Newyddion lleol a digwyddiadau
Straeon newyddion o 2020
Archif newyddion: Newyddion diweddaraf 2020 2019 2018 2017 2016 2015 2014 2013 2012 2011 2010 2009 2008Pobol y Topie gan R. E. Huws (05-11-2020)
Hanes difyr dros 100 o ddynion a merched a wnaeth gyfraniad i fywyd cyfoethog un o gymunedau gogledd Ceredigion, ac eraill a anwyd yn Bont-goch ac a wnaeth eu cyfraniad y tu hwnt i Geredigion, mewn mannau eraill yng Nghymru, neu Loegr, ac mewn nifer o wledydd tramor.Yn eu plith mae arlunwyr, athrawon, awduron, beirdd, bonedd, cenhadon, crefftwyr, ffermwyr, gweinidogion ac offeiriaid, milwyr, mwynwyr a pheirianwyr mwyngloddio, a detholiad o gymeriadau gwledig sy'n cynnwys ambell ecsentrig.
Mae'r awdur wedi byw yn Bont-goch ers bron ugain mlynedd. Cyn ei ymddeoliad bu'n Bennaeth Gwasanaethau Darllen ac Ymholiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

mwy
Profion cerdded mewn bellach ar gael ar gyfer tref Aberystwyth (30-09-2020)
O ddydd Mercher 30 Medi 2020, gall pobl yn Aberystwyth sydd â symptomau COVID-19 gael mynediad at brofion (trwy apwyntiad o flaen llaw) trwy gyfleuster cerdded mewn dros dro yn y dref.Mae'r cyfleuster wedi'i leoli yn hen adeilad meithrinfa y brifysgol (y tu ôl i Feddygfa Padarn, ond heb fod yn gysylltiedig ag ef), Rhiw Penglais, Aberystwyth
mwy
Llongyfarchiadau i Niall Griffiths! (31-07-2020)
Enillydd ffuglen a Prif Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2020
Cymorth Cristnogol (02-07-2020)
Wythnos CYMORTH CRISTNOGOL
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn. Mae dyddiad cau y casgliad wedi ei ymestyn hyd at 30 Mehefin.

