Sul, 19eg Gorffennaf, 2020


GEIRIAU I'N CYNNAL 18: 'Gobaith'



Anwyliaid yr Anwel,
Rhyw chwe milltir i'r gogledd-orllewin o dre Wrecsam ma'na bentre bach o'r enw Hope. Ma'na eglwys yno ac rwy'n cofio i mi gyfarfod un tro ag offeiriad yr eglwys honno mewn cynhadledd eglwysig a bod esgob Llanelwy wedi dweud amdano, gyda fflach yn ei lygaid, 'Here is a man who lives continually in Hope.'

Ar ochr orllewinol y pentref - rhwng Hope a Llanfynydd - y mae Mynydd Hope. Nid yw'n fynydd uchel iawn, rhyw fil o droedfeddi yn unig, ond, am ei fod yr olaf yn y rhes o fynyddoedd sy'n ymestyn i lawr o garneddau'r Berwyn, y mae'r olygfa o ben Mynydd Hope yn rhyfeddol. Yno, o'ch blaen y mae gwastadedd dinas Caer i un cyfeiriad a phenrhyn Cilgwri at lannau Merswy i gyfeiriad arall, ac oddi yno hefyd gellir gweld tref Wrecsam, ei heglwys blwyf hynafol a'i thŵr yn codi'n uchel uwchlaw'r tai.

Wrth droed Mynydd Hope y mae dau bentref ag enwau diddorol iddynt: Caergwrle, gyda'i gastell yn adfeilion, a phentre arall yn dwyn yr enw rhyfedd Cefn-y-bedd. Yn ystod y nawdegau bu'r diweddar Barchedig Brifathro Eifion Powell yn byw i fyny'r ffordd o'n tŷ ni. Bu'n weinidog yn Wrecsam am gyfnod ac yntau a soniodd wrthyf iddo gyfarfod un tro â dyn a fagwyd yng Nghefn-y-bedd ond na fu erioed ar ben Mynydd Hope. Clywodd y dyn lawer o sôn amdano, ac am yr olygfa wych o'i gopa, ond ni thrafferthodd erioed i ddringo i ben y mynydd. Byw yn ymyl yr olygfa, ond heb erioed ei gweld - byw yn ymyl gobaith ond heb ei brofi.

Yn chwedloniaeth gwlad Groeg y ceir y stori am Pandora a'r modd yr aeth ei chwilfrydedd yn drech na hi wrth iddi agor y blwch gwaharddedig hwnnw a gollwng ei holl ddrygau i'r byd, ond fe lwyddodd, fodd bynnag, i gau'r caead mewn pryd a chadw 'Gobaith' rhag dianc ohono.

Y mae gobaith yn medru creu hyder a disgwyliad; yn medru'n cynnal ni ynghanol argyfyngau ac amgylchiadau anodd bywyd; yn fodd i'n codi pan fydd beirniadaeth yn clwyfo a chwip o eiriau'n llesteirio'n hysbryd. Medr gobaith newid ein meddylfryd a'n galluogi i ganfod pethau o bersbectif gwahanol. Ac onid y gobaith o ddarganfod brechlyn effeithiol sy'n gyrru ymdrechion gwyddonol a chlinigol yn y cyfnod hwn mewn ymgais i drechu haint Covid-19.

Y mae'r Salmydd yn ein hatgoffa mai 'yn Nuw y mae ein gobaith fel na'n gwaradwydder' (Salm 42) ac fe ddywed y proffwyd Jeremeia fod gan Dduw gynlluniau ar ein cyfer - cynlluniau er daioni ac nid niwed - er mwyn cynnig inni ddyfodol sy'n llawn gobaith (Jeremeia 29:11).

Y mae'r Apostol Paul yn y bymthegfed bennod o'i lythyr at eglwys Rhufain yn cyfeirio at Dduw fel ffynhonnell gobaith: 'A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith' (Rhufeiniaid 15:13). Bron wedi'r fath ddweud y dylem ychwanegu'r ebychiad 'Waw!' gan fod hwn yn sicr yn un o addewidion mawr y Beibl.

Yn wir, fe gyfeiriwyd at gynnwys y llythyr at y Rhufeiniaid fel un o epistolau godidocaf a phwysica'r Testament Newydd. Y mae ei gynnwys yn rhannu hanfod Efengyl Iesu Grist, sef iddo ddod i gynnig bywyd i'r neb a gredo ynddo a rhoi ei hunan trosom, a thrwy ei aberth a'i fuddugoliaeth ddwyn maddeuant a gwaredigaeth i'n rhan.

