Sul y Pasg, 12fed Ebrill 2020


Geiriau i'n cynnal 4: Pam cloi'r drysau?



Anwyliaid yr Anwel,

Prin yr â diwrnod heibio heb i ni gael ein hatgoffa yn y wasg ac ar y cyfryngau o'r angen i gadw'n pellter, i ynysu, i ymgadw rhag teithio'n ddiangen, i aros adref a chadw'n saff mewn ymgais i osgoi trosglwyddo'r haint ac ychwanegu at faich gofal yr Awdurdod Iechyd. Mae'r gelyn anweledig hwn nad ydyw'n dderbyniwr wyneb yn medru effeithio ar bawb ohonom yn ddiwahân, bonedd a gwrêng, meddyg a phrif weinidog, ac mae yna gyfrifoldeb arnom i barchu'r cyfarwyddiadau mewn ymgais i'w ddifa. Cau'r drysau a chadw draw yw'r cymhelliad a nifer yn rhannu'r rhwystredigaeth a ddaw yn sgil y cyfyngiad hwnnw wrth i wanwyn fynd ar gerdded.

Yng nghofnod Efengyl Ioan o ddigwyddiadau'r Pasg cyntaf darllenwn fod disgyblion Iesu Grist wedi ymgasglu mewn goruwchystafell ac wedi cloi'r drysau: "Gyda'r nos ar y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos yr oedd y drysau wedi eu cloi lle'r oedd y disgyblion ..." (Ioan 20 adn.19) ac yna saith adnod yn ddiweddarach cawn ail gyfeiriad: "A dyma Iesu'n dod, er bod y drysau wedi eu cloi" (adn. 26).

Pam cloi'r drysau? Onid hwn oedd yr union ddiwrnod y bu rhai o'r cwmni yng ngardd Joseff o Aramathea a chanfod y maen wedi ei dreiglo a'r bedd yn wag? Hwn hefyd oedd y dydd pan gyhoeddodd Mair Magdalen: "Mi a welais yr Arglwydd". Erbyn y prynhawn mi fydde'r hanes mae'n siŵr wedi mynd ar led ac mi fydde'r gweddill wedi clywed y newydd syfrdanol fod Iesu'n fyw.

Ni allodd angau du ddal Iesu'n gaeth
ddim hwy na'r trydydd dydd - yn rhydd y daeth (G.E)

A hwn oedd y trydydd dydd ers ei groeshoelio, dydd buddugoliaeth, dydd Atgyfodiad Iesu, ac eto yn yr oruwchystafell roedd y drysau ar glo.

Od, ond tyfe? Mi fyddech wedi rhyw hanner disgwyl y byddai'r gwragedd a'r disgyblion hynny a fu yn yr ardd ac wedi tystio i rym yr atgyfodiad, eu bod wedi mynd ati i godi baneri a bod y drysau wedi eu taflu led y pen yn agored, yn ddisgwylgar, i'w groesawu'n ôl. Ond yr hyn a gafwyd oedd drysau clo - y byllt wedi eu gosod a'r allwedd wedi ei droi oherwydd fod ofn arnynt. Nid ansicrwydd, nid pryder, ond ofn. Ro'dd eu calonnau yn pwnian a'u hwynebau'n welw mewn dychryn.

Ond i ganol y dychryn a'r ofn hwnnw mae Iesu'n dod, a'r hyn y mae Ioan yn awyddus i'w danlinellu fan hyn ydyw fod Iesu yn Un sy'n medru dod atom ni pan mae'n bywyd yn arw. Ei fod yn medru camu i ganol y patshis ryff, pan mae gofid yn ein llethu ac ofn yn ein hamgylchynu.

Nid pan ryn ni ar ein gorau, nid pan ryn ni'n gryf ac yn llawn hyder, ond pan ryn ni'n methu ymdopi; pan fydd ein byd yn dadfeilio a holl gastelli ein bywyd yn chwalu, bryd hynny fe ddaw ef i'r adwy a rhannu'r cyfarchiad sy'n dwyn hyder a gobaith - "Tangnefedd i chwi."

