Sul, 5ed Gorffennaf, 2020


GEIRIAU I'N CYNNAL 16: 'SANT'



Anwyliaid yr Anwel,

Mi fydde Mam yn arfer ein bygwth ni pan o'n ni'n blant, pe byddem wedi bod yn toethan neu'n cwmpo mas: 'Rwy'n mynd o'ch golwg chi gyd, odw wir, i rywle digon pell, imi gael tipyn bach o heddwch. Ry'ch chi'n ddigon i wero nerfs sant!'
Fe fuon ni'n hir yn dod i ddeall beth o'dd Mam yn sôn amdano ac fe ddaethom i'r casgliad mai rhyw berson rhyfedd iawn o'dd nerfsant; fel y crwt bach hwnnw, wrth weddio Gweddi'r Arglwydd, a dybiai mai rhyw le ofnadwy oedd Thames Station - 'and lead us not into Thames Station, but deliver us from evil ...'

Mae'n siŵr fod yna adegau yn ein hanes ni i gyd pan fydd ymddygiad neu ymateb pobl yn ddigon i fynd ar ein nerfau ac ar nerfs y sant mwyaf duwiol a goddefgar. Ond mi fydde'r bygythiad o enau Mam yn llwyddo bob tro i'n sobri a'n tawelu, oherwydd mi fydde'n anodd dychmygu'r cartre rywsut heb fod Mam abiti'r lle.

Mi fyddaf yn dychwelyd yn achlysurol i eglwys y Gelli ar lan afon Syfnai, eglwys Saesneg ei hiaith wedi ei lleoli ar y ffin ieithyddol - y 'Landsker'. Un o ardaloedd 'Little England', fel y cyfeirir ati, lle ma'r 'down belows' yn byw. Fe dreuliais chwe blynedd hynod hapus ymhlith ei thrigolion yn niwedd y saithdegau a'u cael yn halen y ddaear.

Ac oherwydd iddynt fod heb weinidog ers y cyfnod hwnnw daw galwad bob hyn a hyn i ddychwelyd i wasanaethu mewn angladd ac i dalu'r gymwynas olaf i rai o saint eglwys y Gelli. Pobl werinol eu buchedd a theyrngar i achos Iesu Grist.

Ymhlith yr aelodau hynny y bûm i'n gweinyddu yn eu harwyl oedd y 'sant' William Ewart George - gŵr caredig, tawel a diymhongar, aelod cyffredin mewn eglwys, dyn y sêt gefn. Ni chyflawnodd unrhyw wrhydri mawr yn ei fywyd a fyddai'n peri iddo gael ei ganoneiddio gan Bab, ond ro'dd e'n 'sant' wedi'r cyfan.

Deuai'n gyson i'r oedfaon ac fe ddwedai'r wên swil ar ei wyneb a'r cyfarchiad diwastraff ar ei dafod ei fod yn diolch am y cyfle a'r fraint. A phan ddaeth terfyn ar ei daith ddaearol, fe gamodd un sant arall i blith saint y nefoedd pan groesodd William Ewart George o fyd amser i'r byd a bery byth, chwedl Ann Griffiths.

Ie, sant - mae'n air sy'n ymddangos 67 o weithiau yn y Testament Newydd a phob un o'r cyfeiriadau yn sôn am aelodau cyffredin eglwys Iesu Grist.

Y mae'r Apostol Paul yn agor ei lythyr at eglwys Philipi gyda'r cyfarchiad hwn: 'Paul a Timotheus, gweision Crist Iesu, at yr holl saint yng Nghrist Iesu sydd yn Philipi.'

Tref gaerog oedd Philipi a charfan o filwyr Rhufeinig wedi eu lleoli yno i'w gwarchod gan fod i'r dref honno, fel llawer i dref debyg o'r cyfnod hwnnw, ei chwota o drais ac anghydfod.

Ond yn y dref honno sefydlodd Paul eglwys - yr eglwys gyntaf iddo'i phlannu yn Ewrop - ac ro'dd ganddo feddwl uchel o'i haelodaeth. Yn wir, cymaint oedd ei obeithion ynglŷn â'r eglwys hon nes iddo annog eraill i efelychu ei hesiampl. Yn eglwys hael ei rhoddion, mae'r llythyr yn mynegi ei werthfawrogiad o'i theyrngarwch a'i chefnogaeth.