Clwb Pêl-droed Penrhyn-coch (16-06-2020)
Y Rheolwr newydd yw Aneurin Thomas - sydd wedi chwarae dros 400 i nifer o glybiau @LlaniTownfc @tnsfc @NewtownAFC a @AberystwythTown.Mae hefyd wedi chware yn Ewrop ac wedi cynrychioli Cymru ar lefel hanner proffesiynol.
Clwb Pêl-droed Penrhyn-coch (26-05-2020)
Mae Gari Lewis wedi ymddiswyddo ar ôl 9 mlynedd llwyddiannus fel rheolwr.
Cofid 19 (27-04-2020)
Coronafeirws: Nid yw'n bosib cynnal oedfa yn y Capel ar hyn o bryd. Diolch i Peter am baratoi'r Myfyrdodau isod:
• Geiriau i'n Cynnal 1: Duw Gyda ni
• Geiriau i'n Cynnal 2: Pwy yw fy nghymydog?
• Geiriau i'n Cynnal 3: Duw trosom ni
• Geiriau i'n Cynnal 4: Pam cloi'r drysau?
• Geiriau i'n Cynnal 5: Trannoeth y Pasg
• Geiriau i'n Cynnal 6: Pan ddaw'r bore
• Geiriau i'n Cynnal 7: Duw mewn man tywyll
• Geiriau i'n Cynnal 8: Disgwyl
• Geiriau i'n Cynnal 2: Pwy yw fy nghymydog?
• Geiriau i'n Cynnal 3: Duw trosom ni
• Geiriau i'n Cynnal 4: Pam cloi'r drysau?
• Geiriau i'n Cynnal 5: Trannoeth y Pasg
• Geiriau i'n Cynnal 6: Pan ddaw'r bore
• Geiriau i'n Cynnal 7: Duw mewn man tywyll
• Geiriau i'n Cynnal 8: Disgwyl
Coronafeirws (05-04-2020)
DIM BORE COFFI yn Neuadd yr Eglwys tan mis Mai
CANSLWYD gemau pêl-droed tan 4 Ebrill
CANSLWYD Cinio Cymdeithas y Penrhyn
CANSLWYD Cinio Cymunedol am y tro
GOHIRIWYD Cystadleuaeth Pel-droed Eric ac Arthur Thomas - tan 4/5 Gorffennaf
GOHIRIWYD Sesiwn BroAber_360 nos Iau 19/3
CANSLWYD CYMANFA GANU UNEDIG GOGLEDD CEREDIGION 3 Mai
CANSLWYD - EISTEDDFOD GADEIRIOL PENRHYN-COCH 24/25 Ebrill
CAPEL HOREB: Yn unol â chyfarwyddyd diweddaraf y Llywodraeth ni chynhelir oedfaon na Chlwb Sul am gyfnod amhenodol. OS OES ANGEN CYMORTH YMARFEROL AR UNRHYW UN RHOWCH WYBOD - golygydd@trefeurig.org. Cymerwch ofal!
EGLWYS S IOAN: Ni fydd gwasanaethau ar y Sul neu ar adegau eraill (gan gynnwys Llan Llanast a Chlwb Sul) hyd nes bod datganiad yn dod sy'n nodi yn wahanol. Mae hyn yn ganlyniad i'r sefyllfa Coronafeirws.
CAPEL MADOG: dim oedfaon
YSGOLION Y SIR yn cau Gwener 20 Mawrth 2020
Coronafeirws (05-04-2020)
23/3 Mae PATRASA wedi penderfynu cau'r Cae Chwarae a'r Cyrtiau Tennis ar unwaith. Bydd y gatiau ar glo. Os gwelwch yn dda, peidiwch â dringo drostynt a defnyddio'r cyfarpar.
Y Tincer (05-04-2020)
Y TINCER
25/3 Oherwydd y sefyllfa bresennol mae'n amhosibl cyhoeddi Y Tincer y mis yma yn ei ffurf arferol. Ond gan fod y papur yn cael ei baratoi'n ddigidol penderfynwyd dod â fersiwn ddigidol yn unig allan. Mae'r cyswllt rhwng y golygydd a'r dylunydd a hefyd 98 y cant o'r gohebyddion arferol trwy ebost.
Gwahoddir y gohebyddion arferol ac eraill i yrru deunydd i YTincer@gmail.com. Mae'r dyddiad cau wedi ei ymestyn i dydd Gwener 3 Ebrill. Wythnos yn ychwanegol felly i lunio adroddiad neu orffen yr erthygl yna sydd ar ei hanner ers tro!
Bydd modd dosbarthu y rhifyn trwy ei yrru trwy ebost, a bydd hefyd ar gael ar dudalen Y Tincer ar wefan Trefeurig yn ogystal â rhai gwefanau eraill fel Bro Aber360 Ni chodir tâl am y rhifyn hwn.
Coronafeirws (23-03-2020)
Os oes angen help:
Garej Tymawr: 828330
Siop: sioppenrhyn@btinternet.com neu 828312
Oriau Agor: 9.00-5.00



Eglwys Sant Ioan (04-03-2020)