Pan fydd gofidiau'n anodd inni gario
A phryder yn ein llethu ar bob llaw,
Does ond rhaid gofyn, ac fe gawn ni dderbyn
O gymorth Un sy'n medru difa'r braw. (PMT)

Ie, yn difa'r braw - yn dileu'r ofn - yn camu trwy'r drysau clo a'n cynnal.

Ond roedd yna reswm arall hefyd. Rywsut roedd holl ddigwydd y diwrnodau cynt - y groglith, y groes a'r marw - wedi tolcio'u ffydd, eu holl obeithion wedi'u chwalu a phopeth rywsut wedi dod i ben pan welsant eu Harglwydd yn ca'l ei gyrchu i Golgotha a'i hoelio'n greulon ar groes. Maent wedi cloi'r drws am fod eu ffydd yn fregus.

Fel yn hanes llawer argyfwng, mi fydd lludded a phryder yn ddigon i ni gwestiynu'n ffydd a holi - lle mae Duw yn hyn i gyd?

Onid ynghanol yr argyfwng yw'r ateb - yno'n tosturio, yno'n estyn o'i nerth a'i gysur, yn bwrw ei freichiau o'n cwmpas a'n hymgeleddu.

Mae cwmni a phresenoldeb Iesu Grist yn llwyddo i newid y sefyllfa a throi trallod yn obaith a ffydd fregus yn argyhoeddiad. Fe ddaw ef drwy bob rhwystr a chyfyngiad gan rannu inni o'i dangnefedd a grymuso'n ffydd.

Mae'n dangos iddynt ddwylo ac ôl hoelion arnynt ac ystlys ac arni archoll gwaywffon. Mae'n anadlu arnynt ac yn rhannu ei ysbryd iddynt.

Aeth ugain canrif heibio ers y noson honno pan ddaeth Ef drwy ddrysau clo i gwmni ei ddisgyblion trallodus. Ond medr eu profiad hwy fod yn brofiad i ni y Pasg hwn wrth i ni ymddiried ynddo o'r newydd.

Sut mae hi arnom ni y Pasg hwn tybed? Efallai fod ansicrwydd bywyd, ei bryder a'i ofid yn creu ofn ynom; efallai fod digwyddiadau anodd bywyd, ei galedi a'i golledion wedi tolcio'n ffydd. Ac er i ni glywed cyhoeddi'r neges am fedd gwag a choncwest a buddugoliaeth, gall ei realiti rywsut fethu ein hargyhoeddi a thrown i'n hystafelloedd o'r neilltu a chloi'r drws mewn anobaith.

Cenadwri'r Pasg yw na fedr marwolaeth na bedd na drysau clo ei gyfyngu na'i gaethiwo Ef, ac fe ddaw drwy'n drysau clo ninnau gan ddangos i ni yn ein hofn a'n diffyg ffydd olion ei ddioddefaint trosom a chyhoeddi taw ef ei hunan sydd yno ac na ddylem ofni. Ymddiriedwn ynddo ynghanol lludded a phryder y dyddiau anodd hyn ac ymgyflwynwn ein hunain iddo Ef sy'n Atgyfodiad a Bywyd.

Pan fydd pob drws yn cau yn glep i'n herbyn
A chyfle'n troi'n ddisberod ambell dro
Ond i ni guro, fe gawn brofi'r croeso
A chwmni'r Un all agor pob rhyw glo. (PMT)

Fy nghofion cynhesaf atoch yn rhwymau'r Efengyl, Peter


Darlleniadau: Eseia 40 adnod 31; Eseia 41 adnod 10; Ioan 20 adnodau 19-21

Gweddi


Diolch i ti, O Dad am y gyfeillach y munudau hyn o gylch dy Air ac am y cyfle hwn ym mhenllanw'r Wythnos Fawr i gyhoeddi gyda sicrwydd: "Yr Arglwydd a gyfododd - efe a gyfododd yn wir."

O tyred i'n gwaredu, Iesu da,
fel cynt y daethost ar dy newydd wedd,
a'r drysau 'nghau, at rai dan ofnus bla,
a'u cadarnhau â nerthol air dy hedd:
llefara dy dangnefedd yma nawr
a dangos inni greithiau d'aberth mawr. (John Roberts) 


GWEDDI'R ARGLWYDD