Sul, 12fed Gorffennaf, 2020


GEIRIAU I'N CYNNAL 17: 'Stori'


Anwyliaid yr Anwel,

Mae'n siŵr gen i fod yna nifer ohonoch yn cofio am y diddanwr Max Bygraves a'i arfer o gyfarch ei gynulleidfa trwy ddweud: 'Rwy'n moyn i chi wrando ar stori.'

Ond mae rhannu stori yn fwy na difyrrwch cynulleidfa mewn stiwdio neu theatr - mae i stori'r gallu i ysgogi, i wefreiddio ac i ennyn gweithgarwch.

Bellach, y mae dweud stori yn rhan o gyfrinach llwyddiant cwmniau mawrion a busnesau rhyngwladol. Mi fydd yn gyfrwng i uniaethu â phrofiadau'r arall ac i greu ymdeimlad o falchder, yn anogaeth i newid ac i dyfu.

Medr stori dda danio'r dychymyg ac ysgogi creadigrwydd; medr herio meddylfryd caeth ac ysgogi ymwybyddiaeth wahanol. Mi fydd adrodd stori yn help i ni wneud sens o'n sefyllfaoedd a rhoi cyfeiriad i daith ein hyfory.

Pan eir ati i adrodd stori'r misoedd diwethaf hyn a lledaeniad haint y Coronafirws a fu mor rheibus ei ymosodiad ac mor ddinistriol ei effeithiau, mae'n siŵr y bydd y stori honno yn gymysg o emosiynau. Y colledion a'r tristwch, yr ymroddiad a'r dygnwch, y dyfeisgarwch a'r caredigrwydd.

Ar gychwyn yr argyfwng hwn gwelwyd, on'd do, fesur o hunanoldeb yn cripio i'r wyneb wrth i bobl glirio silffoedd archfarchnadoedd a phentyrru nwyddau mewn ymgais i sicrhau y bydden nhw'n iawn pe digwyddai i bethe fynd yn brin.

Ond pan ddaeth y cyfyngiadau i rym, llwyddwyd i greu ysbryd mwy rhadlon a chymdogol a chyd-ymddibyniad. Buom yn cymeradwyo ymdrechion, yn creu rhwydweithiau cynnal, yn gwirfoddoli cymorth er lles eraill. Ymddangosodd negeseuon yn annog pobl i fod yn garedig ac ystyriol ac i fod yno ar gyfer eraill.

Bellach, gwelwyd llacio'r cyfyngiadau ac ymestyn yr hawl i deithio, gwelwyd disgyblion ysgol yn dychwelyd i'w dosbarthiadau a mwy o siopau yn agor eu drysau ac, er bod galw o hyd i gadw mesur o bellter ac i fod yn ofalus a gwyliadwrus, gwelwyd pethau'n araf ddychwelyd at ryw fesur o normalrwydd.

Y mae dwy elfen yn perthyn i bob argyfwng, sef perygl a chyfle. Ymatebwn i'r perygl trwy dynnu ar yr adnoddau sydd ar gael i geisio ei ddileu tra'n anwesu'r cyfle i ddysgu a darparu pe digwydd i'r argyfwng ddychwelyd. Trwy gydol yr argyfwng presennol y mae canllawiau gwyddonol a meddygol wedi cyfeirio penderfyniadau gwleidyddol ac arweinyddol. Ond y mae hefyd wedi creu sefyllfa lle medrwn holi'r cwestiwn, sut fydd pethau pan ddaw'r cyfnod hwn i ben? Tybed ai dychwelyd i'r fan lle'r oedden ni cynt yw'r disgwyliad neu a fyddwn yn gweld hwn yn gyfle i newid a symud ymlaen? Soniwyd, on'd do, am y 'normal newydd' - sut siâp fydd i hwnnw, tybed?

Y mae'r argyfwng wedi dwyn ei gyfle a'i her hefyd inni o fewn eglwys Iesu Grist. Ar waetha'r gwaharddiad i gynnal oedfaon cyhoeddus ac i ymgynnull mewn adeiladau, profwyd mesur o ddyfeisgarwch a chreadigrwydd. Darlledwyd oedfaon hynod effeithiol ar deledu a thros y We. Cafwyd cyfle i rannu mewn oedfaon gweddi ac astudiaethau Beiblaidd trwy gyfrwng y gwasanaeth fideo-gynadledda Zoom, a bu ambell fyfyrdod ysgrifenedig yn gyfrwng bendith.

Bu'n gyfle, ynghanol dyddiau anodd, inni rannu'r stori oesol am ddyfodiad Iesu Grist i'n byd - yn Waredwr a Phrynwr, yn Atgyfodiad a Bywyd - a'r modd y mae'r stori honno yn gyson gyffwrdd â'n bywydau ni. Yn wir, fe ddown ni'n rhan ohoni. Nid stori yw hi sy'n gorffen ar dudalen glo'r Beibl, ond stori sy'n gyson ychwanegu at ei chynnwys wrth i Dduw ddatguddio'i fwriad a'i ymwneud ym mhob cenhedlaeth A dyna sy'n cynnal momentwm y stori: stori o gysylltiadau ydyw, stori adnabyddiaeth a pherthynas, stori cariad Duw.

