Newyddion lleol a digwyddiadau
Straeon newyddion o 2013
Archif newyddion: Newyddion diweddaraf 2017 2016 2015 2014 2013 2012 2011 2010 2009 2008Er cof am Mark Horwood (31-12-2013)
"Bydd yn 10 mlynedd ers ei farwolaeth ac fel terynged i ŵr a thad teyrngar, byddaf fi a'i nith a ffrind da yn bwriadu dringo mynydd Kilimanjaro tra'n codi arian ar gyfer y BHF. Byddwn yn ddiolchgar i dderbyn unrhyw gyfraniadau er cof am ddyn arbennig a bydd yn help i'r bechgyn fod yn falch o'i tad. Diolch yn fawr" - Susan Horwood.mwy
Rhoserchan i ail agor? (31-12-2013)
Mae DACW wedi gorffen cynllun busnes ar gyfer 30 o bobl. Kaleidoscope a Cais sy'n arwain y prosiect.mwy
Testunau Llên Eisteddfod Penrhyn-coch 2014 (22-12-2013)
Y gadair am gerdd 'Y Goedwig' a chystadlaethau eraill...mwy
Cylch Meithrin Trefeurig (03-12-2013)
32.5 / 39 awr yr wythnos/ £7.07 yr awr. NVQ 3 - maes gofal plant. Gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol. s1rsj@orange.net.y tincer (22-11-2013)
Mynwenta, Ceris Gruffudd; Y Fuwch Wen, Angharad Fychan; Llun y Mis, Iestyn Hughes; adolygiad; taith gerdded y mis, Rees Thomas; Tasc y Tincer; Cyngor Cymuned TirymynachGeraint Jones yn Cofio R. S. (21-11-2013)
Noson ddifyr arall yng Nghymdeithas y Penrhyn dan ofal Geraint Jones, Trefor yn cofio am R. R. Thomas ei gymydog a'i gyfaill.IBERS: Llongyfarchiadau i'r Athro Wayne Powell (31-10-2013)
Ymunodd yr Athro Powell â Phrifysgol Aberystwyth yn 2008, yn Gyfarwyddwr cyntaf ar Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a oedd newydd ei sefydlu.Yn ystod ei bum mlynedd wrth y llyw, mae'r Athrofa wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys Gwobr Pen-blwydd Coroni'r Frenhines am Addysg Uwch yn 2009 am arwain y maes yn rhyngwladol yn ei gwaith bridio planhigion er budd y cyhoedd, ac fe gyrhaeddodd restr fer Gwobrau Addysg Uwch y Times yn 2013 yng nghategori Cyfraniad Eithriadol i Arloesi a Thechnoleg. Yn 2011 enillodd IBERS Wobr y BBSRC am Ragoriaeth ag Effaith.
mwy
Gwerfyl Pierce Jones yw Cadeirydd newydd Bwrdd Ymddiriedolwyr y Theatr Genedlaethol (18-10-2013)
Llongyfarchiadau mawr i Gwerfyl Pierce Jones.
mwy
Gwobr 'Pride of Britain' i Matthew Wilson (08-10-2013)
Cafodd Matthew wobr yn seremoni 'Pride of Britain' am weithred o wrhydri yn ystod 'Operation Herrick 15'.mwy
Cymdeithas y Penrhyn (19-09-2013)
Noson ddifyr gyda Craig Duggan yn sôn am ei brofiadau newyddiadurol.Taith 84 milltir yn codi £830 ar gyfer Mary's Meals (18-09-2013)
Elusen sy'n codi arian ar gyfer plant sy'n brin o fwyd yw Mary's Meals.mwy
Ffilm Kelly and Victor allan 20 Medi (18-09-2013)
Bydd Niall Griffiths mewn sesiwn cwestiwn ac ateb ar ôl y ffilm nos Sadwrn 21/9.Llyn Syfydrin: Enwi'r dyn a foddwyd. (28-08-2013)
Y dyn a foddwyd yn Llyn Syfydrin bnawn Llun oedd Benjamin Matthew Morgan, Capel Bach, Pen-bont Rhydybeddau. Cydymdeimlwn â'r teulu.mwy
Darganfod corff yn Llyn Syfydrin (27-08-2013)
Daeth y gwasanaethau brys o hyd i'r corff pnawn Dydd Mawrth.mwy
Llongyfarchiadau i Joseph Scannell (27-08-2013)
Noddir y cynllun bwrsari ar gyfer perfformwyr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth gan Tony a Gwen Burgess, Wyau Birchgrove, Trawsgoed.Bydd Joseph yn mynd i Goleg Bird, Sidcup, Caint i astudio dawns, cerddoriaeth a pherfformiad theatr.