Helen Palmer, Archifydd Ceredigion, oedd y siaradwraig wadd yng nghyfarfod Urdd y Gwragedd yn Neuadd Eglwys S Ioan, Penrhyn-coch nos Lun 3 Mawrth. Cafwyd ganddi gyflwyniad difyr i gasgliad Florrie Hamer, gan ganolbwyntio yn bennaf ar ei pherthynas â theulu Stad Gogerddan.
Roedd Florrie Hamer yn gasglwr brwd o bob math o ddogfennau, yn lluniau, biliau, llythyron a thoriadau papur newydd. Ond yn bwysicach na hynny, gadawodd lyfrau nodiadau niferus a dyddiaduron yn cofnodi pob agwedd o fywyd pob dydd ar stad Gogerddan, bywyd sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn.
Gwnaeth yr un peth ar gyfer pentrefi Bow Street a Phenrhyn-coch (mae’r casgliad hwnnw yn Llyfrgell Genedlaethol Cynru) gan restru’r tai, dyddiad adeiladu a nodyn am bawb o’r trigolion. Diddorol oedd clywed am arferion cymdeithasol slawer dydd, Ysgoldy Lady Pryse, ac ymweliadau’r tinceriaid i’r ardal a chael darllen rhai o’r dogfennau drosom ein hunain.
Wrth edrych nôl heddiw gallwn werthfawrogi’r holl waith manwl â wnaed ganddi. Tamaid i aros pryd oedd hwn. Os oes diddordeb gyda chi i weld rhagor mae croeso mawr ichi yn Archifau Ceredigion, Canolfan Alun R. Edwards, Neuadd y Dre, Aberystwyth.
Dyma’r cyswllt i Gasgliad Florrie Hamer:
http://archifdy-ceredigion.org.uk/catalogue.php?sched=adx.0415
Llwybr droed o Benrhyn-coch i IBERS/Bow St: "STOP THE CHOP"? (20-02-2020)
Gwaith wedi cychwyn ar y llwybr rhwng Penrhyn-coch a IBERS. Nid pawb sy'n hapus. Mae deiseb yn erbyn torri'r clawdd yn Swyddfa'r Post ac arwydd STOP THE CHOP wedi ymddangos ar y clawdd.


Cymdeithas y Penrhyn Cyfarfod Ionawr (16-01-2020)

Nofel dditectif boblogaidd gyfoes a thywyll wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Mae'n adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledu Scandi sy'n boblogaidd tu hwnt ar hyn o bryd. Ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yn y twyni mae ddau dditectif, Taliesin ac MJ, yn mynd ar drywydd y llofrudd (Gwales)
Daeth llond festri ynghyd i gyfarfod mis Ionawr o Gymdeithas y Penrhyn i glywed Alun Davies, awdur Ar Drywydd Llofrudd, yn sôn am ei brofiad o sgrifennu ei nofel gyntaf. Yn enedigol o Benrhyn-coch, mae Alun bellach yn byw yng Nghaerdydd, ond dewisodd Aberystwyth, y dref lle y'i magwyd, fel lleoliad ei nofel.
Gyda chymorth lluniau o gloriau saith o lyfrau amrywiol llwyddodd i ddatgelu sawl peth amdano'i hun a sut yr aeth ati i sgrifennu'r nofel. Soniodd am bwysigrwydd lleoliad (megis yn nofelau Morse), saernïo plot (fel yn nofel Agatha Christie Then There Were None) a sut i gyfleu gwahanol safbwyntiau ei ddau brif gymeriad a'u barn am ei gilydd (rhywbeth sy'n deillio o ddarllen nofel heriol Murakami, 1Q84).

Cyfeiriodd hefyd at awduron megis Llwyd Owen, Guto Dafydd a Geraint Evans, y tri wedi cyfrannu mewn gwahanol ffyrdd i'w ysbrydoli ac i roi'r hyder iddo gysylltu â gwasg a chael cydweithio â golygydd.

Mae Alun yn rhedwr profiadol ac mae'n edrych ar y profiad o sgrifennu nofel fel rhedeg marathon. Does dim troi'n ôl. Rhaid cadw i fynd nes cyrraedd y diwedd.
Mae Alun wrthi'n gweithio ar yr ail nofel o'i drioleg ac mi fydd hi mas erbyn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion mis Awst.
Archif newyddion: Newyddion diweddaraf 2020 2019 2018 2017 2016 2015 2014 2013 2012 2011 2010 2009 2008