangyfelach. Dyma'r cyfnod y gwnawd ymdrech neillduol o blaid y Genhadaeth Dramor; a chynhaliwyd cyrddau yn Penrhyn-coch i'r perwyl.

Yn 1840 galwodd Horeb Mr James Rowe, myfyriwr oedd wedi ymadael a'r Coleg heb alwad, i'w bugeilio. Cafodd ef yn weinidog da a phregethwr rhagorol. Ordeiniwyd ef Hydref 23ain, 1840. Adeiladwyd capel newydd yng Ngoginan yn ei amser ef; a theithiodd lawer i gasglu arian i dalu am dano. Tra ar un o'r teithiau hyn yr hoffwyd ef gan Moriah, Risca, a pherswadiodd ef i fyned yno i'w gwasanaethu, Adeiladwyd ty i'r gweinidog yn Penrhyn cyn i Mr Rowe symud i Risca yn 18423.

Byr fu arosiad y gweinidog nesaf. Daeth y Parch John Evans yn 1844, ac aeth ymaith yn 1846, wedi cyflawni gwasanaeth canmoladwy, a dwyn amryw i fewn i'r eglwys.

Daeth Evan Howells yn 1846, ac arosodd yma hyd 1851, pryd y symudodd i Benbont-ar-Ogwy.
Yn y flwyddyn hono daeth y Parch William Owen. Yn ei adeg ef yr ymgysylltodd Talybont a'r Penrhyn drachefn; ac y dygwyd Horeb i'w ffurf a'i faintioli presennol. Pregethid, gyda hin deg, yn y fynwent; ac ar loft gefail Enos Williams ar hin arw, tra adgyweirid y capel. Blinid ef gan afiechyd yn nyddiau olaf ei oes. Methai fedyddio; a methai ddyfod yn gyson i'r Penrhyn, gan ei fod yn byw yn Talybont. Gan y llwyddai i bregethu yn gyson yn Talybont, ymryddhaodd oddiwrth Penrhyn-coch, er symud achlysur anghysur yr eglwys. Cyfyngodd ei weinidogaeth i Talybont. Roedd diwedd y daith gerllaw. Ymdrechodd fel glew hyd y diwedd. Bu brawdoliaeth Talybont yn dyner a charedig iddo. Claddwyd ef gydag arwyddion o wir anwyldeb ym Mynwent Bedyddwyr Talybont.

Yn 1860 daeth Isaac Jones o Bethabara, ac arosodd am 14 mlynedd.

Y Parch George Evans, Beaumaris a Llangoed, a ddaeth yn 1875, a gwasanaethodd yma saith mlynedd. Siaradwr cyflym, nerthol,a thanllyd oedd efe. Symudodd i Hebron, Ton, yn 1881.

Awst 21ain, 1881, y pregethodd y Parch E.T. Jones yn Penrhyn am y tro cyntaf. Daeth yn lle cyfaill iddo. Mynai y frawdoliaeth roddi galwad iddo y pryd hwnw. Rhwystrodd hwynt; ond daeth yno i bregethu drachefn Rhagfyr 4ydd, 1881, a derbyniodd yr alwad. Dechreuodd yma Mawrth 19eg, 1882, ond ymadawodd drachefn Chwefror, 1883, gan fynd i Blaenwaun. Byr ond dedwydd fu ei dymor ef. Cawd arwyddion sicr y pryd hwnw o'i boblogrwydd heddyw.
Y Parchg E. T. Jones <br>18823::joneset.jpg




Dechreu Ebrill 1887, daeth y Parch J. S. Jones, a gwelwyd llwyddiant mawr ar ei lafur yn ystod tair blynedd. Symudodd i Tyddewi yn 1890.

Yn 1892 daeth Mr W. Rhys Jones yn fyfyriwr o Goleg Bangor, ac ordeiniwyd ef Tachwedd 15fed a'r 16eg, 1892. Bedyddiodd lawer o bobl ieuainc, ac anwylid ef gan yr ardal. Gyda hiraeth y gollyngwyd ef oddi yma i Benriceiber yn 1894.

