Sul, 19eg Ebrill, 2020


Geiriau i'n cynnal 5: Trannoeth y Pasg


Anwyliaid yr Anwel,

Mae'n dda eich cyfarch wrth i ni rannu â'n gilydd o gylch y Gair ar y Sul wedi'r Pasg - Sul y Pasg Bach.

Mi fyddai gan Mam ryw ddywediadau sy'n llwyddo i dynnu gwên i wyneb o'u cofio, fel y tro hwnnw, wrth i ni ddod allan o'r eglwys ar ddydd ein priodas, pan gyhoeddodd Mam: "Wel, am ddiwrnod bach fflat," nes peri i'r rhai a oedd yn sefyll o'i chwmpas edrych arni mewn syndod. Cyfeirio at y tywydd ro'dd Mam fel ro'dd hi'n digwydd ac nid at lawenydd yr amgylchiad.

Ond fe ŵyr y rhan fwyaf ohonom am ddiwrnodau fflat pan fydd bywyd yn amddifad o wefr a sbarc. Efallai fod i'r dyddiau anodd hyn, a'r orfodaeth i ymgadw rhag ymgynnull a chyfarfod, eu siâr o ddiwrnodau fflat.

Cyfeirir at y Sul hwn yn y Llyfr Gweddi Cyffredin fel 'Low Sunday' ac mae'r teitl hwnnw yn rhyw awgrymu fod y Pasg, gŵyl ganolog y ffydd Gristnogol, bellach wedi ei ddathlu, ei gyfaredd a'i gyffro wedi eu profi a bod pethe rywsut wedi disgyn yn ôl drachefn i lefel yr arferol.

Ond y gwir amdani yw fod yna gymaint mwy o dystiolaeth yn dod i'r amlwg yn y dyddiau sy'n dilyn y Pasg wrth i ryfeddod atgyfodiad Iesu dreiddio'n ddwfn i galonnau ei ddisgyblion a'i ddilynwyr. Fe ddigwydd hynny mewn goruwch-ystafell, ar lan môr, ar lethr mynydd ac mewn swper ar derfyn dydd, a phob un profiad yn llwyddo i gadarnhau'r gwirionedd fod presenoldeb Iesu Grist yn medru newid holl bersbectif ein byw.

Yn 2004 cyhoeddodd Gwasg y Lolfa gasgliad o luniau gan y ffotograffydd Geoff Charles, cyn-ffotograffydd Y Cymro, ac o fyseddu drwy'r cynnwys gellir yn hawdd ategu'r sylw y medr ambell ddarlun weithiau ddweud mwy na thraethawd o eiriau. Mae'r llun sydd ar glawr y gyfrol yn sicr yn llwyddo i wneud hynny. Llun Richard a Catrin Griffith ar brynhawn Sul ym mis Hydref 1945, y ddau yn eu hwythdegau a hwythau ar fin gadael eu cartref ar fferm fynyddig Carneddi, nid nepell o bentref Nanmor yn Eryri, lle roedd eu teulu wedi byw ers canrifoedd. Ddeufis ynghynt daethpwyd o hyd i gorff eu mab Hywel a oedd yn ffermio Carneddi wedi boddi mewn llyn. Mae'r tristwch i'w ganfod yn llygaid y ddau a dwylo'r fam yn cyfleu'r tensiwn a'r chwalfa.

A rywsut mae'r darlun ar glawr y gyfrol yn garreg ateb i'r darlun hwnnw ym mhennod glo Efengyl Luc: darlun o ŵr a gwraig yn eu hiraeth a'u digalondid yn troi am adref o ddinas Jerwsalem wedi digwyddiadau'r Groglith. Mynd adref â'u breuddwydion yn chwilfriw a'u gobeithion yn deilchion. Roedd digwyddiadau'r Groglith hwnnw, y groes a'i waradwydd, wedi llwyddo i chwalu eu holl ddyheadau a doedd dim mwy amdani ond dychwelyd a chydio drachefn yn eu hen ffordd o fyw.

Ond ar eu taith i'w cartref yn Emaus, ma 'na ddiethryn yn ymuno â nhw ac yn dechrau eu holi ac ma'n nhw'n rhannu stori'r digwydd.

Ryw saith milltir o ffordd yw'r daith o Jerwsalem i Emaus, ond fel y gwyddom i gyd, mi fydd ambell daith yn ymddangos yn hirach rywsut nag eraill a hynny'n ddibynnol ar ein hamgylchiadau; ac er mai taith gymharol fer oedd hon i bob pwrpas, roedd hi'n daith anodd i'r ddau yma. Siwrne adre o angladd ydoedd, a phrofiad chwithig yw hwnnw. A dyna lle ma'n nhw'n sgwrsio yn atgofus am y cyfaill ymadawedig a rywsut fedren nhw ddim peidio â rhannu eu siom a'u galar â'r teithiwr dieithr a oedd wedi ymuno â nhw ar y ffordd. Yna, wedi iddynt gyrraedd Emaus, ac oherwydd iddo roi clust garedig i'w gofid, fe wahoddwyd y teithiwr hwnnw i mewn i rannu ychydig o swper. Ond pan gymerodd ef fara yn ei ddwylo a'i fendithio a'i dorri, fe ddigwyddodd y peth rhyfeddaf, toddwyd y dieithrwch, fe agorwyd eu llygaid, ac fe wawriodd ar eu meddyliau syfrdan y ffaith arswydus, orfoleddus, taw Iesu ei hun oedd yno - yr un a hoeliwyd ar groes, a fu farw mewn poenau erchyll, ac a osodwyd yn gelain mewn bedd dridiau ynghynt, yn awr wedi gorchfygu marwolaeth a bedd ac wedi atgyfodi'n fyw.

