EICH CYNRYCHIOLWYR:
|
|
|
Aelod ar Gyngor Sir Ceredigion
Cyng Dai Mason, Cwmisaf, Cwmsymlog, ABERYSTWYTH, Ceredigion SY23 3EZ. 01970 828128 Llais Annibynnol / Independent VoiceY Chwe Mis Cyntaf: Bedydd tân (14.11.12)
Mae 6 mis bellach wedi pasio ers i mi gael fy ethol yn gynghorydd dros blwy' Trefeurig, ac felly dyma gyfle bach i roi ryw syniad i chi o'm profiad fel cynghorydd mor belled.
Y cwestiwn cynta' mae'r rhan fwyaf yn holi i mi yw 'sut mae'n mynd Dai?'
Cwestiwn da – mae'n anodd iawn i mi ei ateb a dweud y gwir oherwydd mae'r rol yma'n un mor newydd i mi. Dwi'n credu bellach fod pethe'n mynd ar y trywydd iawn, a minnau'n ymgyfarwyddo gyda'r swydd, gyda'r prosesau, ac wrth gwrs, gyda'r wleidyddiaeth sy' ynghlwm wrth bopeth.
Un o'r penderfyniadau cyntaf i mi orfod gwneud yn fuan iawn ar ol yr etholiad oedd i be gyfeiriad yr oeddwn i am roi fy hun o fewn y cyngor – a hyn gan wybod yn iawn y buasai fy mhenderfyniad yn debygol o ddylanwadu'n gryf ar ba grwp fuasai'n arwain y cyngor. Bu'n gyfnod llawn cyffro, a bum wrthi'n ddiwyd yn gofyn i'r grwpiau gwahanol sut y bydden nhw'n medru bod o fudd i blwy Trefeurig. Yn y diwedd, penderfynais i ac aelod annibynnol arall, Dafydd Edwards, cynghorydd Llansantffraid i greu grwp 'Llais Annibynnol', grwp annibynnol heb faniffesto, ac wedyn penderfynu y buasai'r grwp yma'n ffurfio 'clymblaid' o fath efo Plaid Cymru – a hyn wrth gwrs yn rhoi y mwyafrif angenrheidiol i'r Blaid i arwain y cyngor. Mae Dafydd a minnau'n hollol argyhoeddedig fod y penderfyniad wedi bod yn un cywir. Yn wir, wedi i ni benderfynu ymuno yn y glymblaid efo Plaid Cymru (penderfyniad a oedd eisoes wedi rhoi'r mwyafrif i'r Blaid i arwain y cyngor), mi wnaeth y grwp Annibynnol arall benderfynu ymuno hefyd. Rwy'n hynod falch fy mod wedi gwneud y penderfyniad yma pan y gwnaethom ni, a sicrhau'r arweinyddiaeth orau yn fy marn i o fewn y cyngor ar gyfer ein plwyf.
Wrth gwrs, golyga hyn hefyd fy mod i fel cynghorydd dros blwy' Trefeurig yn gynghorydd ar yr ochr sy'n arwain, yn hytrach na'n gynghorydd ar yr ochr sy'n gwrthwynebu.
Wedi i'r bennod yna yn ystod y pythefnos cynta' o'r cyngor gael ei sortio, daeth hi'n amser i gydio yn y gwaith, a buan iawn daeth her anhygoel i'n plwy' ni.
Feddyliais i erioed y buaswn yn gweld ein ardal o dan gymaint o ddwr. Ond do, mi ddaeth y dilyw, a nifer o'n ffyrdd a'r nentydd bach yn edrych fel afonydd nerthol.
Gwelwyd pontydd yn cael eu difrodi'n llwyr, glannau nentydd ac afonydd yn diflannu, a nifer o gartrefi yn cael eu gwlychu a'u difrodi'n llwyr. Mi gefais sawl cais am gymorth, a sawl galwad yn nodi problemau ac anghenion brys. Rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu ateb y gofynion yma, ac er efallai fod fy ffordd o ddelio gyda'r nifer o sefyllfaoedd braidd yn anghyffredin yn llygaid y cyngor, rwy'n credu fod y rhan fwyaf o'r sefyllfaoedd wedi eu sortio mor fuan ag oedd yn bosib ar y pryd.
Yn wir, feddyliais i byth y buaswn ymhen ychydig wythnosau o gael fy ethol yn delio gyda'r cynulliad, asiantaeth yr amgylchedd, ac hyd yn oed y fyddin.
Rwy'n dal i weithio'n agos gyda asiantaeth yr amgylchedd ar rai sgil effeithiau o'r llifogydd, ac wedi gallu trefnu pont newydd ym Mhenbontrhydybeddau, gwelliannau i lannau'r afon ym Mhenrhyncoch a Chwmdarren, ac hefyd wedi gallu helpu gwr a gwraig i gael llety dros dro wrth ymyl eu cartre a ddifrodwyd ym Mrogynin.
I mi, bu'n gyfnod o fedydd tân a dweud y lleia'.
O ran y gwaith 'arferol' gyda'r cyngor, mae gen i gyfrifoldebau eraill sy'n perthyn i rol cynghorydd. Mae'n ofynnol i mi eistedd ar nifer o bwyllgorau – rhai ohonynt efo enwau sy'n hollol ddiystyr i mi – megis 'pwyllgor trosolwg a chraffu cymunedau sy'n dysgu' – neu mewn geiriau eraill, pwyllgor 'addysg i bawb'. Rwy' hefyd ar bwyllgor trwyddedau sy'n gyfrifol am drwyddedi tacsis, safleoedd gwersylla, clybiau, tafarnau ac ati, ac hefyd pwyllgor cymunedau ffyniannus.