Dechreuodd y Parch Henry Evans yn Chwefror, 1897, a dug dystiolaeth uchel i ffyddlondeb mawr, sef brwdfrydig, hunanaberth helaeth, a hydweithrediad cyffredinol y frawdoliaeth, dros lwydd y Gwirionedd, a'u cydymdeimlad tyner a dwfn age ef yn ei waith. Mawrygir ein brawd gan ei eglwys a'i gylch.

Ymhlith pregethwyr, ceir enwau y canlynol a godwyd i bregethu yn Penrhyn-coch a'r ardal gyfagos: R. Morgan, Samuel Breeze, John Edwards, Jesse Jones (Ysgolfeistr), Jesse Jones (Llanfihangel), Thomas James, H. W. Jones, Morgan James, Isaac Edwards, James Matthias (Goronwy Ddu), John Evans, William Edwards, Daniel Edwards, Isaac James, E. R. James, J. Gomer James.
O bryd i bryd bu yr eglwys yn ymdrechol i gwrdd a'i gofynion; gan fabwysiadu cynllyniau arbennig i harddu'r addoldy a'i wneud yn fwy cyfleus i addoli. Ergyd trwm i amgylchiadau yr eglwys fu attaliad y gweithfeydd plwm yn yr ardal. Ymadawodd teuluoedd oeddynt Fedyddwyr y pryd hwnnw; a beunydd angenrhaid yw i'r meibion a'r merched fegir yma ymadael a'u cartrefi i chwilio cynhaliaeth. Eto llwyddodd yr eglwys i glirio ei dyled; ac i fod yn hunan-gynhaliol. Tuedda weithiau i dristhau ac i anobeithio wrth golli ffyddloniaid, a gweld y fynwent yn cael ei chyfoethogi a llwch y saint; ond ceisia dreiglo ei baich ar yr Arglwydd, a gwynebu'r dyfodol a'i hymddiried yn ei Duw.


CWMSYMLOG Y Parchg W. J. Williams


Cangen o Penrhyn-coch yw Goginan, a changen o Goginan yw Cwmsymlog.
Elai 'Gwaith y Cwm' mor dda, a'r trigolion yn lluosogi, fel y gwelwyd y priodoldeb o godi achos i'r Bedyddwyr yn y lle. Ac yn 1842 adeiladywd capel iddynt. Yr oedd William Lewis a William Owen, dau frawd o Jezreel, Goginan, yn frwdfrydig dros gychwyn achos yno; a thrwy help rhain, gydag yndrech y brodyr John James, Gwndwnbach, Daniel Evans Blaenmindwr; Morgan Morgans, Edward Thomas, Isaac Thomas, Maesmeurig; a Mesach Thomas, codwyd capel i Fedyddwyr yn y Cwm.
Yr oedd yr 'Hen Gapel', lle mae carbedd y gwaith, a chofia lawer am yr hwyl a'r llwyddiant ynddo. Corffolwyd yr Eglwys, ac yr oedd, fel ac y mae, dan yr un weinidogaeth a Jezreel.

Am fod y Gwaith yn dod mor agos nes niweidio yr hen addoldy, fe'i gwerthwyd i 'Gwmni y Gwaith' gydag 'Iawn' am dano, a phrydlewsyd darn o dir lle mae y capel presenol, ac adeiladwyd arno yn 1860, a gofelid am yr adeiladau gan Morgan Morgans.
Ffyddloniaid sydd wedi bod a'u hysgwyddau'n dyn o dan faich y ddyled, nes ei chlirio, yw teulu Dafydd Evans, y Siop; y Tomosiaid sydd mor lluosog yn y Cwm, a'r Morganiaid; y brawd ffyddlon James Davies, sydd wedi bod yn ddiacon am dros 30 mlynedd; a'r diweddar William Garland oedd a'r achos yn annyl i'w galon.

Cododd Cwmsymlog y brodyr canlynol: y Parchgn William Jones, Treharris, a John Symog Morgan, Castellnewydd.

Er fod yr ardaloedd yn isel eu hamgylchiadau y blynyddau hyn, erys y frawdoliaeth yn y Cwm a Goginan yn llawn bywyd a sel dros achos Iesu Grist.