Codi arian er cof am James Evans, Penrhyn-coch (27-08-2013)
Bu farw James Evans, mab Ceredig a Margaret Evans, Penrhyn-coch mis Ionawr 2011. Ers hynny mae Lindsay wedi codi dros £2,000 ar gyfer yr elusen Sarcoma UK. Mae'r daith yma, dros 40,000 milltir, yn cychwyn ar 1 Medi, ac yn para 11 mis. Os hoffech gyfrannu at Sarcoma UK er cof am James Evans, cliciwch ar y linc isod:mwy
Y Rhuban Glas i Mared! (09-08-2013)
Llongyfarchiadau i Mared Pugh Evans am ennill y Rhuban Glas Offerynnol dan 16 oed yn Eisteddfod Dinbych a'r cyffiniau 2013. Cliciwch ar y linc i weld y perfformiad.mwy
Rhagor o arian IBER£ (27-07-2013)
Cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth y bwriad i fuddsoddi £35m er mwyn datblygu Campws Ymchwil ac Arloesedd newydd yng Ngogerddan.Mae'r datblygiad wedi ei wneud yn bosibl gan fuddsoddiad o £14.5m gan y Cyngor Ymchwil Gwyddoniaeth Biotechnoleg a Biolegol (Biotechnology and Biological Sciences Research Council (BBSRC).
mwy
Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Penrhyn-coch (12-07-2013)
Da iawn! Pob lwc ym Mae Colwyn yng nghystadleuaeth Cymru.Llongyfarchiadau i Gôr Ysgol Penrhyn-coch (09-07-2013)
Bu cystadlu brwd heddiw yn Llangollen. Da iawn Ysgol Penrhyn-coch.mwy
Llongyfarchiadau i Glenys Morgan (12-06-2013)
Llongyfarchiadau i Glenys Morgan am gael y nifer uchaf o bwyntiau yn yr Adran Flodau.Llongyfarchiadau i bêl-droedwyr y Penrhyn (11-06-2013)
Enillwyr ifainc 2013, a gyflwynwyd yng Nghlwb Pêl-droed PenrhynPlantos bach: Gwelliant mwyaf ... Tomos James. Presenoldeb gorau ... Connor Davies & Osian. Amddiffynnwr gorau ... Gwion Wilson. Newydd-ddyfodiad gorau ... Iwan. Ergydiwr gorau ... Rowan. Gôlgeidwad gorau ... Steffan Gillies. Agwedd gorau ... Ryan Bowen a Callum Jones. Chwaraewr y flwyddyn ... Cai Williams.
Dreigiau Cochion
Gwelliant mwyaf ... Shane Evans. Prif sgoriwr ... Rhys Evans. Chwaraewr y flwyddyn ... Josh Hathaway
Celtiaid Penrhyn
Gwelliant mwyaf ...Cian Thomas. Prif sgoriwr ... Jack Barron. Chwaraewr y flwyddyn ... Aaron Parry.
Dan 11
Gwelliant mwyaf ... Aled Phillips. Prif sgoriwr a chwaraewr y flwyddyn … Dion Ellis-Clark.
Dan 12
Gwelliant mwyaf ... Luke Evans. Prif sgoriwr ... Steffan Gittins. Chwaraewr y flwyddyn ... Owain Wilson.
Dan 14
Gwelliant mwyaf ... Hassan Saiid. Prif sgoriwr ... Mathew Merry. Chwaraewr y flwyddyn … Harri Horwood.