At ei gilydd, criw digon cyffredin oedd aelodau'r eglwys a sefydlodd Paul yno - nodir enwau rhai ohonynt hwnt ac yma yng nghofnod y llythyr. Ro'dd yno wraig o'r enw Lydia, gwraig fusnes fentrus, craff ei barn a brwd ei hysbryd, ac mae angen rhyw bobl felly ar eglwys Iesu Grist o bryd i'w gilydd - pobl â thamaid bach o 'wmff' yn perthyn iddyn nhw, i annog a chalonogi, i gyfeirio a chyffroi.

Nid pob eglwys sydd â cheidwad carchar ymhlith ei haelodaeth, ond yr oedd un o'r rheini ymhlith y rhengoedd yno ac ro'dd 'na hefyd gaethferch ymhlith yr aelodaeth a oedd yn dioddef ffitiau epileptig.
Y rhain ac eraill o'dd y bobl gyffredin a o'dd yn aelodau o eglwys Iesu Grist yn Philipi.

Ym mis Mai 2012 dadorchuddiwyd cerflun efydd o Sant Crannog ar y codiad tir uwchlaw Llangrannog. Lluniwyd y cerflun gan Sebastien Boyesen, un o drigolion y pentref. Roedd Crannog yn ŵyr i Geredig, un o dywysogion Ceredigion o'r 5ed ganrif, ac mae'n siŵr mai'r disgwyliad oedd y byddai yntau'n dilyn ei datcu yn ei dras pendefigaidd. Ond yr hyn a wnaeth Crannog oedd sefydlu cell a chymuned grefyddol yn yr ardal y cyfeiriwn ati bellach fel Llangrannog ac mae'r cerflun o ran ei ddiwyg yn adlewyrchu cyffredinedd ei fuchedd a'i fywyd fel cennad Crist.
sant3


sant


sant 1


Ond wedi dweud hynny, efallai mai gwell o lawer fyddai i ni fabwysiadu arfer y Testament Newydd o ddileu'r 'S' fawr a chyfeirio'r gair 'sant' at y rhai hynny ymhob cenhedlaeth a alwyd gan Dduw i fod yn blant iddo ac yn ddeiliaid ei deyrnas; hynny yw, a defnyddio ymadrodd yr Apostol Paul, y rhai 'yng Nghrist Iesu'. A dyna'r maen prawf, sef y rhai sydd wedi credu ynddo ac wedi ymdebygu iddo yn eu bywyd.

Pobl gyffredin eglwys Philipi yw'r saint fan hyn, rhai yn well na'i gilydd, rhai'n waeth, rhai yn ffyddlon, eraill ddim mor ffyddlon, ond pob un ohonynt yn 'saint yng Nghrist Iesu'.

A chanddo Ef y mae'r ddawn i gerfio, o'n deunydd brau ac o'n gwendid, gerflun y sant.
Wrth i mi lunio'r myfyrdod hwn mi fyddaf, fel yr Apostol Paul yn ei gyfarchiad, yn eich cynnal chi mewn meddwl ac yn eich cofio mewn gweddi. Yn falch ohonoch i gyd ac yn diolch amdanoch - 'yr holl saint yng Nghrist Iesu'. Bendith arnoch.

Rhoist imi lawer arwydd fy mod i'n un o'th blant,
Ac er fy llygredd, Arglwydd, mi hoffwn fod yn sant;
Argraffa ar fy nghalon adnodau'r gyfraith wen
A dwg y pur obeithion a roddaist im i ben. (Gwili)

Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter

DARLLENIADAU: Salm 18: 1-6; Philipiaid 1:1; 4:21; Effesiaid 1: 1-12; Datguddiad 21:7



GWEDDI:


Diolch i ti Arglwydd am y funud hon - dy funud di - a chyfle ynddi i fyfyrio o gylch dy Air. Arwain ni drwy funudau'r dydd newydd hwn a'i ddigwydd a chadw ni rhag eu gwastraffu. Diolchwn iti fod munud yn dy gwmni yn newid gwerth y byd i'n golwg a pheri inni weld pethau o bersbectif gwahanol a newydd. Datguddia inni dy fwriadau a thywys ni i gysegru'n hamser a'n doniau i Ti. Bendithia ni a gwrando'n gweddi yn enw Iesu. Amen.

GWEDDI'R ARGLWYDD