Horeb a Robert ap Gwilym Ddu, M. Euronwy James


Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Tincer 37 (Mawrth 1981) 

Un o englynwyr gorau'r ganrif ddiwethaf oedd Robert ap Gwilym Ddu, ac er mai ffermwr o Eifionydd ydoedd, gwerthfawrogid ei waith yn ne Cymru yn ogystal ag yn y gogledd. Un prawf o hyn yw'r defnydd helaeth a wnaed trwy Gymru benbaladr o'i englynion beddargraff. Nid oes amheuaeth nad yw ef ymhlith yr awduron mwyaf poblogaidd yn y maes arbennig hwn, gyda Daniel Ddu o Geredigion a Chaledfryn hefyd yn hawlio lle amlwg ar feddfeini?r sir hon.

Y fynwent fwyaf nodedig yng Ngheredigion am grynhoad o englynion Robert ap Gwilym Ddu yw un Horeb (B), Penrhyn-coch. Yno ceir cymaint ? naw ohonynt. Defnyddiwyd dau ohonynt ddwywaith, felly gwelir ei waith ar un bedd ar ddeg yn y fynwent. Mae'n bosib mai trwy hap a damwain y digwyddodd hyn; ond, eto, efallai mai cysylltiad y bardd â rhai o aelodau eglwys Horeb sydd i gyfrif am ei boblogrwydd anghyffredin ym Mhenrhyn-coch.

Fel y gŵyr pawb sydd â diddordeb yn hanes Horeb, trigai gwraig weddw o'r enw Lowry Poole ym mhlas Gogerddan tua dau gan mlynedd yn ôl. Daeth yma o gyffiniau Harlech pan benodwyd ei mab William yn oruchwyliwr ar yr ystad.

Yn y flwyddyn 1787 dymunai nith iddi, o'r enw Marged Simon, a'i ffrind Catherine Williams, gael eu bedyddio yn Harlech gan David Hughes, y cenhadwr a weithiai yn y parthau hynny ar y pryd. Fodd bynnag, bwriadai ef fynychu Cymanfa Caerfyrddin ymhen ychydig fisoedd, felly achubodd ei gyfle i ehangu maes ei genhadaeth. Trefnwyd i'r ddwy ferch ifanc fynd i Blas Gogerddan ac iddo ef bregethu yn y plas ar y ffordd i'r gymanfa. Yn ystod yr oedfa cyhoeddodd y cynhelid gwasanaeth bedydd yn yr ardal yr wythnos ddilynol.

Dychwelodd o Gaerfyrddin a David Saunders o Aberduar gydag ef. Daeth tyrfa fawr ynghyd, a phregethodd D. Saunders iddynt yn ymyl pentref Bow Street cyn i D Hughes fedyddio Marged a Catherine yn afon Gyffin, ger Melin Ruel. Dyma'r waith gyntaf i neb weld bedydd o'r fath yng nghyffiniau Aberystwyth. Ymgartrefodd Catherine Williams yn yr ardal hon, ac y mae llawer o'i disgynyddion yma hyd heddiw.

Ymhen ychydig fisoedd wedi ymweliad David Hughes, bedyddiwyd nifer o bobl leol, ac yn eu plith yr oedd Margaret Poole, chwaer William, a gwraig weddw drigain oed o'r enw Ann Owen. Credir mai chwaer Lowry Poole oedd Ann. Dyma gnewyllyn cychwyn achos y Bedyddwyr ym Mhenrhyn-coch, o dan weinidogaeth un John Williams o Drefriw.

A beth sydd gan hyn oll i wneud â Robert ap Gwilym Ddu? Hyn: sef mai perthynas i'w dad oedd y gweinidog cyntaf, John Williams, un o chwiorydd ei dad oedd Lowry Poole, ac Ann Owen hefyd, fwy na thebyg; tra oedd Margaret Poole yn gyfnither iddo.

Yr oedd gan Robert ap Gwilym Ddu o leiaf un cysylltiad arall ag eglwys Horeb. Os eir i'r fynwent, gwelir ar yr ochr isaf i'r llwybr, ger drws y capel, fedd i ddau o weinidogion yr Efengyl. Ar ben y bedd y mae carreg i goffâu'r Parchedig William Roberts a fu'n weinidog ar eglwysi Pen-parc a'r Ferwig, ac a fu farw yn y flwyddyn 1874 yn 73 oed. Ar y garreg y mae'r englyn toddaid a ganlyn gan awdur anhysbys:

Roberts oedd ddiarhebol ? am riniau
Mireinwedd dyn duwiol,
Ei brydferth bregeth nerthol, ? a'i afiaith;
Ni fu cyfanwaith yn fwy cyfunol.

Yn gorwedd ar yr un bedd y mae carreg las i goffâu'r Parchg Simon James, gweinidog ym Mhenrhyn-coch, Tal-y-bont a Goginan. Bu ef farw'n ddyn ifanc 37 oed ar Ionawr 24ain, 1827. Er mai yn Eglwys-wen, Sir Benfro, y ganed ef, treuliodd tua phymtheng mlynedd o'i oes yng ngogledd Cymru. Bu?n genhadwr yn siroedd Môn, Caernarfon a Dinbych, cyn ymsefydlu'n weinidog ar eglwysi wrth odre mynyddoedd yr Eifl. Pregethodd droeon yng nghapel Horeb, Garndolbenmaen, ac y mae'n debygol mai dyna pryd y daeth Robert ap Gwilym Ddu i?w adnabod, gan ei fod yn mynychu cyfarfodydd yn y capel hwnnw.

Symudodd y Parchg Simon James i Geredigion tua mis Mawrth 1826, ond ni chafodd fyw'n hir wedi hynny. Ymddangosodd cofiant byr iddo yn Greal y Bedyddwyr yn Ebrill a Mai 1827, ac ym mis Tachwedd 1828 cyhoeddwyd yn yr un cylchgrawn englyn o waith Robert ap Gwilym Ddu i'w roi ar ei garreg fedd. Wele'r englyn sydd ar y beddfaen:

O garchar daear deui ? foreu barn,
O fru bedd Cyfodi;
Simon buost was imi;
Gwyliaf dy awr galwaf di.

Pa ryfedd, felly, fod y bardd wedi ennill ffafr yr ardalwyr, ac yntau wedi cyfansoddi englyn yn arbennig i'w roi ym mynwent Horeb?
M. Euronwy James
Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Tincer 37 (Mawrth 1981)