Newyddion lleol a digwyddiadau
Straeon newyddion o 2011
Archif newyddion: Newyddion diweddaraf 2018 2017 2016 2015 2014 2013 2012 2011 2010 2009 2008Rhestr fer am wobr (14-12-2011)
Mae Dr Huw Thomas, Ger-y-llan, wedi creu sling arbennig ar gyfer pobl ag anawsterau symud. Sefydlodd Promove UK ym 2007 gyda'i bartner busnes Dana Thomas, sydd hefyd yn hanu o Benrhyn-coch. Erbyn heddiw mae cwsmeriaid y cwmni yn cynnwys y gwasanaethau t?n, ambiwlans a'r heddlu. Defnyddir cynnyrch Promove UK yn Haiti ac India. Yn ?l Syr Stelios Haji-Ioannou:'Hoffwn longyfarch Huw ar gyrraedd y rhestr fer. Rwy'n edmygu ei s?l a'i ymroddiad.'Daniel Davies yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen 2011 (10-10-2011)

Cynhaliwyd noson o gyfarch yn Festri Horeb, Penrhyn-coch ar 28 Medi.
mwy
Enillydd lleol (10-10-2011)
Llongyfarchiadau i Gwen Sims-Williams, Capel Madog ar ennill gwobr am gyfieithu Woyzzeck, Buchner i'r Gymraeg.Neuadd y Penrhyn (29-09-2011)
Dyfarnwyd grant cynnal a chadw gwerth ?114, 000 i Neuadd Penrhyn-coch gan Lywodraeth y Cynulliad.Ysgol Penrhyn-coch (26-09-2011)
Llwyddodd Emyr Greg ac Adam Lewis i orffen ras 10K Abertawe. Diolch i bawb am noddi, i Ffigar am y crysau ac i'r criw a ddaeth i lawr i'n cefnogi. Diolch hefyd am y negeseuon cyn ac ar ôl y ras.Llongyfarchiadau i Aled Llŷr Thomas (21-07-2011)
Ffermwr defaid ifanc yw enillydd cyntaf gwobr goffa Brynle WilliamsHeddiw, enwyd Aled Llŷr Thomas, ffermwr defaid o Gapel Dewi, yn enillydd cyntaf Gwobr Goffa Brynle Williams.
mwy
Clwb P?l-droed Penrhyn-coch - 3ydd orau yng Nghymru. (30-06-2011)
Dyfarnwyd rhaglen Clwb P?l-droed Penrhyn-och yn drydedd dros Gymru gyfan. Dewiswyd y lle 1af i TNS, ac ail i Gastell Nedd gan 'Welsh Football Magazine'. Llongyfarchiadau i Jack a'i dim am yr holl waith trwy'r tymor.mwy
MBE i Glanceulan! (20-06-2011)
MBE i Glanceulan!Llongyfarchiadau i Dr Jeremy Davies ar ennill MBE yn restr anrhydeddau adeg pen blawydd y Frenhines, am ei waith fel gwyddonydd gyda'r Arolwg Daeareg Prydeinig.
Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn (20-06-2011)

Clerc newydd i Gyngor Trefeurig (18-03-2011)
Yng nghyfarfod y Cyngor Cymuned ar 15 Mawrth cadarnhawyd penodiad clerc newydd i'r Cyngor, sef Mrs Meinir Jenkins, Llanfarian. Mae Mrs Jenkins yn brofiadol yn y gwaith gan ei bod eisoes yn Glerc Gyngor Cymuned Llanfarian a Chyngor Cymuned y Faenor. Bydd yn dechrau ar ei gwaith yn Ebrill, yn dilyn ymddeoliad Mrs Pat Walker, a wasanaethodd y Cyngor fel Clerc ers 1979.IBERS (29-01-2011)
Mae'r orsaf prawf ar gyfer y Teirw Cymreig yn weithredol. Mae'r 10 tarw cyntaf wedi cyrraedd.Farmers Guardian 28/1/2011.
mwy
BLWYDDYN NEWYDD DDA I CHWI ac i bawb sydd yn y tŷ! (20-01-2011)

Hel Calennig yn fore Dydd Calan ym Mhenrhyn-coch