Dychmygwch ymateb y rhai a dderbyniodd y llythyr hwn i'w dwylo ganol y ganrif gyntaf - oddeutu'r flwyddyn 56 O.C. - a'u bod, o ddarllen cenadwri'r cynnwys, yn cyrraedd y crescendo grymus hwn, bod Duw yn ffynhonnell gobaith a'r gallu ganddo i'w llenwi â phob llawenydd a thangnefedd a'u cynysgaeddu i'r ymylon â gobaith.

Ac y mae'r dweud hwnnw yn fwy o lawer na rhyw gyfarchiad arwynebol neu ryw ddymuno'n dda wrth ddwyn ei neges i fwcl. Mae Paul fel petai'n codi ei ddwylo'n fendith dros y rhai sy'n darllen cynnwys y llythyr - ac mae'r dweud yn dod yn eiriau cynnal iddynt ynghanol eu hamgylchiadau dyrys ac yn fodd i greu gobaith mewn calon ar gyfer y dyddiau sy'n ymagor.

'Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd ... ' Sylwch nad dyhead sydd yma am ddiferion o lawenydd a thangnefedd bob hyn a hyn, ond eu bod fel ffrydiant yn llifo ac yn ein llenwi.

Y mae llawenydd yn un o allweddeiriau'r Apostol Paul yn ei lythyrau at y gwahanol eglwysi: 'Llawenhewch bob amser' yw ei anogaeth i eglwys Thesalonica (1Thesaloniaid 5:16); 'Cyflawnwch fy llawenydd', meddai wrth gyfeillach eglwys Philipi, 'trwy fod o'r un meddwl, a'r un cariad gennych at eich gilydd ... ' (Philipiad 2:2).

Yn eironig, o holl lythyrau'r Apostol Paul, y rhai mwyaf llawen yw'r epistolau a anfonwyd o garchar, sef y llythyrau at yr Effesiaid, y Philipiaid, y Colosiaid a Philemon. Paul yw'r gŵr y byddech yn tybied y byddai arno angen cefnogaeth o gofio ei amgylchiadau, ond ef yw'r un sydd yn ei rannu. A thrwy gydol ei deithiau, ei ymdrechion, ei helbulon, y garw a'r llyfn, llawenydd yr Arglwydd yw'r nerth sy'n ei gynnal yn barhaus.

Y rhodd arall sy'n llifo o ffynnon Duw'r Gobaith yw tangnefedd. 'A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall a gadwo eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ... ' (Philipiaid 4:7).

'Bydded i Dduw'r tangnefedd ei hun eich sancteiddio yn gyfan gwbl a chadw eich ysbryd a'ch enaid a'ch corff yn gwbl iach a di-fai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist' (I Thesaloniaid 5:23).

Nid ni sy'n creu'r tangnefedd hwn drwy ein gweithredu, ein dianc neu ein hymdawelu - rhodd ydyw oddi wrth Dduw ei hunan, ac nid ni sy'n cadw tangnefedd Duw, ond ei dangnefedd ef sydd yn ein cadw a'n cynnal ni.

Efallai fod yna duedd ynom i feddwl taw rhywbeth meddal yw tangnefedd, yn gyflwr o fodlonrwydd i ni ymdoddi iddo - 'y tangnefedd sydd yn toi diddim diarcholl yr ehangder mawr' chwedl T. H Parry-Williams.

Ond, i'r gwrthwyneb, mae'n rym cadarnhaol a chreadigol, fel Duw ei hunan - grym ydyw sy'n iachau, yn nerthu ac yn cyfeirio.

Mae'r adnod hon o eiddo Paul yn cael ei chyflwyno'n weddi, yn eiriolaeth, yn fendith. Ga i acennu'r dyhead a gofyn i Dduw, sy'n ffynhonnell gobaith, gyfeirio i'ch bywyd chwi lawenydd a thangnefedd, er mwyn i chwi trwy nerth yr Ysbryd Glân orlifo â gobaith.

Gyda'm cofion cynhesaf atoch i gyd, Peter

DARLLENIADAU: Salm 39:1-7; Salm 42; Rhufeiniaid 15:7-13.



GWEDDI:


Ynot ti, O Dad, y mae fy ngobaith - gobaith sydd yn fy nghodi pan wyf ar lawr, gobaith sydd yn fy nghynnal yng nghanol amrywiol amgylchiadau fy mywyd. Diolch am y gobaith sydd inni yn Iesu Grist, yn ei aberth a'i atgyfodiad, a'i fod Ef wedi dod i gynnig inni fywyd a hwnnw'n fywyd helaethach a thragwyddol. Helpa ni i ymddiried ynot o'r newydd. Amen.

GWEDDI'R ARGLWYDD