Dan 16
Gwelliant mwyaf ... Rhodri Jones. Prif sgoriwr ... Osian Thomas. Chwaraewr y flwyddyn ... Jake Kramp
Llongyfarchiadau i Seren, Sian a Gwenan (11-06-2013)
Llongyfarchiadau i Seren Wyn Jenkins ar ennill y wobr gyntaf dan 16 oed yn y Quilts UK 2013 Awards am ei gwaith 'Y Garreg Filltir' sy'n dathlu 150 mlwyddiant Ysgol Penrhyn-coch. Hefyd i Seren a'i chwiorydd Sian a Gwenan am ennill yr ail wobr am 'Y Pedwar Tymor' yn y gystadleuaeth i grwpiau dan 16 oed.
[imagecentre:serenaichwiorydd_bach.jpg]
Dringo Kilimanjaro er budd Childreach International (29-05-2013)

Rhostio Mochyn ym Maesmeurig 6.7.13


Rhagor o luniau
mwy
Ysgoloriaeth o £2,000 i Lea Adams (27-05-2013)
Llongyfarchiadau i Lea Adams, Penrhyn-coch. Mae yr Ysgoloriaeth, sydd werth £2,000 yn cael ei gwobrwyo i'r gwaith mwyaf addawol gan unigolion rhwng 18 – 25 oed.Dywedodd Lea, “Mae fy nyled i Mr Glyn Thomas yn fawr iawn, sef pennaeth adran Gelf yr ysgol ar y pryd. Ers hynny rwyf wedi bod yn gwerthu fy nghelf yn yr ardal a chyflawni comisynau''
mwy
Brownis Penrhyn-coch (22-05-2013)
Brownis Penrhyn-coch wedi bod yn casglu sbwriel ar drath Aberystwyth wythnos diwethaf fel rhan o Cadw Cymru'n daclus: 'Wythnos Arfordir Glân'.Gwrthod cyffur i fenyw sâl er mwyn arbed arian (22-05-2013)
Gofynnwyd i Mark Drakeford, y Gweinidog Iechy edrych mewn i'r mater. Stori llawn CN 23/5/13 tud. 6Llongyfarchadau i Cerys Humphreys (22-05-2013)
Er mwyn astudio effaith smygu ar y brodorion a'r modd i hybu iechyd.Llongyfarchiadau i MyW Penrhyn-coch (19-05-2013)
3ydd yn y Parti Llefaru yn Ngŵyl Haf Merched y Wawr ym MachynllethLlyfr y Flwyddyn: Rhestr Fer: Llongyfarchiadau i Jeremy Moore (16-05-2013)

http://wildwalesphotography.wordpress.com/2013/05/13/wales-at-waters-edge-nominated-for-welsh-book-of-the-year-award-but-only-under-the-authors-name/
mwy
Postyn Newydd i'r Penrhyn! (11-05-2013)
Mae postyn newydd wedi ymddangos o flaen yr Arosfan Bysys ar Sgwar y Penrhyn. Smart iawn.sleep furiously ar S4C YN FUAN! (09-05-2013)
Medd Gideon Koppel: 'dw i wrth fy modd eu bod nhw wedi penderfynu dangos y ffilm o'r diwedd'.Llongyfarchiadau i Brian Minchin (08-05-2013)
Bydd Brian Minchin, Penrhyn-coch yn dechrau fel cynhyrchydd gweithredol ar Dr Who a bydd yn gweithio ar y cyd â Steve Moffat. Ymunodd Brian ag Adran Ddrama BBC Cymru Wales ym 2005, cyn cychwyn fel golygydd sgriptiau ar 'Belonging' ac wedyn Doctor Who.mwy
Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Penrhyn-coch (03-05-2013)