Rwy'n teithio i gyfarfodydd cyffredinol yn ogystal a chyfarfodydd pwyllgor ym mhencadlys y cyngor yn Aberaeron ryw ddwy / dair gwaith yr wythnos ar gyfartaledd, ac rwy wrth gwrs hefyd yn defnyddio'r amser yma i drafod materion lleol efo fy nghyd gynhorwyr sy'n eistedd ar bwyllgorau eraill, ac hefyd trafod materion lleol gyda'r swyddogion priodol a fuasai'n delio gyda'r materion yna. Mae'n waith diddorol, ac yn agoriad llygad o weld y prosesau sy'n cael eu defnyddio yn rhediad dydd i ddydd y cyngor.
Ond, y pwyllgor pwysicaf rwy'n mynychu yw pwyllgor cymuned plwyf Trefeurig. Mae'n gyfle i mi gael darganfod yn ffurfiol problemau ac anghenion ein plwyf ni o lygaid y ffynnon – sef ein cynghorwyr plwy' yn Nhrefeurig.
Mae'r pwyllgor yma wrth gwrs yn cyfarfod yn achlysurol yn adeilad ysgol Trefeurig – adeilad sydd a'i ddyfodol o dan fygythiad. Rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu sicrhau estyniad o 9 mis ar gyfer unrhyw ymgyrch i godi arian cyn bo'r ysgol yn cael ei roi ar werth gan y cyngor, felly nawr gyfeillion rhaid ystyried o ddifri beth yn union yw dyheadau y bobl lleol dros yr adeilad hyfryd yma. Os yw'r ewyllys yno yn y gymuned i'w defnyddio'n gyson, yna mae angen rhoi'r dyhead a'r ewyllys yma ar waith.
Rhywbeth arall sy' ar feddyliau nifer fawr yn yr ardal yw fferm wynt Nant y Moch. Er nad oes llais uniongyrchol gyda cyngor Ceredigion yn y cynllun, trefnwyd cyfarfod gan Ellen ap Gwynn fel bo' cynghorwyr yr ardaloedd cyfagos, sef Rhodri Davies (Melindwr), Ellen ap Gwynn (CeulanamaesMawr), a minnau yn cael y cyfle i gael gwybod mwy am y cynllun gan y swyddogion sy'n gyfrifol amdano. Mae'n bur debyg y gall ein cymunedau elwa o'r gronfa gymunedol a fydd yn cael ei sefydlu os aiff y cynllun yn ei blaen, ond wrth gwrs, mae'n ddyddiau cynnar eto a does dim sicrwydd hyd yn hyn os aiff y cynllun yn ei flaen neu peidio.
Ac i orffen, cwestiwn mawr arall gyda'r Gaea'n agosau yw busnes y gritio. Rwy' wedi bod mewn cysylltiad gyda'r pennaethiaid yn yr adran sy'n gyfrifol am yr halen, ac er na allai ddatgan unrhyw lwyddiant mawr sylweddol ar gyfer y gaea' yma, cafwyd addewidion gan swyddogion yr adran ar gyfer newidiadau a gwelliannau yn y drefen ar gyfer y gaea' nesa i ardal plwy'Trefeurig. Rwy'n siomedig iawn na allai addo mwy i chi am y gaea' yma, ond mae'r broses o greu newid mewn system sir-eang yn broses hir, a nifer fawr o ardaloedd eraill hefyd o fewn ein sir hefyd yn galw am fwy o'r graean. Cofiwch gysylltu a mi os oes gennych chi bryderon am hyn.
Yn ystod y misoedd cyntaf yma, rwy wedi cael fy mhlesio'n fawr gan barodrwydd fy ngyd-gynghorwyr, a nifer o swyddogion y cyngor i roi arweiniad a chymorth pan fo'i angen. Mae' eu parodrwydd i agor drysau a gwrando arna i fel cynghorydd yn galonogol iawn, a braf iawn yw nodi fod nifer o bethau yn digwydd er lles ein plwy'.
Mae'r 6 mis diwetha wedi hedfan am sawl rheswm, a nawr, a minnau efo bach mwy o brofiad fel cynghorydd, rwy' am ddiolch i chi am eich cefnogaeth a'ch amynedd. Mae'n bleser cael cynrychioli bro fy mebyd fel cynghorydd, ac yn bleser cael bod yn rhan o gyngor sy'n rhedeg yn hwylus dan arweiniad da.
Cofiwch fod croeso i chi gysylltu a mi os oes problem neu angen am gymorth arnoch gen i, neu gan y cyngor. Dyna pam dwi yma, a dyna paham yr etholwyd fi.
Pob hwyl
Dai
Aelod Cynulliad
Elin Jones, 32 Heol y Wig, Aberystwyth, SY23 2LN. 01970 624 516 Plaid Cymru / The Party of WalesGwefan Elin Jones
Aelod Seneddol
BEN LAKE, 32 Heol y Wig, Aberystwyth SY23 2LN. 01970 624 516 Plaid Cymru @BenMLakeAelodau Cynulliad Rhanbarthol (Canol a Gorllewin)
Aelodau Seneddol Ewropeaidd
Cynrychiolydd Ceredigion 2004-2012 Dai Suter.
Cylchlythyr y Cyng Dai Suter, rhifyn 12
CYLCHLYTHYR TREFEURIG Rhifyn 1-11