Yn yr wythfed bennod o Efengyl Luc fe ddarllenwn fod Iesu a'i ddisgyblion, yn dilyn gwyrth gostegu'r storm, wedi tynnu'r cwch i'r lan yng ngwlad y Geraseniaid. Roedd man y glanio'n arwyddocaol - rhwng mynwent a slangyn tir lle'r oedd cenfaint o foch yn pori. Ond yn fwy arwyddocaol oedd y ffaith iddynt gyfarfod yno â gŵr yng ngafael cythreuliaid. Mae Iesu'n tosturio wrtho, yn bwrw'r cythreuliaid allan ohono ac i mewn i'r moch a'r rheini'n rhuthro dros y dibyn ac yn boddi yn y môr. Mae'r digwydd yn llwyddo i greu braw ar drigolion y pentrefi cyfagos; roeddynt yn amlwg wedi hen gyfarwyddo â'r dyn gwyllt oedd yn rhodio ymysg y beddau ac ro'dd ei weld ef nawr yn eistedd wrth draed Iesu ac yn ei iawn bwyll wedi'u hanesmwytho, a dyma nhw'n gofyn i Iesu adael y lle, i ymbellhau a dychwelyd i'r cwch a mynd oddi yno. Roedd y gŵr a iachawyd am ddod gyda nhw, ond mae Iesu yn dweud wrtho am ddychwelyd i'w gartref ac adrodd wrth bawb ei stori am yr hyn yr oedd Duw wedi ei wneud yn ei fywyd ef.

Rhoddodd Iesu Grist stori newydd i'r gŵr a fu'n rhodio ymysg y beddau a'i gomisiynu i rannu'r stori honno ymhlith pobl ei gynefin a'i gydnabod. Ac mae'n amlwg fod hynny wedi bod yn hynod effeithiol oherwydd pan ddychwelodd Iesu i'r ardal rai misoedd yn ddiweddarach ma'na dyrfa frwd yn ei ddisgwyl, yn casglu o'i gwmpas yn eu hawydd i'w weld a'i glywed. Am fod y gŵr a adferwyd wedi rhannu ei stori ef fe argyhoeddwyd llawer am allu rhyfeddol Iesu Grist ac am fawrion weithredoedd Duw.

Her yr Arglwydd Iesu i'w eglwys ar gyfer yr yfory yw'r her inni rannu'n stori ni am ymwneud Duw yn ein bywyd ac, fel yn hanes y gŵr hwn yn stori Luc, i fod yn dystion iddo o fewn ein broydd ac ymhlith ein cydnabod, fel bod rhannu'r stori yn dod yn gyfrwng i argyhoeddi, i ddyfnhau ffydd ac ymlyniad ymhlith eraill.
Wrth inni ddathlu ein stori hyd yma ac i gyfeirio ein gobeithion am yr hyn a ddaw, boed i ni ymhyfrydu o gael bod yn rhan o eglwys y mae Duw ar waith ynddi - yn ein hysbrydoli a'n calonogi'n barhaus wrth inni gerdded ymlaen i bob yfory newydd.

Yfory? - rwy'n siŵr y daw - yfory
Yn obaith gwyn
Fel haul dros fryn - yn lledu,
A chysgod nos tros waun a rhos
Yn ildio'n ddydd - y rhwymau'n rhydd - yfory.
Fel yr enfys drwy y glaw,
Yn wir, mi wn y daw
Ei wawrddydd.
Yn heddwch wedi'r loes,
Yn goron ar ôl croes - yn newydd.
Yfory, bydd ein stori yn gyffro gwiw
Ein byd i gyd yn drysor drud - y llwyd yn lliw
Ac Ef ein Crist - yn Fyw
Pan ddaw'r yfory, pan ddaw'r yfory. (PMT)



Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter

DARLLENIADAU: Salm 139; Luc 8:26-39.



GWEDDI:


Arglwydd, rho i ni eglwysi a fydd yn fwy gwrol na gofalus, eglwysi a fydd nid yn unig yn cysuro'r anghenus ond yn anesmwytho'r cyfforddus, nid yn unig yn amlygu tangnefedd ond yn galw am gyfiawnder. Eglwysi na fyddant yn troi o'r tu arall heibio, ond yn estyn i fyd dioddefus, yn enw'r Crist, falm iachâd. Eglwysi sydd nid yn unig yn ein galw i addoli ond yn ein danfon ni allan i fod yn genhadon Efengyl y Bywyd yn y byd. Amen.

GWEDDI'R ARGLWYDD