A do'dd dim byd amdani wedyn ond mynd yn ôl i Jerwsalem ar unwaith i rannu'r newydd rhyfeddol gyda'r disgyblion eraill. "Ry'n ni wedi ei weld E' - mae'n E'n fyw - yn fyw."

A thaith bur wahanol yw honno o Emaus i Jerwsalem, a honno yw'r daith bwysig. Mae'r daith i Emaus yn daith drist, ddiobaith, ddigalon, ond mae'r daith o Emaus yn gyfuniad o orfoledd a llawenydd, o ddathlu a chwerthin.

Ac ar un olwg dyna yw her y cyfnod hwn wedi'r Pasg i bob yr un ohonom ni, sef peri inni ofyn: i ba gyfeiriad ry'n ni'n mynd, ai i Emaus neu o Emaus?

Mi fydd yr adroddiadau dyddiol ar deledu sy'n nodi'r ystadegau syn am y cynnydd yn nifer yr achosion o haint y Coronafeirws ac am y rhif cynyddol o farwolaethau mewn ysbytai, cartrefi gofal ac yn y gymuned yn ddigon i'n diflasu. Ond pan glywn fod ymhlith yr ystadegau hynny rywrai yr ydym ni yn eu hadnabod neu'n sy'n aelod o'n teulu, bryd hynny fe dry'r sefylla'n bersonol, gan ddwyn gwewyr a phryder i'n rhan. Ac onid dyna ydyw profiad cynifer bellach o fewn ein cymdeithas a'n byd ni heddiw? Y rhai hynny sydd wedi eu bwrw i dristwch ac anobaith gan amgylchiadau anodd a chyfyng bywyd - afiechyd, tristwch, colledion, profedigaethau, a lle mae eu bywyd beunyddiol yn ddim byd mwy na brwydr barhaus i ddal ati.
Tebyg mae'n siwr i'r ddau yma ar y ffordd i Emaus. 'Pobl a'u digalondid yn eu hwynebau', i ddefnyddio ymadrodd Luc.

Ond yr hyn yr ydym yn ei ddathlu wedi'r Pasg, ynghyd â miliynau o Gristnogion eraill drwy'r byd, ydyw bod modd newid cyfeiriad ac ansawdd taith bywyd, fod modd darganfod a meddiannu yn ein profiad ninnau wefr a llawenydd y daith o Emaus.

Am fod Iesu Grist yn orchfygwr angau a bedd, yn atgyfodiad a bywyd, mae'r gras a'r cariad a ddaeth i'r byd trwyddo ef yn dragwyddol gyfoes; yn rymusach na holl bwerau dinistriol y byd ac ar gael i ni i gyd heddi.

Yn oriau tywyll ein hamheuon blin a'r wawr ymhell,
Yng nghanol cors ein hanghrediniaeth ddu mewn unig gell,
O tyred atom chwa o Galfarî i ennyn fflam ein ffydd, a'n harwain ni. (Aled Lloyd Davies)

Sut bynnag y mae arnom y dyddiau hyn wedi'r Pasg, boed inni brofi fod cwmni Iesu Grist yn medru newid ansawdd a phersbectif ein byw a chynnig inni, yng nghanol pob argyfwng a chyfyngiad, ei ymgeledd a'i nerth. Wrth ymddiried ynddo fe rydd inni hyder, mewn dyddiau fflat a sefyllfaoedd isel, i ddal ati.

Wrth rodio gyda'r Iesu ar y daith,
mae ofnau yn diflannu ar y daith.
Mae gras ei dyner eiriau,
a golau'r Ysgrythurau,
a hedd ei ddioddefiadau ar y daith,
nefoedd i'n heneidiau ar y daith.

Wrth rodio gyda'r Iesu ar y daith
ein calon sy'n cynhesu ar y daith.
Cawn wres ei gydymdeimlad
a'n cymell gan ei gariad,
a grym yr Atgyfodiad ar y daith:
O diolch byth am Geidwad ar y daith. (Ben Davies)

Fy nghofion cynhesaf atoch yn rhwymau'r Efengyl, Peter


DARLLENIADAU: Salm 46; Eseia 40: 1-5; Luc 24: 13-35


GWEDDI:


Arglwydd, ynghanol pryder ac ansicrwydd ein dyddiau gad inni brofi dy gwmni a'th ymgeledd. Agor ein meddyliau, cynhesa ein calonnau a datguddia dy hun i ni o'r newydd ynghanol y cyffredin a'r arferol.

Symud yn dawel yn ein plith - cyffwrdd â ni - estyn dy nerth a'th gymorth inni.

Gweddiwn am dy gysgod trosom pan gwyd stormydd i'n herbyn, pan fydd argyfyngau'n bygwth a gofidiau yn ein llethu; pan fydd afiechyd yn llesteirio neu hiraeth a thristwch yn llenwi'n byd. Gostega di ein pryderon fel y gostegaist y gwynt ar fôr Galilea un tro.

Cymer y 'rasp' o'n lleisiau a'r tensiynau o'n cyrff a gwasgar pob ysbryd anghynnes o'n meddwl a'n calon a llenwa ni â'th ysbryd Di. Bydded i'th dangnefedd Di, sydd uwchlaw pob deall, ein hamgylchynu a'n cynnal y foment hon ac i bob yfory newydd: Amen.

GWEDDI'R ARGLWYDD