Llongyfarchiadau i'r plant ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Bont heno. 1af-Parti Unsain; 2il-Cor; 3ydd-Parti Llefaru. Diolch am eich cefnogaethEisteddfod Penrhyn-coch (27-04-2013)
Llongyfarchiadau i Eilir Pryse am ennill Tlws yr Ifanc. Dyma'r ail waith idddo ennill.mwy
Paratoi at Langollen (23-04-2013)
Mwy na thraean disgyblion Ysgol Penrhyn-coch yn perthyn i gôr yr ysgol. Pam fod canu mor boblogaidd? Gweler y cyswllt.mwy
Llongyfarchiadau i Bev Thomas (23-04-2013)
Llongyfarchiadau i Bev Thomas am redeg Marathon Llundain mewn 5 awr 49 munud a 59 eiliad!Llongyfarchiadau i Gylch Meithrin Trefeurig (23-04-2013)
Mae'r Cylch yn darparu ar gyfer 20 o blant rhwng dwy a phedair oed.Llyfr newydd gan Richard E. Huws (18-04-2013)
Pwy yw'r Albies, y Beganifs, y Brain, y Chocolates, yr Eosiaid, y Mulod, y Penwaig a'r Piod a sut y cawsant eu henwau? Beth yw'r stori y tu ôl i ffugenwau mwy cyfarwydd fel yr Adar Gleision, yr Hen Aur, y Jacs, y Robiniaid a'r Sgarlets? a mwy...mwy
Llyfr newydd gan Rhiannon Ifans (18-04-2013)
Cywyddau Ymryson Syr Dafydd Trefor: Cyfres Beirdd yr Uchelwyr (Canolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd, 2013)Tincer mis Ebrill (18-04-2013)
Stori flaen: Iechyd da! Ffion Jones a Bragdy Brains; Mared Pugh-Evans yn ennill yn Nghŵyl Pencerdd Gwalia - a llawer mwy tu fewn...
Penrhyn-coch 2 Derwyddon Cefn 3 (14-04-2013)
Penrhyn-coch 2 Derwyddon Cefn 3tymor hyd yn hyn
18.8.12 Penrhyn-coch 1 Fflint 1
21.8.12 Caersws 1 Penrhyn-coch 3
25.8.12 Penrhyn-coch 4 Rhuthun 2
1.9.12 Penrhyn-coch 3 Penycae 1
8.9.12 Rhydymwyn 5 Penrhyn-coch 1
11.9.12 Penrhyn-coch 1 Rhaeadr 1
15.9.12 Penrhyn-coch 0 Bwcle 3
22.9.12 Rhyl 2 Penrhyn-coch 1
29.9.12 Penrhyn-coch 0 Conwy 2
13.10.12 Llandudno 1 Penrhyn-coch 1
20.10.12 Penrhyn-coch 2 Llanrheadr 1
3.11.12 Derwyddon Cefn 3 Penrhyn-coch 0
17.11.12 Penrhyn-coch 0 Porthmadog 4
24.11.12 Caergybi 2 Penrhyn-coch 2
08.12.12 Cegidfa 3 Penrhyn-coch 2
12.1.13 Penycae 0 Penrhyn-coch 4
01.02.13 Bwcle 4 Penrhyn-coch 1
09.02.13 Penrhyn-coch 0 Rhyl 6
16.02.13 Conwy 3 Penrhyn-coch 3
26.2.13 Rhaeadr 1 Penrhyn-coch 1
02.03.13 Llanrheadr 0 Penrhyn-coch 3
09.3.13 Penrhyn-coch 1 Cegidfa 3
12.3.13 Porthmadog 1 Penrhyn-coch 0
16.3.13 Penrhyn-coch 2 Llandudno 3
31.3.13 Penrhyn-coch 0 Fflint 1
13.4.13 Penrhyn-coch 2 Derwyddon Cefn 3
Rhoserchan wedi cau (10-04-2013)
Mae Rhoserchan, canolfan adfer pobl rhag effeithiau cyffuriau ac alcohol wedi cau.Ond y gobaith yw gwerthu'r safle fel bod modd cario ymlaen â'r gwaith.
mwy
Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Penrhyn-coch (29-03-2013)
Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Penrhyn-coch am ddod yn gyntaf ar yr ensemble lleisiol Bl. 6 ac iau a'r Parti Deulais Bl. 6 ac iau yn Eisteddfod Sir yr Urdd Ceredigion. Hefyd 2il yng Nghystadleuaeth Côr Bl. 6 a iau (ysgolion â hyd at 150 o blant). Pob hwyl yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghilwendeg!Gohirio Eisteddfod yr Urdd Ceredigion (Pontrhydfendigaid) (23-03-2013)
Eira wedi achosi gohiriad, yn wreiddiol tan fory OND dyddiad i'w benderfynu cyn diwedd y dydd.Cyflwyno Cadair i Eisteddfod Penrhyn-coch (19-03-2013)
Dr Huw Martin Thomas, Ger-y-llan, yn cyflwyno cadair hardd a rhodd o £50, er cof am ei rieni, Martin a Gwenda Thomas i Eirwen Hughes, Cadeirydd, a Mairwen Jones, Ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch.Bydd y gadair yn wobr am gerdd heb fod dros 50 o linellau ar y testun 'Perthynas'. Dyddiad cau: 8 Ebrill 2013. Gwnaethpwyd y Gadair gan Gwmni MijMoj, Llanfairfechan.
Cinio Cymdeithas y Penrhyn (17-03-2013)
Cafwyd noson ddiddorol yn y Richmond yng nghinio blynyddol Cymdeithas y Penrhyn. Y gŵr gwadd oedd Rocet Arwel Jones. Testun ei sgwrs oedd 'Rôl y Jonesiaid ym mywyd y genedl'.
|
|
|
Tim gymnasteg Ysgol Penrhyn-coch (28-02-2013)
Llongyfarchiadau i dîm gymnasteg yr ysgol a ddaeth yn drydydd yng Nghystadleuaeth Gymnasteg Genedlaethol yr Urdd.Rhyddid Ceredigion i Matthew Wilson (28-02-2013)
Llongyfarchiadau i Matthew Wilson!Rhyddid Ceredigion i Matthew Wilson

Y Cyngh Dai Mason, Matthew Wilson, Edwina Davies, Gwenan Price
mwy
Mari Strachan yng Nghymdeithas y Penrhyn (22-02-2013)
Cafwyd noson ddifyr arall yng Nghymdeithas y Penrhyn 20.2.2103, dan ofal y nofelydd Mari Strachan sydd yn wreiddiol o Harlech ond nawr yn byw yng Ngheredigion.Stand Pêl-droed newydd i Gae Baker (19-02-2013)
Seddi newydd a Stand newydd a Stafell Cymorth cyntaf a gwell cyfleusterau bwyd ac yn y blaen!mwy
Ffordd ar gau (18-02-2013)
|
|
|
Mae rhai yn mentro defnyddio'r ffordd yma OND nid i'r gwan galon!!

Angen Tiwtor iaith arwyddion Cymraeg (30-01-2013)
Mae rhieni Hafwen, disgybl 8 oed sy'n fyddar iawn, yn ymladd er mwyn sicrhau Tiwtor iaith arwyddion Cymraeg ar ei chyfer. Mae John a Caryl Clarke yn barod i fynd i gyfraith os nad yw'r Cyngor Sir yn medru darparu cymorth dysgu i'w merch yn Ysgol Penrhyn-coch.mwy
Menyw o Gwmerfyn yn methu cael cyffuriau. (30-01-2013)
Mae Katy Derl-Davis yn dioddef o acromegaly ond yn methu cael y cyffur Pegvisomant er ei fod ar gael yn Lloegr.mwy
Llongyfarchiadau i Florrie Lithgow (30-01-2013)
Llongyfarchiadau i Florrie Lithgow, Ysgol Penrhyn-coch, am ennill cystadleuaeth 'Cogurdd' gyda'r Urdd. Bydd y ffeinal ar 22 Chwe.LLongyfarchiadau hefyd i Elain Donnelly, Charlotte Ralphs, Haf Morgans, ac Owen Galbraith a diolch i gogydd yr ysgol Joanne Watkins.
Llongyfarchiadau i Matthew Wilson (30-01-2013)
Ennillodd Matthew Wilson fedal, y Groes Militaraidd, ym mis Medi, am wrhydri yn Afghanistan.mwy
Mae Bryan yr Organ yn barod! (27-01-2013)
'Dyle ni guro'r Eidal a'r Alban wrth gwrs. Os enillwn ni yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd pwy sy'n gwybod? So Lloegr yn hala ofan arna'i. Pob lwc bois - a peidiwch rhoi trawiad i fi.'mwy
Eira! (18-01-2013)
EIRA! 18.1.13
Diolch byth am got wlân
|
|